1Ac am yr amserau a’r prydiau, frodyr, nid rhaid i chwi scrifennu o honof attoch.
2O blegit chwi eich hunain a ŵyddoch yn hyspys y daw Math.24.44.|MAT 24:44. 2.pet.3.10.|2PE 3:10. gwele3.3.|REV 3:3 & 16.15.dydd yr Arglwydd fel lleidr o hyd nôs.
3Canys pan ddywedant, tangneddyf a diogelwch, yna y daw arnynt ddestruwiad disymmwth megis gofid gwraig feichiog wrth escor, ac ni ddiangant.
4Ond chwychwi frodyr, nid ydych mewn tywyllwch fel y goddiweddo y dydd hwnnw chwi megis lleidr.
5Eithr chwychwi oll plant y goleuni ydych, a phlant y dydd: nid ydym ni yn eiddo’r nôs na’r tywyllwch,
6Am hynny na chyscwn fel eraill, eithr gwiliwn a byddwn sobr.
7Canys y rhai a gyscant, y nôs y cyscant, a’r rhai a feddwant, y nôs y meddwant:
8Eithr nyni y rhai ydym o’r dydd, byddwn sobr Esai.59.17.|ISA 59:17. ephe.6.17.wedi ymwisco â dwyfronneg ffydd, â chariad, a gobaith yr iechydwriaeth yn lle helm.
9Canys ni ddarparodd Duw nyni i ddigllonedd: ond i gaffael iechydwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist.
10Yr hwn a fu farw trosom, fel pa vn bynnag a wnelom ai gwilied ai cyscu, y byddom fyw gyd ag ef.
11O herwydd pa ham cynghorwch bawb ei gilydd ac adailedwch bob vn ei gilydd megis yr ydych yn gwneuthur.
12Ac yr ydym ni yn attolwg i chwi frodyr, adnabod y rhai sy yn llafurio yn eich mysc, ac ydynt i’ch llywodraethu yn yr Arglwydd, ac yn eich rhybuddio.
13A rhoddwch eich traserch arnynt er mwyn eu gwaith hwy: Byddwch dangneddefus yn eich plith eich hunain.
14Ac yr ydym yn deisyf arnoch frodyr, rhybuddiwch y rhai anllywodraethus: diddenwch y rhai gwan feddwl: cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb.
15 Dihar.17.13. & 20.22.|PRO 20:22. math.5.39.|MAT 5:39. ruf.12.17.|ROM 12:17. 1.pet.3.9. Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb: eithr yn oestadol dilynwch yr hyn sydd dda i chwi eich hunain, ac i bawb.
16Byddwch lawen yn oestadol.
17 Luc.18.1. Gweddiwch yn ddibaid.
18Ym mhôb dim diolchwch: canys hyn yw ewyllys Duw yng-Hrist Iesu tu ag attoch
19Na ddiffoddwch yr Yspryd.
20Na ddirmygwch brophwydoliaeth.
21Profwch bôb dim, ac atteliwch yr hyn sydd dda.
22Ymgedwch rhag pôb rhith drygioni.
23A Duw y tangneddyf a’ch sancteiddio yn gwbl oll, a chadwer eich yspryd oll, a’ch enaid, a’ch corph yn ddiargyoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Ghrist.
24 1.Cor.1.9. Ffyddlon yw’r hwn a’ch galwodd, yr hwn hefyd ai gwna.
25O frodyr, gweddiwch drosom.
26Anherchwch yr hôll frodyr a chusā sancteiddiol.
27Yr ydwyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd ar ddarllen y llythyr hwn i’r oll Sainct y brodyr.
28Grâs ein Harglwydd Iesu Ghrist fyddo gyd â chwi. Amen.
Cyntaf at y Thessaloniaid a scrifennwyd o Athen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.