Esay 47 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLVII.Dinistr y Babyloniaid a’r achos o hynny.

1Descyn, ac eistedd yn y llwch forwyn, ferch Babilon: eistedd i lawr heb orseddfainc ferch y Caldeaid: canys ni’th alwant mwy yn dyner, ac yn foethus.

2Cymmer feini melin, a mâla di flawd, datcuddia dy lywethau, noetha dy sodlau, dinoetha dy forddwydydd, dos drwy afonydd.

3Dy fryntni a ddatcuddir, dy warth hefyd a welir, dialaf, ac ni adawaf i ddŷn fyng-wrthwynebu.

4Ein gwaredudd ni, ei enw Arglwydd y lluoedd, Sanct Israel.

5Eistedd yn ddistaw, a dôs mewn tywyllwch ferch y Caldeaid, canys ni’th alwant mwy yn arglwyddes y teyrnasoedd.

6Digiais wrth fy mhobl, halogais fy etifeddiaeth, rhoddais hwynt yn dy law di, ni chymmeraist drugaredd arnynt, rhoddaist dy iau yn drom iawn ar yr henuriaid.

7A dywedaist, byth y byddaf arglwyddes, felly nid ystyriaist hyn, ac ni chofiaist ei diwedd hi.

8Ond yn awr gwrando hyn y foethus yr hon a drig yn ddiofal, yr hon a ddywed yn ei chalon, myfi sydd ac nid neb amgenach: nid eisteddaf yn weddw, ac ni chaf ŵybod beth yw dihepiledd.

9Y ddau beth hyn a ddeuant it yn ddisymwth yr vn dydd, dihepiledd, a gweddwdod, yn gwbl y deuant arnat, er amlder dy hudolion, a mawr nerth dy swynyddion.

10Canys ymddyriedaist yn dy ddrygioni, dywedaist ni’m gwel dy ddoethineb, a’th ŵybodaeth a’th hurtiant, fel y dywedi yn dy galon, myfi ac nid neb amgen.

11Am hynny y daw arnat ddrygfyd yr hwn ni chei ŵybod ei ddechreuad, a syrth arnat ddinistr ni’s gelli ei ochelyd: ie daw arnat ddestruw heb ŵybod it.

12Saf yn aur gyd a’th swynyddion, a chyd ag amlder dy hudolion yn y rhai’r ymflinaist o’th ieuengctid, i edrych a elli wneuthur llês, i edrych a fyddi grymmus.

13Ymflinaist yn amlder dy gynghorion dy hun, safed yn awr astronomyddion y nefoedd y rhai a dremmiant ar y sêr, y rhai a yspysant am y misoedd, ac achubant di oddi wrth y pethau a ddeuant arnat.

14Wele hwynt hwy a fyddant fel sofl, tân ai llysc hwynt, ni waredant eu henioes o feddiant y fflam, nid farworyn i ymdwymo, thân i eistedd ar ei gyfer.

15Felly’r aethant hwy it, gyd a’r rhai y blinaist, dy farsiand-wŷr o’th ieuengtid, cyrwydrasant bob vn ar ei gyfer, heb yn dy achub di.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help