1Y Trydydd dydd yr eisteddais dann dderwen, yna y daeth llef attaf o berth gan ddywedyd, Esdras, Esdras.
2A minnef a atebais gan ddywedyd, dymma fi ô Arglwydd: ac mi a sefais ar fy nhraed.
3Yna y dywedodd efe wrthif, Exod.3.1.yn y berth yr ymddangosais i Moses, ac yr ymddiddenais ag ef pan oedd fy mhobl yn gwasanaethu yn yr Aipht.
4A danfonais ef, a thywysais fy mhobl allan o’r Aipht, a dygais ef i fynu i fynydd Sinai, lle y cedwais ef gyd â mi yn hir o amser:
5A dangosais iddo lawer o ryfeddodau, a chyfrinach yr amseroedd, a’r diwedd, a gorchymynnais iddo gan ddywedyd,
6Y geiriau hyn a fynegi, a’r rhai hyn a gêli.
7Ac yn awr y dywedaf wrthit ti,
8Ystyria di yn dy galon yr arwyddion a ddangosais i ti, a’r breuddwydion a welaist, a’r deongliad a glywaist.
9Canys dygir di ymmaith oddi wrth y cwbl, ac o hyn allan yr arhoi gyd a’m cyngor maufi, a chyd a’th gyffelyb, hyd ddiwedd yr amseroedd.
10Canys y bŷd a gollodd ei ieuengtid, a’r amseroedd sy yn derchreu heneiddio.
11Canys y bŷd a rannwyd yn ddeuddec rhann, a dêc rhan o hynny a aeth ymmaith eusus, a hanner y ddecfed rann.
12Ac y mae yn ôl yr hyn sydd ar ôl hanner y ddecfed rann.
13Am hynny gofot dy dŷ mewn trefn, a cherydda dy bobl, cyssura y rhai fy ostyngedic o honynt, ac ymwrthod a llygredigaeth.
14Gollwng oddi wrthit bob meddwl marwol, bwrw ymmaith feichiau dynion, a diosc y naturiaeth wann,
15Bwrw heibio y meddyliau trymmaf sydd gennit, a ffôa ar frys oddi wrth y pethau hynn.
16Canys am y drygioni a’r anwiredd a welaist yn awr y digwydd, gwnant etto yn llawer gwaeth.
17Canys pa gwannaf fyddo ’r byd wrth oedran, Matth.24.7.mwy y tŷf drygioni ar y rhai a erys ynddo.
18Canys y gwirionedd a ffôdd ym mhell, a chelwydd sydd yn agos: canys bellach y pryssura y weledigaeth a welaist i ddyfod.
19Yna yr atebais o’th flaen di gan ddywedyd,
20Wele Arglwydd, mi a âf i geryddu yr bobl sydd gydrychol fel y gorchymynnaist i mi ond pwy a rybuddia y rhai a aner rhagllaw: fel hyn y gosodwyd y bŷd mewn tywyllwch, a’r rhai sy yn trigo ynddo sy heb oleuni.
21Dy gyfraith a loscwyd, am hynny ni’s gŵyr neb y pethau a wnaethost ti, na’r gweithredoedd a wneir o hyn allan.
22Ond os cefais ffafor ger dy fron di, danfon dy Ysbryd glân i mi, a mi a scrifennaf y cwbl a’r a wnaethbwyd yn y bŷd er y dechreuad, yr hyn a scryfennasid yn dy gyfraith, fel y gallo gwŷr gaêl y llwybr, ac fel y byddo byw y saŵl a fyddo yn yr amseroedd diweddaf.
23Ac efe a’m hatebodd gan ddywedyd, dôs ymmaith, cascl y bobl yng-hŷd, a dywet wrthynt, nad edrychant am danat dros ddeugain nhiwrnod.
24Ac edrych ar gasclu o honot lawer o goed box, a chymmer gyd â thi, Sarea, Dabria, Selemia, Ecanus, ac Asiel, y pump hynn, y rhai a fedrant scrifennu yn chwyrn:
25A thyret ymma, ac mi a oleuaf gannwyll o ddeall yn dy galon yr hon ni’s diffoddir ne’s cyflawni y pethau a ddechreuech di eu scryfennu.
26Ac yna y dangosi ryw bethau yn oleu i’r synhwyrol, a rhyw bethau yn gyfrinachol i’r doethion: y prŷd hynn y foru y cei di ddechreu scrifennu.
27Yna yr euthum allan fel y gorchymynnodd efe i mi, a chesclais yr holl bobl yng-hyd, a dywedais,
28Gwrando y geiriau hyn ô Israel,
29Ein tadau yn y dechreu oeddynt ddieithraid yn yr Aipht, o’r hwn le y gwaredwyd hwynt,
30A derbynniasant gyfraith y bywyd, yr hon ni’s cadwasant, a’r hon a droseddasoch chwithau hefyd ar eu hôl hwynt.
31Yna y rhānwyd y wlâd sef Sion rhyngoch chwi wrth goel-brennau, ond eich tadau a chwithau eich hunain hefyd a wnaethoch ar fai, ac ni chadwasoch y ffordd a orchymynnodd y Goruchaf i chwi.
32Ac yn gymmaint ai fod efe yn farnwr cyfiawn, efe a ddug oddi arnoch mewn amser, y peth a roddase efe i chwi.
33Ac yn awr ymma yr ydych, a’ch brodyr yn eich plith.
34Am hynny os chwi a ddarostwngwch eich deall, ac a droiwch eich calonnau, chwi a gedwir yn fyw, ac yn ôl marwolaeth y cewch drugaredd.
35Canys yn ôl marwolaeth y daw y farnedigaeth pan fyddom byw trachefn: ac yno y bydd henw y cyfiawn yn eglur, a gweithredoedd yr annuwiol yn olau.
36Am hynny na ddeled neb ar fy ôl, ac na edryched am danaf y deugain nhiwrnod hynn.
37Felly y cymmerais y pum gŵr, fel y gorchymynnodd efe i mi, ac a aethum i’r maes, ac a arhosasom yno.
38Yr ail dydd, llef a’m galwodd gan ddywedyd, Esdras, agor dy safn, ac ôf y peth a roddwyf i ti iw ŷfed.
39Yna yr agorais fy safn, ac wele, efe a estynnodd i mi gwppan llawn, yr hwn oedd yn llawn fel pe bydde o ddŵfr, ond ei liw ef oedd megis tân.
40Ac mi ai cymmerais ef, ac ai hyfais, ac wedi i mi ei yfed, fyng-halon a ddeallodd, a doethineb a ddaeth i’m dwyfron, canys fy ysbryd a gryfhaodd mewn côf.
41A’m genau a agorwyd, ac ni chaeodd mwy.
42Y Goruchaf a roddes ddeall i’r pum gŵr, fel yr scrifennasant y pethau a ddywedasid am y nos, yr hyn ni’s deallasant.
43Ond y nôs y bwytasant fara, a minne a leferais liw dydd, ac ni thewais y nôs.
44Mewn deugain nhiwrnod hwy a scrifennasant ddau cant a phedwar o lyfrau.
45A digwyddodd, pan gyflawnwyd y deugain nhiwrnod, y Goruchaf a lefarodd gan ddywedyd, y llyfr cyntaf a scrifennaist mynega ar gyhoedd, fel y gallo y teilwng a’r anheilwng ei ddarllen ef.
46Ond cadw y dêc a thrugain diwethaf, fel y gallech eu rhoddi hwynt yn vnic i’r rhai sydd ddoethion ym mysc y bobl.
47Canys ynddynt hwy y mae ffynnon y deall, a dechreu doethineb, a ffrŵd y gŵybodaeth.
48Ac felly y gwneuthum.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.