2.Samuel 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.Eneiniad Dafydd yn frenin ar Israel. 7 Dafydd yn ennull ymddiffynfa Sion. 19 ac yn gorchfygu y Philistiaid dwywaith.

1Yna holl lwythau Israel a ddaethāt at Dafydd i Hebron: 1.Cron.11.8.ac a lefarasant gan ddywedyd, wele dy ascwrn di, a’th gnawd di ydym ni.

2Cyn hyn hefyd pan oedd Saul yn frenin arnom ni ti oeddit yn rheoli Israel: a dywedodd yr Arglwydd wrthit ti, ti Psal.78.71.a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi yn flaenor ar Israel.

3Felly holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron, a’r brenin Dafydd a wnaeth gyfammod a hwynt yn Hebron ger bron yr Arglwydd: ac hwy a eneiniasant Ddafydd yn frenin ar Israel.

4Mab deng mlwydd ar hugain Dafydd pan deyrnasodd efe deugain mhlynedd y teyrnasod efe.

5Yn Hebron Pen.2.11.y teyrnasodd efe ar Iuda saith mlynedd, a chwe mîs: ac yn Ierusalem y teyrnasodd efe dair blynedd ar ddec ar hugain ar holl Israel, a Iuda.

6Ar brenin ai wŷr a aethant i Ierusalem at yr Iebusiaid presswyl-wyr y wlâd: y rhai a lefarasant wrth Ddafydd gan ddywedyd, ni ddeui di ymma oni thynni ymmaith y deillion, a’r cloffion, yn dywedyd ni ddaw Dafydd ymma.

7Ond Dafydd a ennillodd amddeffynfa Sion: honno dinas Ddafydd.

8(A dywedase Dafydd y dwthwn hwnnw, pwy bynnac a clo ar rigolau ac a deru yr Iebusiaid, a’r cloffion, a’r deillion y rhai sydd gâs gan enaid Dafydd: 1.Cron.11.6.am hynny y dywedasant y dall, a’r cloff ni ddaw i mewn i’r tŷ. )

9A Dafydd a arhosodd yn yr amddeffynfa, ac ai galwodd hi dinas Dafydd, a Dafydd a adailadodd oi hamgylch hi, o Milo, hyd i mewn.

10A Dafydd a aeth gan fyned, a chynnyddu: ac Arglwydd Dduw y lluoedd gyd ag ef.

11A Hiram brenin Tyrus a anfonodd gennadau at Ddafydd, a choed cedr, a seiri prennau, a seiri meini: ac adailadasant dŷ i Ddafydd.

12Yna y gwybu Dafydd mai’r Arglwydd ai sicrhause ef yn frenin ar Israel: ac a dderchafase ei frenhiniaeth ef er mwyn ei bobl Israel.

13A Dafydd a gymmerodd etto 1.Cron.3.5.ordderch wragedd, a gwragedd o Ierusalem, wedi iddo ddyfod o Hebron: a ganwyd i Ddafydd feibion a merched trachefn.

14Ac 1.Cron.3.5.dymma henwau y rhai a anwyd iddo ef yn Ierusalem: Sammuah, a Sobab, Nathan hefyd a Salomon.

15Ibhar hefyd, ac Elisuah, a Nepheg, ac Iaphia.

16Elisamah hefyd, ac Eliada, ac Eliphalet.

17 1.Cron.14.8|1CH 14:8, & 12.16. Pan glybu y Philistiaid iddynt eneinio Dafydd yn frenin ar Israel, yna’r holl Philistiaid a ddaethant i fynu i geisio Dafydd: pan glybu Dafydd yna efe a aeth i wared i’r amddeffynfa.

18A’r Philistiaid a ddaethant: ac a ymledasant yn nyffryn Rephaim.

19Yna Dafydd a ymgynhorodd a’r Arglwydd gan ddywedyd, a â fi i fynu at y Philistiaid? a roddi di hwynt yn fy llaw i? a’r Arglwydd a ddywedodd wrth Ddafydd, dos i fynu, canys gan roddi y rhoddaf y Philistiaid yn dy law di.

20A Esa.28.21.Dafydd a ddaeth i Baal Perazim, a Dafydd ai tarawodd hwynt yno, ac a ddywedodd, yr Arglwydd a rwygodd fyng-elynnion o’m blaen i megis rhwygiad dyfroedd: am hynny y galwodd efe henw y lle hwnnw Baal-perazim.

21Ac yno y gadawsant hwy eu delwau: a Dafydd ai wyr 1.Cron.14.18.(sic.)ai lloscodd hwynt.

22A’r Philistiaid etto a chwanegasant ddyfod i fynu: ac a ymledasāt yn nyffryn Rephaim.

23Yna Dafydd a ymgynghorodd a’r Arglwydd, ac yntef a ddywedodd, na ddôs i fynu: amgylchyna ar eu hôl hwynt, a thyret arnynt hwy gyferbyn a’r mor-wŷdd.

24A phan glywech drwst cerddediad ym mrig y môr-wŷdd, yna cychwyn: canys yna’r Arglwydd a aiff allan o’th flaen di i daro gwerssyll y Philistiaid.

25A Dafydd a wnaeth megis y gorchymynnase’r Arglwydd iddo ef: ac a darawodd y Philistiaid o Geba, hyd oni ddelech di i Gazer.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help