Ecclesiasticus 28 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVIII.Cyngor yn erbyn chwant i ddial. 10 A rhyfyg y tafod.

1Y Deut.32.35. Rhuf.12.19.Dialwr a gaiff ddialedd gan yr Arglwydd, ac efe gan gadw a geidw ei becho­dau ef.

2Maddeu i’th gymmydog ei gam, ac yna pan weddiech di y maddeuir dy bechodau dithe.

3Dŷn i ddŷn a geidw ddig, ac Matth.6.14.a gais gan yr Arglwydd feddiginiaeth,

4Ni thrugarha efe chwaith wrth ddŷn cyffelyb iddo ei hun, ac efe a ymbil tros ei becho­dau.

5Y mae efe yn gnawd yn cadw digter: pwy gan hynny a drugarha wrth ei bechod yntef:

6Cofia y diwedd, a phaid a dal galanastra.

7Na fygwth chwaith i’th gymmydog ddinistr, na marwolaeth: eithr aros wrth y gorchymynnion.

8Cofia y gorchymynnion, ac na ddigia wrth dy gymmydog.

9[Cofia] hefyd gyfammod y Goruchaf, a dirmyga annwybodaeth.

10 Pen.8.1. Ymgadw rhag cynnen, a thi a wnei yn llai dy bechodau: o blegit gŵr digllon a gynneu gynnen.

11Gŵr pechadurus a dralloda gyfeillion, ac a fwrw lid rhwng rhai heddychol.

12Fel Dihar.26.21.y byddo defnydd y tân felly y llysc efe, ac fel y byddo cadernid y gynnen y cynny­dda y tân, fel y byddo cryfoer dŷn y bydd ei ddigofaint ef, ac yn ôl cyfoeth dŷn y cyfyd efe ei lid.

13Y mae ymryson prysur yn cynneu y tân, a chynnen bryssur yn tywallt gwaed.

14Os chwythi di wreichionen hi a gynneu: ond os poeri di arni hi, hi a ddiffydd: ac y mae y ddau yn dyfod o’r genau.

15Melldithiwch Pen.21.28.yr athrodwr a’r ddau da­fodiog: o blegit llawer-vn heddychlon a ddifethasant hwy.

16Tafod dau ddyblyg a gynhyrfodd lawer ac ai gwascarodd hwynt o genhedlaeth i genhedlaeth.

17Dinasoedd cedyrn a ddinistriodd efe hefyd, a theiau pendefigion a ddifethodd efe.

18Tafod dauddyblig a fwriodd wragedd gwrol allan, ac ai diddymmodd hwynt oi llafur.

19Yr hwn a wrandawo arno ef ni chaiff efe lonydd, ac ni phresswylia yn ddistaw.

20Dyrnod ffrewyll a wna glais, a dyrnod tafod a ddryllia escyrn.

21Llawer a syrthiasant o herwydd min y cleddyf, ond nid cymmaint ag a syrthiasant o blegit y tafod.

22Gwyn ei fyd yr hwn a amddeffynnwyd rhagddo, ac nid aeth yn ei ddigofaint ef.

23Yr hwn ni thynnodd ei iau ef, ac ni rwymwyd ai rwymau ef: o blegit iau haiarn yw ei iau ef, a rhwymau prês yw ei rwymau ef.

24Marwolaeth ddrwg yw ei farwolaeth ef, a mwy buddiol yw vffern nag ef.

25Ni chaiff efe lywodraeth ar y rhai duwiol, ac ni loscir hwynt yn ei flam ef.

26Y rhai ydynt yn gadel yr Arglwydd a syrthiant tano, ac arnynt hwy y llysc efe heb ddiffoddi: efe a yrrir arnynt hwy fel llew, ac fel lleopard y difa efe hwynt.

27Wele cae dy dyddyn â drain, eithr gwna i’th enau ddorau a chlôau.

28Rhwym dy arian a’th aur, pwysa hefyd dy ymadrodd, a gwna i’th enau borth a chol.

29A gochel rhag llithro o honot trwyddynt hwy, ac rhag syrthio o honot o flaen y cyn­llwyn-wr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help