Lefiticus 10 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. X.1 Pechod Nadab ac Abihu, ai marwolaeth. 9 Gwahardd gwin i’r offeiriaid. 12 Rhan yr offeiriaid o’r aberthau.

1Yna Nadab, ac Abihu meibion Aaron a gymmerasant bob vn ei thusser, ac a roddasant dân ynddynt, ac a osodasant arogl-darth ar hynny ac a offrymmasant ger brō yr Arglwydd dân dieithr, Exo 30.9.yr hwn ni orchymynnase efe iddynt.

2A daeth tân allan oddi ger bron yr Arglwydd, ac ai difaodd hwynt: a buant feirw gerbron yr Arglwydd.

3A dywedodd Moses wrth Aaron, dyna’r hyn a lefarodd yr Arglwydd gan ddywedyd, mi a sancteiddir yn y rhai a nessânt attaf, a cherbron yr holl bobl i’m gogoneddir: A thewi a wnaeth Aaron.

4Yna y galwodd Moses am Misael, ac Elsaphan meibion Oziel ewythr Aaron frawd ei dad, a dywedodd wrthynt, dewch yn nês, dygwch eich brodyr oddi ger bron y cyssegr i’r tu allan i’r gwerssyll.

5A nessau a wnaethant’ai dwyn hwynt yn eu peisiau i’r tu allan i’r gwerssyll fel y llefarase Moses.

6A dywedodd Moses wrth Aaron, at wrth Eleazar, ac wrth Ithamar ei feibion, na ddiosgwch oddi am eich pennau, ac na rwygwch eich gwiscoedd, rhac iwch feirw a sorrio honaw ef wrth yr holl gynnulleidfa: ond ŵyled eich brodyr chwi holl dŷ Israel, am y llosciad, yr hwn a losgodd yr Arglwydd.

7Ac nac ewch allan o ddrws pabell y cyfarfod, rhac iwch farw, o herwydd olew eniniad yr Arglwydd arnoch chwi: A gwnaethant fel y llefarodd Moses.

8Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Aaron, gan ddywedyd:

9Gwîn a diod gadarn nac ŷf di, na’th feibion gyd a thi, pan ddeloch i babell cyfarfod, fel na byddoch feirw: deddf dragywyddol drwy eich cenhedlaethau

10A er gwahanu rhwng cyssegredic a digyssegredic, a rhwng aflan a glân:

11Ac i ddyscu i feibion Israel yr holl ddeddfau y rhai a lefarodd yr Arglwydd wrthynt, drwy law Moses.

12A llefarodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleazar ac wrth Ithamar, y rhan arall oi feibion ef, cymmerwch y bwyd offrwm yr hwn sydd yng-weddill o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bwyttewch yn groiw gerllaw’r allor: o herwydd sancteidd-beth cyssegredic yw.

13A bwyttewch ef yn y lle sanctaidd o herwydd dy ran di, a rhan dy feibion di o ebyrth tanllyd yr Arglwydd yw hynn: canys fel hynn i’m gorchymynnwyd.

14Parwyden yr offrwm cwhwfan, hefyd ac ysgwyddoc yr offrwm derchafel a fwyttewch mewn lle glân: ty di, a’th feibion, a’th ferched, yng-hyd a thi: o herwydd hwynt a roddwyd y rhan i ti, ac yn rhan i’th feibion di o ebyrth hedd meibion Israel.

15Yscwyddoc yr offrwm derchafel, a pharwyden yr offrwm cwhwfan a ddygant yng-hyd ac ebyrth tanllyd o’r gwer, i gwhwfan offrwm cwhwfan ger bron yr Arglwydd, a byddet i ti, ac i’th blant gyda thi yn rhan dragywyddol: fel y gorchymynnodd yr Arglwydd.

16A Moses a geisiodd yn ddyfal fwch yr aberth tros bechod, ac wele ef wedi ei losci, ac efe a ddigiodd wrth Eleazar, ac wrth Ithamar y rhan arall o feibion Aaron gan ddywedyd.

17Pa ham na fwyttawsoch yr aberth tros bechod yn y lle sanctaidd: o herwydd sancceiddbeth cyssegredic efe, ac efe, ai rhoddoddi i chwi, i ddwyn anwiredd y gynnulleidfa gau wneuthur iawn trostynt ger bron yr Arglwydd

18Wele ni ddygwyd ei waed ef i fewn y cyssegr: ei fwytta a ddylasech yn y cyssegr, fel y gorchymynnais.

19A dywedodd Aaron wrth Moses, wele heddyw yr offrymmasant eu haberth tros bechod, ai poeth offrwm ger bron yr Arglwydd: ac fel hyn y digwyddodd i mi, am hynny os bwyttawn aberth tros bechod heddyw, a fydde hynny dda yng-olwg yr Arglwydd?

20Yna y gwrandawodd Moses, ac y bu fodlon.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help