Numeri 17 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVII.Gwialen Aaron yn blaguro, blodeuo, ac yn ffrwytho i sicrhau ei alwedigaeth ef.

1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd.

2Llefara wrth feibion Israel, a chymmer ganddynt wialen, am bob tŷ tad gan bob vn oi pennaethiaid, tros dy eu tadau, deuddec gwialen: scrifenna henw pob vn ar ei wialen.

3Ac scrifenna henw Aaron ar wialen Lefi: canys vn wialen dros pennaeth tŷ eu tadau.

4A gâd hwynt ym mhabell y cyfarfod, ger bron y destiolaeth Exod.25.22.lle y cyfarfyddaf a chwi.

5A gwialen y gŵr a ddewiswyf a flodeua: a gwnaf i furmur meibion Israel y rhai y maent yn murmurio i’ch erbyn beidio a mi.

6Felly y llefarodd Moses wrth feibion Israel, ai holl bennaethiaid a roddasant atto wialen tros bôb pennaeth yn ol tŷ eu tadau, deuddec gwialen: a gwialen Aaron ynghanol eu gwiail hwynt.

7A Moses a adawodd y gwiail ger bron yr Arglwydd ym mhabell y destiolaeth.

8A thrannoeth y daeth Moses i babell y destiolaeth: ac wele gwialen Aaron a flagurase tros dŷ Lefi, îe bwriase flagur, a blodeuase, ac a addfedase almonau.

9Yna y dug Moses allan yr holl wiail oddi ger bron yr Arglwydd, at holl feibion Israel: hwythau a edrychasant, ac a gymmerasant bôb vn ei wialen ei hun.

10A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Heb.9.4.dod wialen Aaron drachefn ger bron y destiolaeth iw chadw yn arwydd i’r meibion gwrthryfelgar: fel y gwnelech iw tuchan hwynt beidio a mi, ac na byddant feirw.

11A gwnaeth Moses, fel y gorchymynnodd yr Arglwydd iddo, felly y gwnaeth efe.

12Yna meibion Israel a lefarasant wrth Moses gan ddywedyd, wele ni yn trengu, darfu am danom, darfu am danom ni oll.

13Bydd farw pôb vn gan nessau a nessao idabernacl yr Arglwydd: a orphennwn ni drengu?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help