Osea 12 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XII.Yn-Nuw, ac nid yn nyn, y mae ymddyried.

1Ephraim sydd yn ymborthi y gwynt, ac yn dilyn gwynt y dwyrain, ar hŷd y dydd yr amlhaodd gelwydd a dinistr, ammod a wnaethant a’r Assyriaid: holew a ddygwyd i’r Aipht.

2Ac gan yr Arglwydd gŵyn ar Iuda, ac efe a ymwel ag Iacob yn ôl ei ffyrdd, yn ôl ei ddychymmygion y tâl iddo y pwyth.

3Yn y groth y daliodd efe sodl ei frawd, ac yn ei nerth yr ymdrechodd â Duw.

4Ac Gene.32.31.ymdrechodd a’r angel, a gorchfygodd, wylodd, ac ymbiliodd ag ef: cafodd ef yn Bethel, ac yno’r ymddiddanodd â ni.

5Ac Arglwydd Dduw y lluoedd yr Arglwydd ei goffadwriaeth.

6Trô dithe at dy Dduw, cadw drugaredd, a barn, ac ymddyriet yn dy Dduw bob amser.

7Yn ei law ef Canaan cloriannau twyll: da ganddo orthrymmu.

8A dywedodd Ephraim, etto mi a gyfoethogais, cefais i’m olud, ni chafodd fy holl boenau arnaf anwiredd yr hwn bechod.

9A mi yr Arglwydd dy Dduw o dir yr Aipht, gwnaf it drigo etto mewn pebyll: megis ar ddyddiau vchel-ŵyl.

10Ymddiddenais trwy y prophwydi, a mi a amlheais weledigaethau, a mynegais gyffelybiaethau trwy law y prophwydi.

11Ai anwir Gilead? gwagedd ydynt yn vnic: yn Gilgal yr aberthasant ychen, eu hallorau hefyd fel carneddau yn rhychau y maes.

12Ffôdd Iacob hefyd i wlad Syria, a gwasanaethodd Israel am wraig, am wraig y cadwodd ddefaid.

13Trwy brophwyd y dug yr Arglwydd Israel o’r Aipht: a thrwy brophwyd y cadwyd ef.

14Cyffrôdd Ephraim chwerwedd: ai waed ei hun a dywelltir arno: ai Arglwydd a dâl iddo ei wradwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help