Ecclesiasticus 9 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IX.Cyngor yn erbyn eiddigedd, ac anlladrwydd. 12 Ac am ddewis a chadw cyfeillion a chydymdeithion.

1Na ddal eiddigedd wrth wraig dy fonwes, ac na ddangos ynot dy hun ddrwg addysc.

2Na ddot dy hunan i wraig, i fyned o honi yn vwch nâ thi.

3Na ddos i gyfarfod â gwraig butteinic, rhag i ti vn amser syrthio yn eu maglau hi.

4Na fydd yn fynych gyd â chantores, rhag dy ddal di trwy ei chelfyddyd hi.

5 Gen.6.1.|GEN 6:1 & 34.2. Na chraffa ar forwyn rhag dy dramgwyddo wrth ei cheryddon hi.

6Na ddôd dy feddwl ar butteiniaid, rhag colli honot dy etifeddiaeth.

7Nac edrych o amgylch mewn heolydd dinas, ac na wibia yn ei anghyfannedd leoedd hi.

8 Dihar.5.2. Matth.5.28. Na thro dy olwg at wraig brŷdweddol, ac nac ystyr degwch arall.

9 2.Sam.11.2. Iudith. 10.17. Oblegit llawer trwy degwch gwraig a gyfeiliornasant: a thrwy hynny y cynneuodd cariad fel tân: am hynny na orwedd â hi yn freichiau.

10Na orwedd ddim gyd â gwraig a gŵr iddi.

11Na chŷd ildia â hi mewn gwin, rhag pwyso o’th feddwl atti hi, a llithro o honot yn dy yspryd i ddestruw.

12Na âd hên gyfaill: oblegit nid yw vn newydd gystadl ag ef.

13[Megis] gwîn newydd yw cyfaill newydd: os heneiddia efe ti ai hyfi yn llawen.

14 Barn.9.3. 2.Sam.15.18. Na chenfigenna wrth ogoniant pechadur: o blegit ni wyddost ti pa ddinistr fydd iddo ef.

15Na fydded hoff gennit gael bodd y rhai annuwiol: cofia na chyfiawnheir hwynt nes i] vffern.

16Ymgadw ym mhell oddi wrth ddŷn ac awdurdod iddo i ladd, fel nad amheuech di ofn angeu.

17Ac os deui di atto na wna fai, rhag iddo yn ebrwydd ddwyn ymmaith dy enioes di.

18Gwybydd mai ym mysc maglau yr ydwyt ti yn trāmwy, ac ar binnaclau y ddinas yr ydwyt ti yn rhodio.

19Bwrw yr amcan goref y gallech am dy gymmydog, acPen.6.36.ymgynghora a’r doethionDeut.6.7.|DEU 6:7 & 11 17.bydded dy ymrysymmiad tri ar synhwyrol, a’th holl draethiad am gyfraith y Goruchaf.

20Bydded gwŷr cyfiawn yn cŷdfwyta â thi, a bydded dy lawenydd di yn ofn yr Arglwydd.

21Yn llaw rhai celfyddus y canmolir gwaith, a doeth dwysog pobl yn ei ymadrodd.

22Ofnadwy yn ei ddinas yw gŵr siaradus, a’r rhy bryssur yn ei ymadrodd a gaseuir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help