Genesis 50 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. L.Arwyl Iacob ai gladdedigaeth. 19 Ioseph yn madde iw frodyr. 23 yn cael gweled ei wyrion. 25 Ac yn marw.

1Yna y syrthiodd Ioseph ar wyneb ei dâd, ac a wylodd arno ef, ac ai cusanodd ef.

2Gorchymynnodd Ioseph hefyd iw weision y meddygon bêrarogli ei dâd ef: felly y meddygon a bêraroglasant Israel.

3Pan gyflawnwyd iddo ddeugain nhiwrnod, canys felly y cyflawnir dyddiau y pêr arogliad, yno’r Aiphtiaid ai harwylasant ef ddeng-nhiwrnod a thrugain.

4Pan aeth dyddiau ei arwyl ef heibio, yna y llefarodd Ioseph wrth deulu Pharao gan ddywedyd: ôs cefais yr awr hon ffafor yn eich golwg, lleferwch wrth Pharao attolwg gan ddywedyd.

5Fy nhâd Gen.47.29.’am tyngodd gan ddywedyd, wele fi yn marw, yn fy mêdd yr hwn a gloddiais i’m yng-wlâd Canaan, yno i’m cleddi: ac yr awr hon caffwyf fyned i fynu attolwg, fel y claddwyf fy nhâd, yna mi a ddychwelaf.

6A ddywedodd Pharao, dôs i fynu, a chladd dy dâd fel i’th dyngodd.

7Yna’r aeth Ioseph i fynu i gladdu ei dâd, a holl weision Pharao henuriaid ei dŷ ef, a holl henuriaid gwlâd yr Aipht, a aethant i fynu gyd ag ef.

8Felly holl dŷ Ioseph, ai frodyr, a thŷ ei dâd: eu plant yn unic, ai defaid, ai gwarthec a adawsant yn-nhir Gosen.

9Ac aeth i fynu gyd ag ef gerbydau, a gwyr meirch hefyd, fel yr oedd llu mawr iawn.

10A hwy a ddaethant hyd lawr dyrnu Atad, yr hwn oedd ar gyfer yr Iorddonen: ac a alarasant yno alar mawr, a thrwm odieth, canys gwnaeth alar drôs ei dâd saith niwrnod.

11Pan welodd y Canaaneaid, y rhai oeddynt yn presswylio y wlâd, y galar yn llawr dyrnu Atad: yna y ddywedasant dymma alar trwm gan yr Aiphtiaid a’m hynny y galwasant ei henw, Abel Misraim, yr hwn ar gyfer yr Iorddonen.

12Felly ei feibion a wnaethant iddo, megis y gorchymynnase efe iddynt.

13Canys ei feibion ai dugasant ef i wlâd Canaā, ac ai claddasant ef yn ogof maes Machpela, Gen.23.16.yr hon a brynnase Abraham gyd a’r maes, yn etifeddiaeth beddrod, gan Ephron yr Hethiad, ar gyfer Mamre.

14Yna y dychwelodd Ioseph i’r Aipht, efe, ai frodyr, a’r rhai oll a aethant i fynu gyd ag ef i gladdu ei dâd, wedi iddo gladdu ei dâd.

15Pan welodd brodyr Ioseph farw oi tâd, yna y dywedasant: Ioseph ond odid a’n cassâ ni, a chan dalu a dâl i ni’r holl ddrwg yr hwn a dalasom ni iddo ef.

16A’m hynny ’r anfonasant at Ioseph i ddywedyd: dy dad a orchymynnodd o flaen ei farw gan ddywedyd:

17Fel hyn y dywedwch wrth Ioseph: attolwg madde’r awr hon gamwedd dy frodyr, ai pechod hwynt: canys talasant i ti ddrwg, ond yr awr hon madde attolwg gamwedd gweision Duw dy dâd: ac wylodd Ioseph pan lefarasant wrtho.

18Ai frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef, ac a ddywedasant wele ni’n weision i ti.

19A dywedodd Ioseph wrthynt Gen.45.5.nac ofnwch, canys, a i yn lle Duw?

20Pan amcanasoch ddrwg i’m herbyn, Duw ai amcanodd i ddaioni, er mwyn peri fel heddyw cadw’n fyw bobl lawer.

21Am hynny nac ofnwch yr awr hon, myfi a’ch chynhaliaf chwi a’ch plant: ac efe ai cyssurodd hwynt, ac a lefarodd wrth eu calon.

22Felly y trigodd Ioseph yn yr Aipht, efe a theulu ei dâd, a bu Ioseph fyw gan mlhynedd a dêg.

23Gwelodd Ioseph hefyd o Ephraim, orwyrion, maethwyd hefyd feibion Machir fâb Manasses ar liniau Ioseph.

24A dywedodd Ioseph wrth ei frodyr, myfi sydd yn marw, a Heb.11.22.Duw gan ymweled a ymwel a chwi, ac a’ch dŵc chwi i fynu o’r wlâd hon i’r wlâd yr hon trwy lŵ a addawodd efe i Abraham i Isaac, ac i Iacob.

25A Exed.13.15.thyngodd Ioseph feibion Israel gan ddywedyd: Duw gan eich gofwyo a’ch gofwya chwi: dygwch chwithau fy escyrn i fynu oddi ymma.

26Ac Ioseph a fu farw yn fâb deng-mlwydd a chant: a hwy ai Pêraroglasant ef ac fe a osodwyd mewn arch yn yr Aipht.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help