1Dywedodd Dafydd hefyd yn ei galon yn awr difethir fi ryw ddydd drwy law Saul: onid goref i mi ddiang i dîr y Philistiaid, (fel yr anobeithio Saul i mi,) ac nim cais i yn holl derfynau Israel? felly y diangaf oi law ef?
2Yna Dafydd a gyfododd, ac a drammwyodd, efe a’r chwe chan-ŵr y rhai gyd ag ef, at Achis fab Maoc brenin Gath.
3A Dafydd a arhosodd gyd ag Achis yn Gath, efe, ai wŷr, pôb vn ai deulu ei hun: Dafydd ai ddwy wragedd Ahinoam yr Iezrahelithes, ac Abigail gwraig Nabal y Garmelithes.
4Yna y mynegwyd i Saul ffoi o Ddafydd i Gath: ac ni chwanegodd efe ei geisio ef mwy.
5A Dafydd a ddywedodd wrth Achis, o chefais yn awr ffafor yn dy olwg di, rhodder i mi le yn vn o’r maes drefi fel y trigwyf yno: canys pa ham yr erys dy wâs di yn ninas y brenin gyd a thi?
6Yna Achis a roddes iddo ef y dydd hwnnw Siclag: am hynny y mae Siclag yn eiddo brenhinoedd Iuda hyd y dydd hwn.
7A rhifedi y dyddiau y rhai yr arhosodd Dafydd yng-wlâd y Philistiaid ddyddiau a phedwar mis.
8Yna Dafydd a aeth i fynu, ai wŷr, ac a ruthrasant ar y Gesuriaid, ar Girziaid, a’r Amaleciaid: hwynt oeddynt yn presswylio y wlâd honno erioed, ffordd y delech i Sur, îe hyd wlâd yr Aipht.
9A Dafydd a darawodd y wlâd, ac ni adawodd yn fyw ŵr, na gwraig: ac efe a ddûg ddefaid, a gwarthec, assynnod hefyd a chamêlod, a gwiscoedd, ac a ddychwelodd, ac a ddaeth at Achis.
10Ac Achis a ddywedodd, i ba le y rhuthrasoch chwi heddyw? yna y dywedodd Dafydd yn erbyn tu dehau Iuda, ac yn erbyn tu dehau yr 1.Cron.2.9.Ierameeliaid, ac yn erbyn tu dehau y Ceneaid.
11Ac ni adawse Dafydd yn fyw ŵr na gwraig iw dwyn i Gath, gan ddyweddyd: rhac mynegu o honynt i’n herbyn gan ddywedyd: fel hyn y gwnaeth Dafydd, ac felly ei arfer ef yr holl ddyddiau tra yr arhosodd efe yng-wlâd y Philistiaid.
12Ac Achis a gredodd Ddafydd gan ddywedyd: efe ai gwnaeth ei hun yn ffiaid, ac yn wrthgas gan ei bobl ei hun yn Israel, am hynny y bydd efe yn wâs i mi yn dragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
