1.Corinthiaid 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Paul yn annerch y Corinthiaid, ac yn diolch am y grâs a roddase Duw iddynt. 10 Yn dymuno vndeb. 14 Yn dangos y rhai a fedyddiase efe. 18 Beth yw synnwyr bydol i’r Efengyl.

1Paul yr hwn a alwyd yn Apostol Iesu Grist, trwy ewyllys Duw, a’r brawd Sosthenes:

2At eglwys Dduw yr hon sydd yn Corinth, I’m Duw yr wyf yn diolch drosoch chwi yn oestad, am y grâs Duw a rodded i chwi yn Iesu Grist,

5Am eich cyfoethogi ym mhob peth ynddo ef, mewn pob ymadrodd, a phob gwybodaeth:

6Megis y cadarnhauwyd testiolaeth Crist ynoch,

7Fel nad ydych chwi yn ddiffygiol o vn dawn

23Eithr yr ydym ni yn pregethu Crist wedi ei groes-hoelio, i’r Iddewon yn dramgwydd, ac i’r Groeg-wŷr yn ffolineb,

24Ond i’r Iddewon a’r Groeg-wŷr y rhai a alwyd, yn Grist, yn nerth Duw, ac yn ddoethineb Duw.

25Canys ffolineb Duw sydd ddoethach nâ dynion: a gwendid Duw sydd gryfach nâ dynion.

26Chwi a welwch eich galwedigaeth (frodyr) nad llawer o ddoethion yn ôl y cnawd, nad llawer o gedyrn, nad llawer o foneddigion,

27Eithr Duw a etholodd ffol bethau y byd i wradwyddo y doethion, a gwael bethau y byd, a etholodd Duw i wradwyddo y cedyrn.

28A Duw a ddewisodd y pethau distadl yn y byd, a’r pethau dirmygus, a’r pethau nid ydynt[ddim] er deleu y pethau ydynt

29Fel na orfoledde vn cnawd ger ei fron ef.

30Eithr yr ydych chwi ô honaw ef yng-Hrist Iesu, yr hwn a ddarfu i Dduw ei wneuthur yn ddoethineh i ni, ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddrwydd, ac yn ymwared.

31Fel y mae yn scrifennedig, Iere.9.23.yr hwn a ymorfoleddo, ymorfoledded yn yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help