Iob 30 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXX.Iob yn mynegu yr adfyd yr ydoedd efe ynddo. 17 Gan gydnabod nad allase hynny ddyfod iddo ef heb fod Duw yn caniadhau. 25 Ac yn cwyno er ei fod efe yn dosturiol wrth eraill yn eu hadfyd, nad oedd dim tosturiaeth wrtho ef.

1Ond yn awr y rhai sy ieuangach na mi oedran sy yn fyng-watwar, y rhai y gwrthodaswn eu tadau, iw gosod gyd a chŵn fy nefaid.

2I ba beth cryfdwr eu dwylaw hwynt i mi? darfuase am henaint ynddynt hwy.

3Y rhai a ffoesant rhac angeu, a newyn i anialwch sych: i dywyllwch, diffaethwch, a gwylltineb.

4Y rhai a dorrent ddanadl mewn bryselwyni: a gwraidd meryw eu bwyd hwynt.

5Hwy a yrrid ymmaith o ganol a waeddent yn eu herbyn hwy fel lleidr.

6I drigo mewn holltau afonydd: tyllau pridd, a chreigiau

7Hwynt a ruent ym mhlith perthi: hwynt a ymgasclent dann ddanabl.

8Meibion yr ynfyd, a meibion heb henw gwaelach ydynt hwy na’r ddaiar.

9Ac yn awr eu cân hwy ydwyfi: ac myfi ydwyf yn destyn iddynt.

10Y maent hwy yn fy ffieiddio, yn cilio ym mhell oddi wrthif: ac yn poeri yn fy wyneb.

11Canys efe a ddatododd fy rhaff, ac a’m cystuddiodd: a hwy a ollyngasant y ffrwyn yn fyng-olwg i.

12Bechgyn sy yn codi ar fy llaw ddeheu, y maent hwy yn gwthio fy nrhaed: ac maent hwy yn palmantu arnaf eu llwybrau dinistriol.

13Hwy a anrhaithiasant fy llwybr, chwanegasant fy nhrueni: heb fôd iddynt hwy help.

14Y maent hwy yn dyfod megis adwy lydan: y maent hwy yn ymdreiglo tann anrhaich.

15Braw a droiwyd yn fy erbyn i, fel gwynt yr erlidir fy bonheddig: a’m iechydwriaeth a aiff heibio fel cwmwl.

16Am hynny’r ymdywallt fy enaid yn awr ynof: y dell dyddiau cystudd fi.

17Y nos y tyllir fy escyrn o’m mewn: a’m gîau nid ydynt yn gorphywys.

18Yn amldra cryfdwr fyngwisc sydd yn ymnewidio: a’m hamgylcha fel coler fy mhais.

19Efe a’m taflodd yn y clai: fel y gallaf fyng-hyffelybu i bridd, a lludw.

20Yr ydwyf yn llefain arnat ti, ac nid ydwyt yn gwrando: sefais ac ystyriaist wrthif.

21Yr wyt yn troi yn greulon yn fy erbyn: yr wyt yn fyng-wrthwynebu â nerth dy law.

22Yr ydwyt yn fy nerchafu ar y gwynt, ydwyt yn gwneuthur i mi farchogeth yr ydwyt yn fy nhoddi fi sylwedd.

23Canys myfi a wn y troi di fi i farwolaeth: ac i’r tŷ rhac derfynedic i bôb dŷn byw.

24Diau nad estyn law i’r bedd: er gwaedd ganddynt yn ei ddrychineb ef.

25Oni ŵylais i dros yr hwn oedd galed fyd: chyd-ofidiodd fy enaid a’r anghenog?

26Ond pan obeithiais i ddaioni, drygfyd a ddaeth: pan ddisgwiliais am oleuni, tywyllwch a ddaeth.

27Fy emyscaroedd a ferwasant, ac ni orphywysasant: dyddiau cystudd a’m rhacflaenasant.

28Yr ydwyf yn rhodio yn ddû heb haul: yr ydwyf yn gweiddi yn y gynnulleidfa.

29Yr ydwyf yn frawd i’r ddraig: ac yn gyfaill i gywion yr Estris.

30Fyng-hroen a dduodd oddi am danaf: a’m hescyrn a loscasant rhac sychdwr.

31Am hynny y mae fy nhelyn yn alarus: am horgan llais rhai yn ŵylo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help