Lefiticus 15 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XV.Aflendid meibion, a merched, ai puredigaeth.

1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, ac Aaron, gan ddywedyd.

2Lleferwch wrth feibion Israel, a dywedwch wrthynt: pob vn pan fyddo ei ddiferlif yn rhedeg oi gnawd a fydd aflan.

3A hyn fydd ei aflendid yn ei ddiferlif: os ei gnawd ef a ddifera ei ddiferlif, neu ymattal oi gnawd ef ar ei ddiferlif, ei aflendid ef hynn.

4Pob gwely yr hwn y gorweddo ynddo vn diferllyd a fydd aflan, ac aflan fydd pob offeryn yr hwn yr eisteddo efe arno.

5A’r nêb a gyffyrddo at wely ef, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan yr hwyr.

6A’r hwn a eisteddo ar yr offeryn, yr hwn yr eistedd y diferllyd arno, golched ei ddillad ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr.

7A’r hwn a gyffyrddo a chnawd y diferllyd, golched ei ddillad ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr.

8A phan boero y diferllyd ar vn glân, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr.

9Ac aflan fydd pob cyfrwy’r hwn y marchogo y diferllyd ynddo.

10A phwy bynnac a gyffyrddo a dim a fydd tano, bydded aflan hyd yr hwyr: a’r hwn ai dycco hwynt, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr.

11A phwy bynnac y cyffyrddo y diferllyd ag ef heb olchi ei ddwylo mewn dwfr, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr.

12Ar Lef.6.28.llestr pridd yr hwn y cyffyrddo y diferllyd ag ef, a ddryllir: a phob llestr pren a olchir mewn dwfr.

13A phan lanheuir y diferllyd oddi wrth ei ddiferlif, yna cyfrifed iddo saith niwrnod iw lanhau, a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr rhedegoc, a glân sydd.

14A’r wythfed dydd cymmered iddo ddwy durtur, neu ddau gyw colomen, a deued gerbron yr Arglwydd i ddrws pabell y cyfarfod, a rhodded hwynt i’r offeiriad.

15Ac offrymmed yr offeiriad hwynt, vn yn bech aberth, ar llall yn boeth offrwm: gwnaed ’r offeiriad iawn trosto ef am ei ddiferlif ger bron yr Arglwydd.

16Ac os gwr y daw o honaw ddescyniad hâd, yna golched ei holl gnawd mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr.

17A phob dilledyn, a phob croen, yr hwn y byddo descyniad hâd arno a olchir mewn dwfr, ac a fydd aflan hyd yr hwyr.

18Pan gwraig yr hon y cysgo gŵr descynniad hâd gyd a hi: yna ymolchant mewn dwfr, a byddant aflan hyd yr hwyr

19A phan fyddo gwraig a diferlif arni, a bod ei diferlif yn ei chnawd yn waed, bydded saith niwrnod yn ei gwahaniaeth, a’r hyn oll a gyffyrddo a hi, bydded aflan hyd yr hwyr.

20A’r hyn oll y gorweddo hi arno, yn ei gwahāiaeth, a’r hyn oll yr eisteddo hi arno a fydd aflā.

21A phwy bynnac a gyffyrddo ai gwely hi, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr.

22A phwy bynnac a gyffyrddo ag vn offeryn, a’r a eisteddo hi arno, golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr.

23Ac os ar y gwely efe, neu ar yr offeryn yr hwn y byddo hi yn eistedd arno, wrth gyffwrdd ag ef, hyd yr hwyr y bydd efe aflan.

24Ond os gŵr gan gyscu a gwsc gyda hi fel y byddo oi misglwyf hi arno ef, Lefit.18.19.yna aflan fydd efe saith niwrnod, ac aflā fydd pob gwely yr hwn y gorwedd efe arno.

25A phan fyddo diferlif ei gwaed yn rhedeg ar wraig lawer o ddyddiau allan o amser ei hāhwyl, neu pan redo diferlif arni ar ol ei hanhwyl, bydded holl ddyddiau diferlif ei haflendid hi megis dyddiau ei hanhwyl, aflan fydd hi.

26Pôb gwely’r hwn y gorweddo hi arno holl ddyddiau ei diferlif fydd iddi fel gwely ei misglwyf, a phôb dodrefnyn yr hwn yr eisteddo hi arno, fydd aflā, megis aflēdid ei misglwyf hi.

27A phwy bynnac a gyffyrddo a hwynt, aflan fydd, yna golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr.

28Ac os glanheuir hi oi diferlif, yna cyfrifed, iddi saith niwrnod, ac wedi hyny, glân fydd.

29A’r wythfed dydd cymmered iddi ddwy durtur, neu ddau gyw colomen, a dyged hwynt at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod.

30Ac offrymmed yr offeiriad vn yn bech aberth a’r llall yn boeth offrwm, a gwnaed yr offeiriad iawn trosti, am ddiferlif ei haflendid gerbron yr Arglwydd.

31Felly neilltuwch feibion Israel oddi wrth eu haflendid fel na byddant feirw yn eu haflendid: pan halogant fy mhabell yr hon yn eu mysc,

32Dymma gyfraith yr hwn y bydd y diferlif arno, a’r hwn y daw oddi wrtho ddescynad hâd fel y byddo aflan oi herwydd:

33A’r glâf oi mis-glwyf, a’r neb y byddo y diferlif arno, o wryw, ac o fenyw, ac i’r gwr yr hwn a orweddo yng-hyd a’r hon a fyddo aflan.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help