Exodus 17 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVII.1 Dyfodiad Israel i Raphidim. 2 Ai tuchan am ddwfr. 4 Moses yn gweddio. 6 Ac yn cael dwfr. 8 Amalec yn ymladd ag Israel. 10 Iosua yn myned yn ei erbyn ac yn cael y maes trwy weddi Moses. 14 Duw yn addo difetha Amalec.

1A holl gynnulleidfa meibion Israel a aethant ar eu taith o anialwch Sin wrth orchymyn yr Arglwydd: ac a werssyllasant yn Raphidim lle nid oedd dwfr i’r bobl i yfed.

2Am hynny y bobl a ymgynhennasant a Moses, ac a ddywedasant, rhoddwch i ni ddwfr i yfed: a dywedodd Moses wrthynt pa ham yr ymgynhennwch a mi? pa ham y temptiwch yr Arglwydd?

3A’r bobl a sychedodd yno am ddwfr, a thuchanodd y bobl yn erbyn Moses: ac a ddywedasant, pa ham y peraist i ni ddyfod i fynu o’r Aipht fel hyn i’n lladd ni, a’n plant, a’n hanifeiliaid a syched?

4A Moses a lefodd ar yr Arglwydd gan ddywedyd, beth a wnaf i’r bobl hyn? etto ychydic a hwynt a’m llabyddiant.

5A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, dos o flaen y bobl a chymmer gyd a thi o henuriaid Israel: cymmer hefyd dy wialen yn dy law yr hon y Exod.7.10.tarewaist yr afon a hi, a cherdda.

6Wele Doeth.11.4. Num.20.9. Psal.105.41. 1.Cor.10.4.mi a safaf o’th flaen yno ar y graig yn Horeb, taro dithe y graig a daw dwfr allan o honi, fel y gallo y bobl yfed: A Moses a wnaeth felly yng-olwg henuriaid Israel.

7Ac efe a alwodd henw y lle Massah a Meribah: o achos cynnen meibion Israel, ac am iddynt demtio yr Arglwydd gan ddywedyd, a ydyw yr Arglwydd yn ein plith, ai nid

8 Deut.25.17. Doeth.11.3. Yna y daeth Amalec: ac a ymladdodd ag Israel yn Raphidim.

9A dywedodd Moses wrth Iosua, dewis i ni wŷr, a dos allan a rhyfela yn erbyn Amalec: y foru mi a safaf ar benn y brynn a gwialen Dduw yn fy llaw.

10Felly Iosua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho am ryfela yn erbyn Amalec: a Moses, Aaron, a Hur a aethant i fynu i benn y bryn.

11A phan gode Moses ei law y bydde Israel yn drechaf: a phan adawe ef ei law yn llonydd Amalec a fydde drechaf.

12A dwylaw Moses oeddynt drymmion, am hynny y cymmerasant faen, ac ai gossodasant tano ef, ac efe a eisteddodd arnaw: ac Aaron a Hur a attegasant tann ei ddwylaw ef, vn ar y nailltu a’r llall ar y tu arall, felly y bu ei ddwylaw ef sythion nes machludo haul.

13Ac Iosua a wanhâodd Amalec ai bobl a min y cleddyf.

14A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses scrifenna hynn mewn llyfr yn goffadwriaeth a mynega i Iosua: Num.24.10. 1.Sam.15.3.canys gan ddeleu y deleaf goffadwriaeth Amalec oddi tann y nefoedd.

15A Moses a adailadodd allor: ac a alwodd ei henw hi, yr Arglwydd fy maner.

16Canys efe a ddywedodd fod llaw ar orsedd-faingc yr Arglwydd i’r Arglwydd ryfel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help