1Gwrando fi pan alwyf ô Dduw fyng-hyfiawnder, mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf: trugarhâ wrthif, ac erglyw fyng-weddi.
2O feibion dynnion pa hŷd fyng-ogoniant yn warth? yr hoffwch wêgi, ac yr argeisiwch gelwydd? Selah.
3Gwybyddwch hefyd i’r Arglwydd ethol y duwiol iddo ei hun: yr Arglwydd a wrendu pan alwyf arno.
4Ofnwch, ac na phechwch, meddyliwch yn eich calon ar eich gwely, a thewch.Selah.
5Aberthwch ebyrth cyfiawnder, a gobeithiwch yn yr Arglwydd.
6Llaweroedd sy’n dywedyd, pwy a ddengys i ni ddaioni? Arglwydd dercha arnom lewyrch dy wyneb.
7Rhoddaist lawenydd yn fyng-halon, er pan yr amlhâodd eu hŷd, ai gwin hwynt.
8Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf: canys ti Arglwydd, yn vnic a’m cyfleaist mewn diogelwch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
