Gweithredoedd yr Apostolion 26 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVI.Paul yn dangos i Agrippa ddull ei alwedigaeth, 24 barn ehud Ffestus, ac atteb Paul iddi, 28 Agrippa ym mron credu.

1Yna y dywedodd Agrippa wrth Paul, y mae cennad i ti i ddywedyd trosot dy hunan, yna Paul, gan estyn ei law, a’i amddeffynnodd ei hun:

2Dedwydd yr wyfi yn bwrw fy mod fy hun (ô frenin Agrippa) am gael o honofi heddyw fy amddeffyn fy hun ger dy fron di, am yr holl bethau i’m cyhuddir gan yr Iddewon:

3Ac yn bendifaddeu, am dy fod ti yn gŵybod oddi wrth yr holl ddefodau a’r holion sydd ym mhlith yr Iddewon: am hynny yr ydwyf yn attolygu i ti fyng-wrando yn oddefgar.

4Ac am fy muchedd o’m mebyd, yr hon a ddechreuwyd ym mysc fyng-henedl yn Ierusalem, yr Iddewon oll a ŵyddant oddi wrthi.

5Y rhai a’m hadwaenent i o’r cyntaf (os mynnant destiolaethu) fy mod i yn byw yn ôl y sect fanylaf o’n crefydd hi, yn Pharisæad.

6Ac yn awr, yr wyfi yn sefyll i’m barnu am: obaith yr addewid, yr hwn a wnaed gan Dduw i’n tadau ni.

7I’r hwn y mae ein deuddec llwyth ni gan wasanaethu Duw eb dorr ddydd a nos, yn gobeithio dyfod, o achos yr hon obaith yr ydwyf wedi i’r Iddewon (ô frenin Agrippa) achwyn arnaf.

8Pa ham? ai anghredadwy yw gennych chwi, y cyfyd Duw y meirw eil-waith?

9A minne yn wir a dybiaswn fod yn rhaid i mi wneuthur llawer yn erbyn enw Iesu o Nazareth.

10 Pen.8.3. Yr hwn beth a wnaethym yn Ierusalem, a llawer o’r sainct a gaeais i mewn carcharau, wedi cael awdurdod gan yr arch-offeiriaid, ac wrth eu difetha, mi a roddais farn.

11Ac myfi yn eu cospi yn fynych ym mhob Synagog, a’u cymhellai i gablu, a chan ynfydu yn eu herbyn yn fwy, mi a’u herlidiais hyd y dinasoedd dieithr.

12Ac yn hyn, fel yr oeddwn yr myned Pen.9.2. i Ddamascus, ac awdurdod, a chennad yr arch-offeiriaid,

13Ar hanner dydd (ô frenin) ar y ffordd y gwelais oleuni o’r nef yn ddisclaerach nâ’r haul yn tywynnu o’m hamgylch, a’r rhai oddynt yn myned gyd â mi.

14Ac wedi i ni oll syrthio ar y ddaiar, mi a glywais leferydd yn llefaru wrthif, ac yn dywedyd yn Hebræ-aec, Saul, Saul, pa ham yr ydwyt yn fy erlid i? caled yw i ti wingo yn erbyn y swmbylau.

15Yna y dywedais inne, pwy wyt ti, ô Arglwydd? ac efe a ddywedodd: myfi yw Iesu yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.

16Eithr cyfot, a saf ar dy draed: canys o achos hyn yr ymddangosais i ti, er mwyn dy osod ti yn weinidog, ac yn dyst o’r pethau a welaist, ac o’r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt:

17Gan dy wared di oddi wrth y bobl a’r cenhedloedd, at ba rai yr ydwyf yn dy anfon di yr awron:

18Fel yr agorech eu llygaid, i droi oddi wrth y tywyllwch i’r goleuad, ac o feddiant Satan at Dduw, er mwyn cael o honynt faddeuant am bechodau, a chyfran ym mysc y rhai a sancteiddiwyd trwy ffydd, yr hon sydd ynof fi.

19Am ba achos (ô frenin Agrippa) ni bum anufydd i’r weledigaeth nefol:

20 Pen.9.22. Eithr mi a bregethais yn gyntaf i’r rhai yn Damascus, ac yn Ierusalem, a thros wlad Iudaea oll, ac i’r cenhedloedd i edifarhau, a dychwelyd at Dduw, gan wneuthur gweithredoedd addas i edifeirwch.

21O achos y pethau hyn yr Iddewon wedi fy nal i yn Pen.21.30. y Deml, a geisiasant fy lladd i â’u dwylo

22Er hyn, a Duw i’m cymmorth, yr wyfi ond yn aros hyd y dydd hwn, gan destiolaethu i fychan a mawr ac heb ddywedyd dim ond a ddywedase y prophwydi a Moses o’r blaen, y delent:

23Y dioddefe Crist, ac y bydde yn gyntaf o adgyfodiad y meirw, ac y dangose oleuad i’r bobl hyn, ac i’r cenhedloedd.

24Ac fel yr oedd efe yn rhoddi trosio fel hyn, Ffestus a ddywedodd â llef vchel, Paul yr wyt ti yn ynfydu, llawer o ddysc sydd yn dy yrru di yn ynfyd.

25Yna y dywedodd yntef, o ardderchoccaf Ffestus, nid wyfi ynfyd, eithr geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyfi yn eu hadrodd.

26Canys y brenin a ŵyr hyn ger bron yr hwn wyf yn ymadrodd yn hyf, o herwydd yr wyf yn tybied na’d oes dim o hyn yn guddiedic iddo: o blegit ni wnaethpwyd hyn mewn congl.

27Oh frenin Agrippa, a wyt ti yn credu i’r prophwydi? mi a wn dy fod yn credu.

28Agrippa a ddywedodd wrth Paul, yr wyt o fewn ychydig i’m hennill i fod yn Gristion.

29A phaul a ddywedodd: mi a ddymunwn gan Duw o fewn ychydig, ac yn gwbl oll, fod nid tydi yn vnic, onid pawb a’r sydd yn fyngwrando heddyw, yn gyfryw ag wyfi i, ond y rhwymau hyn.

30Ac wedi iddo ddywedyd hyn, y brenin, a’r rhaglaw, a Bernice a gyfodâsant, a’r rhai oeddynt yn eistedd gyd â hwynt.

31Ac wedi iddynt fyned o’r neilltu, hwy a ddywedasant wrth eu gilydd: nid yw’r dyn hwn yn gwneuthur dim i haeddu angeu na charchar.

32Yna y dywedodd Agrippa wrth Ffestus, fe allasid gollwng y dŷn ymma ymmaith, oni buase iddo appelio at Cæsar.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help