Psalmau 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. v.Verba mea auribus percipe.At y pen-cerdd ar y Nehiloth, psalm Dafydd.

1Gwrando fyng-eiriau Arglwydd: deall fy myfyrdod.

2Erglyw ar lêf fyng-waedd, fy Mrenin, a’m Duw: canys arnat y gweddiaf.

3Yn foreu Arglwydd, y clywi fy llêf: yn foreu y cyfeiriaf attat, ac y disgwiliaf.

4O herwydd nad ti Dduw’n ewyllysio anwiredd: y drwg ni thrig gyd â thi.

5Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithred-wŷr anwiredd.

6Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr gwaedlyd, a’r twyllodrus.

7A minne a ddeuaf i’th dŷ di yn amlder dy drugaredd: ac a addolaf tu a’th Deml sanctaidd yn dy ofn di.

8Arglwydd, arwain fi yn dy gyfiawnder o achos fyng-elynnion: a gwastadhâ dy ffordd o’m blaen.

9Canys nid iniondeb yn eu genau, eu ceudod lwgredigaeth, Rhuf.3.13.bedd agored eu gwddf hwynt, gweniaithiant ai tafod.

10Destruwia hwynt, ô Dduw, syrthiant oddi wrth eu cynghorion, gyrr ymmaith hwynt yn amlder eu camweddau: canys gwrthryfelâsant i’th erbyn di.

11A llawenhaed y rhai oll a ymddyriedant ynot, yn dragywydd y canmolant, am i ti orchguddio trostynt hwy: a’r rhai a gârant dy enw, a orfoleddant ynot.

12Canys ti Arglwydd a fendithi y cyfiawn: â charedigrwydd megis tarian y coroni di ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help