1A’r Arglwydd a ddywedodd wrthif, cymmer it ddalen fawr, ac scrifēna arni â phin dyn: Brysiwch i’r yspail, pryssurwch i’r anrhaith.
2Yna y gelwais yn dyst i mi dystion ffyddlon, sef Uria yr offeiriad, a Zecariah fab Barachiah.
3Yna y nesseais at y brophwydes, ac hi a feichiogodd, ac a escorodd ar fab; a dywedodd yr Arglwydd wrthif, galw ei enw ef, Brysiwch i’r yspail, pryssurwch i’r anrhaith.
4Canys cyn y medro’r bachgen alw fy nhad, neu fy mam, golud Damascus, ac yspail Samaria a ddygir o flaen brenin Assyria.
5A chwanegodd yr Arglwydd lefaru wrthif y chwaneg gan ddywedyd,
6O herwydd i’r bobl hyn wrthod dyfroedd Siloh y rhai ynt yn myned yn ddistaw, llawenydd o Rezin, a mab Remaliah:
7Am hynny wele’r Arglwydd yn dwyn arnynt ddyfroedd yr afon yn gryfion, ac yn fawrion brenin Assyria, ai holl gadernid ef, ac efe a escyn ar ei holl afonydd, ac ar ei holl geulannau ef.
8Ie, trwy Iuda y treiddia efe, y llifa, ac yr aiff trwodd, efe a aiff hyd y gwddf: ac estynniad ei adenydd ef fydd lloned llêd dy dîr di ô Immanu-El.
9Ymrwygwch bobloedd, ac ymddrylliwch, gwrandewch holl belledigion y tir: ymwregyswch, ac ymddrylliwch, ymwregyswch, ac ymddrylliwch.
10Ymgynghorwch gyngor, ac fe a ddiddymmir, treuthwch chwedl, ac ni saif: canys Duw gyd â ni.
11Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthif mewn prophwydoliaeth gref: ac efe a’m dyscodd rhac myned i ffordd y bobl hyn, gan ddywedyd:
12Na ddywedwch, gyngrair a’r rhai oll y dywedo y bobl hyn gyngrair: nac ofnwch ychwaith fel hwynt, ac na arswydwch.
13[Ond] Arglwydd y lluoedd ei hun a sancteiddiwch, ac efe eich ofn, efe hefyd eich arswyd.
14 Luc.2.34. Rhuf.9.33. 1 Pet.2.7. Ac efe a fydd yn noddfa, ac yn faen tramgwydd, ac yn graig syrthiad i ddau dŷ Israel, yn fagl, ac yn rhwyd i bresswylwŷr Ierusalem.
15A llawer wrth y rhai hyn a dramgwyddant, ac a syrthiant, ac a ddryllir, a rwydir hefyd, ac a ddelir.
16Rhwym y destiolaeth, selia y gyfraith gyd a’m discyblion.
17A minnef a ddisgwyliaf am yr Arglwydd sydd yn cuddio ei wyneb oddi wrth dŷ Iacob, ac a wiliaf wrtho.
18Wele fi a’r plant y rhai a roddes yr Arglwydd i mi yn arwyddion, ac yn rhyfeddodau yn Israel, oddi wrth Arglwydd y lluoedd yr hwn sydd yn trigo ym mynydd Sion.
19A phan ddywedant wrthych, ymofynnwch a’r swynyddion, ac a’r dewiniaid y rhai sy yn husting, ac yn sibrwd: onid ai Duw’r ymofyn pobl oddi wrth y byw, at y meirw?
20[Ewch] at y gyfraith, ac at y dystiolaeth: onid y rhai nid oes oleuni ynddynt a ddywedant yn ôl y gair hwn?
21Yna y gorthrymmedic, a’r newynoc adramwya ynddi: a bydd pan newyno efe yr ymddigia, ac y melldiga ei frenin, ai Dduw, os tremmia i fynu.
22Neu edrych ar y ddaiar, wele yna drallod, a thywyllwch, niwl, cyfyngder: a bydd wedi ei wthio mewn tywyllni.
23Etto ni tywyllwch yn ôl ei gofid megis yn yr amser cyntaf y cyffyrddodd yn yscafn dîr Zabulon a thîr Nephthali, ac wedi hynny yn ddwysach y cyffyrddodd ffordd y môr tu hwynt i’r Iorddonen yn Galilee y cenhedloedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.