1A Meibion Ruben cyntaf-anedic Israel (canys efe oedd gyntaf-anedic, ond pan halogodd efe wely ei dâd y rhoddwyd ei anedigaeth fraint ef i feibion Ioseph fab Israel: Gen.35.22.|GEN 35:22 & 49 4.fel na chyfrifwyd ei achau ef yn ôl yr anedigaeth-fraint.
2Canys Iuda a ragorodd ar ei frodyr, ac o honaw ef blaenor: a’r anedigaeth-fraint i Ioseph)
3 Gen.46.9.|GEN 46:9. exod.6.14.|EXO 6:14. num.26.5. Meibion Ruben cyntaf-anedic Israel Hanoch, a Phalu, Hezron, a Charmi.
4Meibion Ioel: Semaia ei fab yntef, Gog ei fab nytef, Semhi ei fab yntef,
5Micah ei fab yntef, Reaia ei fab yntef, Baal ei fab yntef.
6Beera ei fab yntef, yr hwn 2.Bren.15.29.a gaeth-gludodd Tilgath-pilneser brenin Assyria: hwn dywysog i’r Rubeniaid.
7Ac oi frodyr ef yn eu teuluoedd wrth gymmer yd eu hachau yn ei cenhedlaethau: y pennaf Ieiel, yna Zachariah.
8A Bela mab Azan, fab Sema, fab Ioel, hwn a gyfanneddodd yn Aroer, ac hyd at Nebo, a Baal-meon.
9Ac o du yr dwyrain y presswyliodd efe hyd lle yr elir i’r anialwch, oddi wrth yr afon Euphrates: canys eu hanifeiliaid hwynt a amlhausent yng-wlâd Gilead.
10Ac yn nyddiau Saul y gwnaethant hwy ryfel yn erbyn yr Hagariaid a syrthiasant yn eu dwylo hwynt, a thrigasant yn eu pebyll, ar holl hwynt wyneb o du dwyrain Gilead.
11A meibion Gad a drigasant gyferbyn a hwynt, yng-wlâd Basan, hyd at Salcha.
12Ioel y pennaf o fewn Basan, a Sapham yr ail: yna Ianai, a Saphat.
13Ai brodyr hwynt o dy eu tadau saith, Michael, a Mesulam, a Seba, ac Iorai, ac Iachan, a Zia, ac Eber.
14Dymma feibion Abihail fab Huri, fab Iaroah, fab Gilead, fab Michael, fab Iesisa, fab Iahdo, fab Buz.
15Ahi mab Abdiel, fab Guni bennaf o dŷ eu tadau hwynt.
16A hwy a drigasant yn Gilead, yn Basan ac yn ei phentrefydd hi, ac yn holl bentrefol feusydd Saron wrth eu terfynau.
17Hwynt oll a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn nyddiau Iotham brenin Iuda, ac yn nyddiau Ieroboam brenin Israel.
18Meibion Ruben, a Gad, a hanner llwyth Manasses, (o wŷr nerthol, dynion yn dwyn tarian a chleddyf, ac yn tynnu bwa, ac wedi eu dyscu ryfel) bedair mil a deugain, a saith gant, a thri vgain, yn gallu myned i ryfel.
19A hwy a wnaethant ryfel yn erbyn yr Hagariaid, sef Ietur, a Naphis, a Nodab.
20A chynnorthwywyd hwynt yn erbyn y rhai hynny, a rhoddwyd yr Hagariaid iw dwylo hwynt, a chwbl, a’r a gyd a hwynt: canys llefasant, ar Dduw yn y rhyfel, ac efe a wrandawodd arnynt, o herwydd iddynt obeithio ynddo ef.
21A hwy a gaethgludasant eu hanifeiliaid hwynt, oi camelod hwynt ddeng-mil a deugain, ac ddefaid deucant a dêc a deugain mil, ac assynnod ddwyfil, ac ddynion gan-mil.
22Canys llawer yn archolledic a fuant feirw am y rhyfel hwn oddi wrth Dduw, a hwy a drigasant yn eu lle hwynt hyd y caethiwed.
23A meibion hanner llwyth Manasses a drigasant yn y tir, o Basan hyd Baal-hermon, a Senir a mynydd Hermon, y rhai hyn a aethant yn aml.
24Y rhai hyn hefyd bennau tylwyth eu tadau: sef Epher, ac Iesi, ac Eliel, ac Azriel, ac Ieremia, ac Hodafia, ac Iahdiel, gwyr cedyrn o nerth, gwyr enwoc, pennau tŷ eu tadau.
25Yna y cildynnasāt hwy oddiwrth Dduw eu tadau, a phutteiniasant ar ôl duwiau pobloedd y tîr, y rhai a ddinistriase Duw oi blaen hwynt.
26A Duw Israel a annogodd yspryd Phul brenin Assyria, ac yspryd Thiglath Pilneser brenin Assyria, ac ai caethgludodd hwynt sef y Rubeniaid, a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasses: ac ai dug hwynt 2.Bren 18.11.i Halah, a Habor, a Hara, ac i Afon Gozan hyd y dydd hwn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.