1Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, cedwch farn a gwnewch gyfiawnder, canys fy iechydwriaeth ar ddyfod, a’m cyfiawnder ar ymddangos.
2Gwyn ei fyd y dyn a wnelo hyn, a mâb y dyn a ymafelo yn hyn, gan gadw’r Sabboth heb ei halogi, a chadw ei law rhac gwneuthur dim drwg.
3Ac na lefared y dieithr-fab yr hwn a lyno wrth yr Arglwydd gan ddywedyd, yr Arglwydd gan ddidoli a’m didolodd oddi wrth ei bobl, ac na ddyweded y dispaddedic, wele fi yn bren crîn.
4Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrth y rhai dispaddedic, y rhai a gadwant fy Sabbothau, ac a ddewisant yr hyn a ewyllysiwyf, ac a ymafelant yn fyng-hyfammod,
5Rhoddaf iddynt yn fy nhŷ, ac o fewn fy magwyrydd lê, ac enw gwell na meibion, ac na merched: rhoddaf iddynt enw tragywyddol yr hwn ni dderfydd.
6A’r meibion dieithr y rhai a lynant wrth yr Arglwydd gan ei wasanaethu ef, a chan garu enw’r Arglwydd, a chan fod yn weision iddo ef, pob vn yn cadw Sabboth heb ei halogi, ac a ymaflo yn fyng-hyfammod,
7Dygaf hwynt hefyd i fynydd fy sancteiddrwydd, a llawenychaf hwynt yn nhŷ fyng-weddi: eu poeth offrymmau hefyd ai hebyrth fyddant gymmeradwy ar fy allor: canys fy nhŷ mau fi a elwir yn dŷ gweddi i’r holl bobloedd.
8Medd yr Arglwydd Dduw yr hwn a gascl wascaredigion Israel, etto mi a gasclaf eraill attynt hwy rhai y sy iw casclu attynt.
9Pob bwyst-fil y maes, a phôb bwyst-fil yn y coed deuwch i ddifa.
10Deillion ei wiliedyddion, ni wyddant hwy oll cŵn mudion hwy oll heb allu cyfarth: y maent yn cyscu, yn gorwedd, yn caru heppian.
11Ie y cŵn creulon ni chydnabyddant ai digon, a’r bugeiliaid hwythau ni fedrant ddeall, troesant hwy oll iw ffordd eu hun: pob vn at ei elw ei hun oi cwrr.
12Deuwch cymmerwn win, ac ymlawnwn o ddiod grêf, a bydded y foru megis heddyw fwy o lawer iawn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
