Hebræaid 8 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VIII.Bod offeiriadaeth Crist a’r cyfammod newydd yn dangos diddymmu yr offeiriadaeth Lefiaidd, a’r hên gyfammod.

1Eithr swm yr hyn a ddywedwyd yw hyn, fod i ni gyfryw Arch-offeiriad, yr hwn a eisteddodd ar ddehau law gorsedd-faingc y mawredd yn y nefoedd,

2Yn wenidog y cyssegrfa, a’r gwîr dabernacl yr hwn a osodes yr Arglwydd, ac nid dyn.

3Canys pob arch-offeiriad a osodir i offrymmu rhoddion ac aberthau: ac am hynny yr ydoedd yn rhaid bod gan hwn hefyd beth iw offrymmu.

4O blegit pe bydde efe ar y ddaiar, ni bydde yn offeiriad y chwaith, tra fydde offeiriaid yn offrymmu rhoddion yn ôl y ddeddyf.

5Y rhai sy yn gwnasaneuthu portreiad, a chyscod pethau nefol, megis o’r nefoedd yr attebwyd Moses pan oedd ar orphen y tabernacl: edrych eb efe, Exod.25.40. Act.7.44.ar wneuthur o honot bôb peth ar ôl portreiad a ddangoswyd i ti yn y mynydd.

6Eithr yn awr y cafodd efe swydd mwy rhagorol, o gymmaint ac y mae yn gyfryngwr cyfammod gwell, yr hwn sydd wedi ei osod at addewidion gwell.

7O blegit yn wir pe buase y cyntaf hwnnw yn ddifai, ni cheisiasid lle i’r ail.

8Canys yn beio arnynt hwy y dywed efe, Iere.31.31.|JER 31:31. rufei.11.27.|ROM 11:27. pen.10.16.wele y dyddiau a ddeuant, medd yr Arglwydd, pan wnelwyf â thŷ Israel, ac â thŷ Iuda gyfammod newydd:

9Nid fel y cyfammod yr hwn a wneuthum âu tadau hwynt yn y dydd yr ymafelais yn eu llaw hwynt iw dwyn o dîr yr Aipht: canys ni thrigasant hwy yn fyng-hyfammod mau fî, a minne a’u ysceulusais hwythau, medd yr Arglwydd,

10O blegit hwn yw’r cyfammod a wneuthum i â thŷ Israel, ar ôl y dyddiau hynny medd yr Arglwydd, myfi a ddodaf fyng-hyfreithau yn eu meddwl, ac yn eu calonnau yr scrifennaf a mi a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, ac hwythau a fyddant bobl i minne.

11Ac ni ddysc pob vn ei gymydog, a phob vn ei frawd, gan ddywedyd, adnebydd yr Arglwydd: o blegit hwynt a’m hadwaenant i oll, o’r lleiaf o honynt hyd y mwyaf o honynt.

12Canys trugarog fyddaf am eu anghyfiawnder, ac ni chofiaf eu pechodau nai hanwiredd hwynt mwy.

13Wrth ddywedyd newydd, y mae efe yn barnu y cyntaf yn henaidd, a’r hyn sydd henaidd ac oedrannus sydd agos i ddiflannu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help