Psalmau 47 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xlvij.Omnes gentes.Psalm at y pen-cerdd o feibion Corah.

1 Yr holl bobl, curwch ddwylo: llafar genwch i Dduw â llef gorfoledd.

2Canys yr Arglwydd goruchaf sydd ofnadwy: brenin mawr ar yr holl ddaiar.

3Efe a ddwg y bobl tanom ni: a’r cenhedloedd tann ein traed.

4Efe a ddethol ein etifeddiaeth i ni, sef ardderchawgrwydd Iacob, yr hwn a hoffodd efe.Selah.

5Derchafodd Duw mewn gorfoledd, yr Arglwydd â sain vdcorn.

6Cenwch, cenwch i Dduw: cenwch, cenwch i’n Brenin.

7Canys Brenin yr holl ddaiar Duw: cenwch yn ddeallus.

8Teyrnasodd Duw ar y cenhedloedd: eisteddodd Duw ar orsedd-faingc ei sancteiddrwydd.

9Pendefigion y bobl a ymgasclâsant at bobl Duw Abraham: canys tariannau y byd eiddo Duw, dirfawr y derchafwyd ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help