2.Brenhinoedd 14 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIIII.Amasia yn dial ei dâd 7 ac yn lladd llawer o’r Edomiaid 15 Ieroboam yn teyrnasu yn llê Ioas. 29 a Zacharia yn ei le yntef.

1Yn yr ail flwyddyn i Ioas fab Ioachaz brenin Israel, y teyrnasodd 2.Cron.25.1.Amasia mab Ioas brenin Iuda.

2Mab pum-mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth efe yn frenin, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Ioadan o Ierusalem.

3Ac efe a wnaeth yr hyn oedd inion yngolwg yr Arglwydd, etto nid fel Dafydd ei dâd: efe a wnaeth yn ôl yr hyn oll a’r a wnaethe Ioas ei dad ef.

4Er hynny ni thynnwyd ymmaith yr vchelfeudd: y bobl oeddynt etto yn aberthu, ac yn arogl-darthu mewn vchelfeudd.

5A phan siccrhauwyd ei deyrnas yn ei law ef: 2.Bren.12.20.yna efe a laddodd ei weision y rhai a laddasent y brenin ei dâd ef.

6 2.Cron.25.4. Ond ni laddodd efe feibion y rhai a darawsent fel y mae yn scrifennedic yn llyfr cyfraith Moses, yr hon y gorchymynnase’r Arglwydd gan ddywedyd, Deut.24.16. Ier.31.32. Ezech.18.20.na lladder y tadau dros y meibion, ac na lladder y meibion dros y tadau, onid lladder pob vn am ei bechod ei hun.

7Efe a darawodd o’r Edomiaid (yn nyffryn yr halen) ddeng-mil, ac a ennillodd y graig mewn rhyfel: ac a alwodd ei henw ef Ioctheel hyd y dydd hwn.

8Yna Amasia a anfonodd gennadau at Ioas fab Ioachaz, 2.Cron.25.17.fab Iehu brenin Israel gan ddywedyd: tyret, ymwelwn ai gilydd.

9Ac Ioas brenin Israel a anfonodd at Amasia brenin Iuda gan ddywedyd, yr yscellyn yr hwn yn Libanus a anfonodd at y cedrwydden yr hon yn Libanus gan ddywedyd, dyro dy ferch i’m mab i yn wraig: a bwystfil y maes yr hwn yn Libanus a drammwyodd, ac a sathrodd yr yscellyn.

10Gan daro y tarewaist yr Edomiaid, am hynny dy galon a’th falchiodd, ymffrostia, ac eistedd yn dy dŷ, canys i ba beth yr ymrysoni mewn drygioni, fel y fyrthit ti hefyd, ac Iuda gyd a thi?

11Ond ni wrandawodd Amasia, am hynny Ioas brenin Israel a aeth i fynu, a hwy a welsant wynêbau eu gilydd, efe ac Amasia brenin Iuda yn Bethsemes yr hon yn Iuda.

12Ac Iuda a laddwyd o flaen Israel: fel y ffôdd pawb iw pabellau.

13Ond Ioas brenin Israel a ddaliodd Amasia fab Ioas, fab Ahazia, brenin Iuda yn Bethsemes: ac efe a ddaeth i Ierusalem, ac a rwygodd o fûr Ierusalem o dorth Ephraim, hyd borth y gongl bedwar cant cufydd.

14Ac efe a gymmerth yr holl aur, a’r arian, a’r holl lestri a’r a gafwyd yn nhŷ’r Arglwydd, ac yn nhryssorau tŷ’r brenin, a’r meibion y rhai oeddynt yn wystlon: ac a ddychwelodd i Samaria.

15A’r rhan arall o hanes Ioas y rhai a wnaeth efe, ai gadernid ef, ac fel yr ymladdodd efe ag Amasia brenin Iuda: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Israel?

16Ac Ioas a hunodd gyd ai dadau, ac a gladdwyd yn Samaria gyd a brenhinoedd Israel: ac Ieroboam ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef.

17Ac Amasia mab Ioas brenin Iuda a fu fyw ar ôl marwolaeth Ioas fab Ioachaz brenin Israel bymtheng-mhlynedd.

18A’r rhann arall o hanes Amasia: 2.Cron.25.26.onid ydynt hwy yn scrifennedic mewn llyfr Cronicl brenhinoedd Iuda?

19Ond hwy a frâd-fwriadasant yn ei erbyn ef yn Ierusalem, ac efe a ffôdd i Lachis: etto hwynt a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac ai lladdasant ef yno.

20A hwynt ai dugasant ef ar feirch: ac efe a gladdwyd yn Ierusalem gyd ai dadau yn ninas Dafydd.

21Yna holl bobl Iuda a gymmerasant 2.Cron.26.1.Azariah, ac yntef yn fab vn mlwydd ar bymthec: ac ai hurddasant ef yn frenin yn llê Amasia ei dad.

22Efe a adailadodd Elath, ac ai rhoddodd hi trachefn i Iuda, ar ôl huno o’r brenin gyd ai dadau.

23O’r bymthecfed flwyddyn i Amasia fab Ioas brenin Iuda, y teyrnasodd Ieroboam mab Ioas brenin Israel yn Samaria vn mlynedd a deugain.

24Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd: ni chilioddd efe oddi wrth holl bechodau Ieroboam mab Nabat y rhai y gwnaethe efe i Israel bechu.

25Efe a ddug adref derfyn Israel o ddyfodfa Hemath, hyd fôr y rhôs: yn ôl gair Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a lefarase efe drwy law ei wâs Ionas mab Amittai y prophwyd, yr hwn o Gath Hepher.

26Canys yr Arglwydd a welse gystudd Israel yn flîn iawn: nad 1.Bren.14.10.gwarchaedic, na neb wedi ei adel, ac nad gynnorthwyudd i Israel.

27Etto ni lefarase yr Arglwydd am ddeleu enw Israel oddi tann y nefoedd: am hynny efe ai gwaredodd hwynt drwy law Ieroboam mab Ioas.

28A’r rhan arall o hanes Ieroboam, a’r hyn oll a’r a wnaethe efe, ai gadernid ef yr hwn yr ymladdodd efe, a yr hwn y dug efe adref Ddamascus, a Hemath i Iuda yn Israel: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoodd Israel?

29Ac Ieroboam a hunodd gyd ai dadau, gyd a brenhinoedd Israel: a Zacharia ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help