Diharebion 21 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXI.

1Fel afonydd o ddwfr y may calon y brenin yn llaw’r Arglwydd: efe ai trŷ hi lle y mynno ei hun.

2Gŵr sydd yn tybied yn ei olwg ei hun ei fod yn iniawn ym mhob ffordd: ond yr Arglwydd a bwysa y calonnau.

3 Pen.16.2. Gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr Arglwydd nag aberth.

4Uchelder golwg, a balchder calon brynar annuwiol sydd bechod.

5Bwriadau y diysceulus ydynt êlw yn vnic: ond pob ysceulus eisieu.

6 Mich.6.8. Tryssorau a gascler â thafod celwyddog, a chwelir megis gwagedd: y neb sydd yn ceisio angeu.

7Anrhaith yr annuwiol a erys gyd â hwynt: canys gwrthododant wneuthur cyfiawnder.

8Y dyn dauddyblig yn ei ffyrdd sydd estronaidd: ond y pur sydd iniawn ei waith.

9 Pen.13.11. Gwell yw bod mewn congl yn nenn tŷ: na bod gyd â gwraig anynad mewn tŷ ehang.

10Enaid yr annuwiol a ddeisyfia ddrwg: nid grasusol yw ei gymmydog yn ei olwg ef.

11Pan gosper gwatgwar-wr y bydd yr ehud callach: a phan ddyscer y doeth, efe a dderbyn ŵybodaeth:

12Call y mae y cyfiawn yn ystyried am dŷ yr annuwiol yn defetha y rhai annuwiol am drygioni.

13Y neb a gaeo ei glust rhag llef y tlawd: a lefain ei hunan, ac ni’s gwrandewir ef.

14Rhodd yn y dirgel a dyrr ddigofaint: a rhoddiad yn y fynwes lîd cryf.

15Llawen gan y cyfiawn wneuthur cyfiawnder: ond dinistr hynny i weithwyr anwiredd.

16Dyn yn myned ar gyfeiliorn oddi ar ffordd callineb a orphywys yng-hynnulleidfa y meirw.

17Y neb a garo wledda a ddaw i dlodi: a’r neb a garo wîn, ac olew ni bydd cyfoethog.

18Yr annuwiol yn iawn dros y cyfiawn, a’r anffyddlon dros yr iniawn.

19Gwell yw aros yn yr anialwch, na chyd â gwraig anynad ddigllon.

20Tryssor deisyfiadwy, ac olew sydd ym mhebyll y doeth: ond dŷn ffôl ai llwngc hwynt.

21Y neb a ddilyno gyfiawnder, a thrugaredd a gaiff fywyd, cyfiawnder, ac anrhydedd.

22Y doeth a ddringa dinas y cedyrn, ac a fwrw i lawr y cadernid y mae hi yn hydêru arno.

23Y neb a gadwo ei enau ai dafod, a geidw ei enaid rhag cyfyngder.

24Y balch, y gwar-galed, gwatwarus, yw henw y gŵr a wnelo yn falch yn ei ddigllondeb.

25Deisyfiad y diog ai lladd ef: canys ei ddwylo a wrthodant weithio:

26Yn hŷd y dydd y deisyf efe rywbeth: ond y cyfiawn a rydd, ac ni attal efe

27 Pen.15.8.|PRO 15:8. Esay.1.13 Aberth y rhai annuwiol sydd ffiaidd: pa faint mwy, pan offrymmant yn sceler?

28 Ecclus.34.21.|SIR 34:21. Pen.19.5. Tyst celwyddog a ddifethir: ond y gŵr a wrandawo a lefara bob amser.

29Gŵr annuwiol a galêda ei wyneb: ond yr iniawn a drefna ei ffordd.

30Nid oes ddoethineb, na deall, na chyngor yn erbyn yr Arglwydd.

31Y march a ddarperir erbyn dydd rhyfel: ond iechydwriaeth sydd eiddo yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help