1Gwae anrheithiwr, a thi heb dy anrheithio, a anffyddlon, er na wnaed yn anffyddlon â thi: pan ddarffo it anrheithio i’th anrheithir, a phan ddarffo it fod yn anffyddlon y byddant anffyddlon i ti.
2Arglwydd trugarha wrthym, ynot y gobeithiasom, bydd fraich iddynt yn foreu, a’n iechydwriaeth ninneu yn amser cystudd.
3Wrth lais y twrwf y gwibiodd y bobl, wrth ymdderchafu o honot y gwascarwyd y cenhedloedd.
4A’ch yspail a gynhullir cynhulliad locust, fel mynediad ceiliogod rhedyn yn myned yn ei erbyn ef.
5Derchafwyd yr Arglwydd, canys presswylio y mae yn yr vchelder: efe a lawnodd Sion o farn a chyfiawnder.
6Efe fydd siccrwydd dy amser, nerth, iechydwriaeth, doethineb, a gwybodaeth: ofn yr Arglwydd fydd ei dryssor ef.
7Wele eu rhai gorchestol a waeddasant oddi allan, cennadon heddwch a wylasant yn chwerw.
8Anrheithiwyd y priffyrdd, darfu cynniwerydd llwybr, ddiddymmodd gyfammod, diystyrodd ddinasoedd, ni wnaeth gyfrif o ddynion.
9Galarodd llescaodd y ddaiar, cywilyddiodd Libanus thorrwyd ef: Saron aeth megis anialwch, escydwyd Baasan hefyd a Charmel.
10Cyfodaf yn awr medd yr Arglwydd ymdderchafaf weithian, ymgodaf bellach.
11Chwi a escorwch ar vs, a ymddygwch sofl, eich yspryd tân a’ch yssa chwi.
12A’r bobloedd fyddant odynau calch, drain wedi eu torri y lloscir hwynt yn tân.
13Gwrandewch belledigion yr hyn a wneuthum, a gwybyddwch gymmydogion fy nerth mau fi.
14Pechaduriaid a ofnasant yn Sion, dychryn a ddaliodd y rhagrithwŷr: pwy o honom a drig dân yssol? pwy o honom a bresswylia lloscfeudd tragywyddol.
15Yr hwn a rodia cyfiawnder, ac a draetha iniondeb, a wrthid elw trwyllodrus, a escydwo ei law rhac derbyn gobrwy, a gaeo ei glust rhac clywed celanedd, ac a gaeo ei lygaid rhac edrych ar ddrygioni,
16Efe a bresswylia’r vchelder, cestyll y creigiau fydd ei amddeffynfa ef: ei fara a roddir iddo, ei ddwfr siccr.
17Dy lygaid a welant y brenin yn ei degwch: gwelant dir pell.
18Dy galon a fyfyria ofn, pa le scrifennudd? pa le y pwysudd, pa le rhifudd y tŷrau?
19Ni chei weled pobl greulon, pobl ddieithr-iaith fel na’s dealler, floesc dafod heb ei ddirnad.
20Gwel Sion dinas ein cyfarfod, dy lygaid a welant Ierusalem, y bresswylfa lonydd, y babell ni thynnir i lawr, ni syfl ei hoelion byth, ai rhaffau oll ni ddrylliant.
21Eithr yr Arglwydd ardderchawg yno i ni yn fangre afonydd ffrydau ymyl lydain: y rhwyf-long nid aiff trwyddo, a llong odidawg nid aiff trostaw.
22Canys yr Arglwydd ein barn-wr, yr Arglwydd ein deddf-wr, yr Arglwydd ein brenin, efe a’n ceidw.
23Gollyngasant dy raffau, ni chadarnhasant yr hwyl-bren yn iawn, ni thanâsant yr hwyl, rhannwyd yn awr sclyfaeth yspail fawr: y cloffion a sclyfaethasant yr sclyfaeth.
24Ac na ddyweded y presswylydd, claf ydwyf: maddeuwyd anwiredd y bobl a drigant ynddi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.