1Mab deuddeng-mlwydd Manasses pan ddechreuodd efe deyrnasu: 2.Bren.21.1.a phymtheng mhlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Ierusalem.
2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd: yn ôl ffieidd-dra y cenhedloedd Deut.18.9.y rhai a fwriase’r Arglwydd allan o flaen meibion Israel.
3Canys efe a ddychwelodd, ac a adailadodd yr vchelfeudd 2.Bren.18.4.y rhai a ddinistriase Hezecia ei dâd ef: ac Iere.32.34.a gyfododd allorau i Baalim, ac a wnaeth lwynau, ac a addolodd holl lû y nefoedd, ac ai gwasanaethodd hwynt.
4Adailadodd hefyd allorau yn nhŷ’r Arglwydd: yr hwn y dywedase’r Arglwydd 2.Bren.21 5.yn Ierusalem y bydd fy enw i yn dragywydd.
5Ac efe a adailadodd allorau i holl lû y nefoedd yn nau gyntedd tŷ’r Arglwydd.
6Ac efe a yrrodd ei feibion drwy’r tân yn nyffryn meibion Hinnon, dewinodd hefyd, 2.Bren.16.3.a daroganodd, hudoliaethodd hefyd, a mawrhaod swynyddion, a dewiniaid: chwanegodd wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd iw ddigio ef.
7Ac efe a gyfleuodd ddelw gerfiedic (yr hon a wnelse efe) yn nhŷ Dduw, yr hwn y dywedase Duw wrth Ddafydd, ac wrth Salomō ei fab, 1.Bren.8.29|1KI 8:29 & 9.3.|1KI 9:3. 2.Bren.21.7yn y tŷ hwn, ac yn Ierusalem (yr hon a ddewisais o holl lwythau Israel) y gosodaf fy enw yn dragywydd.
8Ac ni chwanegaf 2.Sam.7.10.symmud troed Israel oddi ar y tîr yr hwn a ordeiniais i’ch tadau chwi: os cadwant ar wneuthur yr hyn oll a orchymynnais i iddynt hwy trwy law Moses, sef yr holl gyfraith a’r deddfau, a’r barnedigaethau.
9Felly Manasses a hudodd Iuda, a thrigolion Ierusalem i wneuthur yn waeth na’r cenhedloedd y rhai a ddifethase’r Arglwydd o flaen meibion Israel.
10Er llefaru o’r Arglwydd wrth Manasses, ac wrth ei bobl, etto ni wrandawsant hwy.
11Am hynny y dûg yr Arglwydd arnynt hwy dywysogion y llu, y rhai eiddo brenin Assyria, a hwynt a ddaliasant Manasses, mewn gefynnau: rhwymasant ef hefyd a dwy gadwyn, a dugasant ef i Babilon.
12A phan oedd gyfyng arno ef, efe a weddiodd ger bron yr Arglwydd ei Dduw: ac a ymostyngodd yn ddirfawr o flaen Duw ei dadau.
13Pan weddiodd efe atto ef, yna efe a fu fodlon iddo, ac a wrandawodd ei ddymyniad ef, ac ai dychwelodd ef i Ierusalem iw frenhiniaeth: yna y gwybu Manasses mai’r Arglwydd oedd Dduw.
14Wedi hyn hefyd efe a adailadodd y mûr eithaf i ddinas Dafydd, o du’r gorllewyn i 2.Cron.32.30.Gihon, o’r afon hyd y ddyfodfa i borth y pyscod, ac efe a amgylchodd Ophel, ac ai derchafodd yn vchel iawn: ac efe a osododd dywysogion y llu yn yr holl ddinasoedd caeroc o fewn Iuda.
15Ac efe a ddug ymmaith y duwiau dieithr, a’r ddelw o dŷ’r Arglwydd, a’r holl allorau y rhai a adailadase efe ym mynydd tŷ’r Arglwydd, ac yn Ierusalem: ac ai taflodd allan o’r ddinas.
16Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd, ac a aberthodd arni hi ebyrth hedd a moliant: dywedodd hefyd wrth Iuda, am wasanaethu Arglwydd Dduw Israel.
17Er hynny y bobl oeddynt etto yn aberthu yn yr vchelfeudd: etto i’r Arglwydd eu Duw yn vnic.
18A’r rhan arall o hanes Manasses, ai weddi ef at ei Dduw, a geiriau y prophwydi y rhai a lefarasant wrtho ef yn enw Arglwydd Dduw Israel: wele hwynt 2.Bren.21.ym mhlith geiriau brenhinoedd Israel.
19Ei weddi ef hefyd pan gymmododd ag ef, ai holl bechod ef, ai gamwedd, a’r lleoedd y rhai’r adailadodd efe ynddynt vchelffeudd, ac y gosododd lwynau, a delwau cynn ymostwng o honaw ef: wele hwynt yn scrifennedic ym mysc geiriau y gweledyddion.
20Felly Manasses a hunodd gyd ai dadau, a chladdasant ef ei dy ei hun: ac Amon ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.
21Mab dwy flwydd ar hugain Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu: a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Ierusalem.
22Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yngolwg yr Arglwydd fel y gwnaethe Manasses ei dad ef; canys Amon a aberthodd i’r holl ddelwau y rhai a wnelse Manasses ei dâd ef, ac ai gwasanaethodd hwynt.
23Ond nid ymostyngodd efe ger bron yr Arglwydd fel yr ymostyngase Manasses ei dad ef: eithr yr Amon ymma a bechodd fwy fwy.
24Ai weision ef a 1.Bren.21.13.frad-fwriadasant iw erbyn ef, ac ai lladdasant ef yn ei dŷ ei hun.
25A phobl y wlâd a laddasant yr holl rai a frad-fwriadasent yn erbyn y brenin Amon: a phobl y wlâd a vrddasant Iosia ei fab ef yn frenin yn ei le ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.