Psalmau 90 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xc.Gweddi Moses gwr Duw.

1 Ti Arglwydd, fuost yn bresswylfa i ni o genhedlaeth i genhedlaeth.

2Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunnio o honot y ddaiar, a’r bŷd, ti hefyd oeddit Dduw o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb.

3Troi ddŷn i ddinistr, trachefn y dywedi, dychwelwch, feibion dynnion.

4Canys mil o flynyddoedd yn dy olwg di fel doe, wedi ’r êl heibio, ac gwiliadwriaeth nôs.

5Pan wascareth hwynt megis â llifeiriant y byddant fel hûn: yn forau fel llyssieun y cyfnewidiant.

6Y boreu y blodeua, ac yr adnewydda, eithr pryd nawn y torrir ef ymmaith, ac y gwywa.

7Canys yn dy ddîg y difethwyd ni, ac yn dy lidiawgrwydd ein brawychwyd.

8Gosodaist ein anwiredd ger dy fron, a’n dirgel bechodau yng-oleuni dy wyneb.

9Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di, treuliasom ein blynyddoedd fel lleferydd.

10Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng-mhlynedd a thrugain, ac os o gryfder y cyrheuddir pedwar vgain mhlynedd, yna eu nerth sydd boen, a blinder: canys ebrwydd y derfydd, ac yr ehedwn ni ymmaith.

11Pwy a edwyn nerth dy sorriant di? canys fel y mae dy ofn y mae dy ddigter.

12Dysc i ni felly i gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb.

13Dychwel Arglwydd, pa hŷdy sorri? cymmer drugaredd ar dy weision.

14Diwalla ni yn foreu a’th drugaredd, fel y gorfoleddom, ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau.

15Llawenhâ ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni, a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd.

16Gweler dy waith tu ag at dy weision, a’th odidawgrwydd tu ag at eu plant hwy.

17A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni, a threfna weithred ein dwylo ynom ni, ie trefna waith ein dwylo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help