Ecclesiasticus 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Ymma y cynghorir y ffyddloniald i ddilyn amynedd a gobaith.

1Fy mâb os deui i wasanaethu yr Arglwydd, paratoa dy enaid i brofedigaeth.

2Iniona dy galon a dioddef: ac na wna frys yn yr amser y dygir

3Glŷn wrtho heb ymmado, fel i’th gynnydder hyd dy ddiwedd.

4Derbyn yn llawen yr hyn a ddigwyddo, a bydd ymarhous am gyfnewid dy ostyngiad.

5 Doeth.3.6. Dihar.17.3. O blegit aur a brofir yn tân: a dynion cymmeradwy yn ffwrn gostyngiad.

6Creda iddo ef, ac efe a’th dderbyn di: iniona dy lwybrau, a gobeitha ynddo ef.

7Y rhai ydych yn ofni yr Arglwydd credwch iddo ef, ac ni phalla eich gwobr chwi.

8Y rhai ydych yn ofni yr Arglwydd gobei­thwch am ddaioni, ac am lawenydd tragywyddoldeb a thugaredd.

9Y rhai ydych yn ofni yr Arglwydd ymarhoswch am ei drugaredd ef, ac na chiliwch rhag eich syrthio.

10Edrychwch ar y cenhedloedd gynt a gwelwch: pwy a ymddyriedodd i’r Arglwydd ac a wradwyddwyd:

11Neu pwy a arhosodd yn ei ofn ef ac a a­dawyd: Psal.37.25.neu pwy a alwodd arno ef ac yntef yn ei ddiystyru ef:

12O blegit tosturiol, a thrugarog, ymarhous, ac aml ô drugaredd yw ’r Arglwydd: ac y mae efe yn maddeu pechodau, ac yn achub yn amser trallod.

13Gwae galonnau ofnus, a dwylo llesc, a’r pechadur a gerddo 1.Bren.18.23.ddau lwybr.

14Gwae yr galon lesc: o herwydd nid yw yn credu: am hynny ni amddeffynnir hi.

15Gwae chwi y rhai a gollasoch amynedd.

16A pha beth a wnewch chwi pan edrycho yr Arglwydd:

17Y rhai a ofnant yr Arglwydd ni anghredant ei esriau ef: Io.14.23.24.a’r rhai ai carant ef a gad­want ei ffyrdd ef.

18Y rhai a garant yr Arglwydd a geisiant ewyllys da ganddo ef.

19A’r rhai ai carant ef a lenwir a’r gyfraith.

20Y rhai a garant yr Arglwydd a baratoant eu calon, ac a ostyngant eu heneidiau ger ef fron ef

21[Gan ddywedyd,] syrthiwn yn nwylo Duw, ac nid yn nwylo dynion.

22O herwydd fel y mae ei fawredd ef: felly y mae ei drugaredd ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help