Iosuah 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.Duw yn rhoddi Iericho yn llaw Iosuah. 22 yntef yn peri cadw yr addewid a wnelsid i Rahab. 26 Dialedd Duw ar yr hwn a adailade Iericho trachefn.

1Ac Iericho oedd yn gaeedic, ac yn argaeedic rhac ofn meibion Israel: nid oedd yn myned allan, nac yn dyfod i mewn.

2A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Iosuah, gwêl rhoddais yn dy law di Iericho ai brenin: chedyrn y llu.

3Gan hynny amgylchwch y ddinas ryfel-wŷr oll, gan amgylchynu y ddinas vn waith: gwnewch felly chwe diwrnod.

4A dyged saith o offeiriaid saith o vdcyrn o gyrn hyrddod o flaen yr Arch, a’r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith: alleisied yr offeiriaid a’r vdcyrn.

5A phan gênir yn hirllaes a chorn yr hwrdd, phan glywoch chwithau sain yr vdcorn bloeddied yr holl bobl a bloedd vchel: yna y syrth mûr y ddinas tani hi, ac eled y bobl i fynu bawb ar ei gyfer.

6Yna Iosuah mab Nun a alwodd ar yr offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt dygwch Arch y cyfammod: a dyged saith o offeiriaid saith o vdcyrn o gyrn hyrddod o flaen Arch yr Arglwydd.

7Ac efe a ddywedodd wrth y bobl cerddwch, ac amgylchwch y ddinas: a’r hwn sydd arfog eled o flaen Arch yr Arglwydd.

8A phan ddywedodd Iosuah wrth y bobl, yna y saith offeiriaid a ddugasant saith o vdcyrn o gyrn hyrddod, ac a gerddasant o flaen yr Arglwydd, ac a leisiasant mewn vdcyrn: ac Arch cyfammod yr Arglwydd oedd yn myned ar eu hol hwynt.

9A’r rhai arfogion oeddynt yn myned o flaen yr offeiriaid y rhai oeddynt yn lleisio mewn vdcyrn: yna y fyddin olaf oedd yn myned ar ôl yr Arch dān gerdded, a thān leisio mewn vdcyrn.

10Ac Iosuah a orchymynnase i’r bobl gan ddywedyd, na waeddwch, ac na edwch glywed eich llais, ac nac eled gair allan o’ch genau, hyd y dydd y dywedwyf wrthych, gwaeddwch, a bloeddiwch.

11Felly Arch yr Arglwydd a amgylchodd y ddinas gan hamgylchynu vnwaith: yna y daethant i’r gwerssyll, ac y lleteuasant yn y gwerssyll.

12Ac Iosuah a gyfododd yn forau: a’r offeiriaid a ddugasant Arch yr Arglwydd.

13A’r saith offeiraid oeddynt yn dwyn saith o vdcyrn o gyrn hyrddod o flaen Arch yr Arglwydd yn myned dann gerdded, ac yn lleisio mewn vdcyrn: a’r rhai arfogion oeddynt yn myned oi blaen hwynt a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ol Arch yr Arglwydd dann gerdded, a lleisio mewn vdcyrn.

14Felly’r amgylchynasant y ddinas vn waith yr ail dydd, a dychwelasant i r gwerssyll: fel hyn y gwnaethant chwe diwrnod.

15Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn forau ar godiad y wawr, ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw, saith waith: yn vnic y dwthwn hwnnw’r amgylchasant y ddinas seith-waith.

16A phan leisiodd yr offeiriaid yn eu hudcyrn y seithfed waith, yna Iosuah a ddywedodd wrth y bobl: gwaeddwch canys rhoddodd yr Arglwydd y ddinas i chwi.

17A’r ddinas fydd yn ddiofryd-beth, hi a’r hyn oll ynddi i’r Arglwydd: yn vnic Rahab y buttein-wraig fydd byw, hi a chwbl ar y gyd a hi yn tŷ, canys Iosuah.2.4.hi a guddiodd y cennadau y rhai a anfonasom ni.

18Er hynny ymgedwch chwi oddi wrth y diofryd-beth rhac eich gwneuthur eich hun yn ddiofryd-beth os cymmerwch o’r diofryd-beth: Leuit.27.21.|LEV 27:21. Num.21.2. Deut.13.15.felly y gosodech werssyll Israel yn ddiofrydbeth, ac y difwynech-ef.

19Ond yr holl arian, a’r aur, a’r llestri prês, ar haiarn fyddant gyssegredic i’r Arglwydd: deled i mewn i dryssor yr Arglwydd.

20Yna y gwaeddodd y bobl, ac y lleisiasant mewn vdcyrn: a phan glybu y bobl lef yr vdcyrn, yna y bobl a waeddasant a llef vchel, Hebreaid.11.30.a’r mûr a syrthiodd i lawr oddi tanodd, felly y bobl a aethant i fynu i’r ddinas, pob vn ar ei gyfer, 2.Mac.12.15.ac a ennillasant y ddinas.

21A hwynt a ddifrodasant yr hyn oll yn y ddinas yn ŵr ac yn wraig, yn fachgen, ac yn henafgwr: yn eidion ac yn ddafad, ac yn assyn a mîn y cleddyf.

22Ac Iosuah a ddywedodd wrth y ddau ŵr y rhai a fuasent yn edrych ansodd y wlad, ewch i dŷ y buttein-wraig: a dygwch allan oddi yno y wraig a’r hyn oll iddi, Pen.2.14.fel y tyngasoch wrthi.

23Felly y llangciau y rhai fuasent yn edrych ansodd a ddaethant i mewn, ac a ddugasant allan Rahab, ai thad, ai mam, ai brodyr, a chwbl ar a fedde hi, dugasant allan hefyd ei holl dylwyth: a chyfleuasant hwynt o’r tu allan i werssyll Israel.

24A lloscasant y ddinas a thân, a’r hyn oll ynddi: yn vnic yr arian, a’r aur, a’r llestri prês, a’r haiarn a roddasant hwy yn nhryssor dŷ’r Arglwydd.

25Felly y cadwodd Iosuah yn fyw Rahab y buttein-wraig, a thylwyth ei thad, a’r hyn oll genddi, a hi a drigodd ym mysc Israel hyd y dydd hwn: am iddi guddio y cennadau y rhai a anfonase Iosuah i chwilio Iericho.

26Ac Iosuah a dyngodd y pryd hynny gan ddywedyd: melldigedic ger bron yr Arglwydd’r gŵr yr hwn a gyfyd, 1.Bren.16.34.ac a adailada y ddinas hon sef Iericho: yn ei gyntaf-anedic y seilia efe hi, ac yn ei ieuangaf y sefylla efe ei phyrth hi.

27Felly yr Arglwydd oedd gyd ag Iosuah: fel y bu ei glod ef drwy’r holl ddaiar.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help