Exodus 38 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXVIII.Gwneuthuriad allor y poeth offrwm. 8 Y noe bres. 9 Y cynteddfa. 24 cyfrif o’r hyn a offrymmodd y bobl.

1Ac efe a wnaeth allor y poeth offrwm o Exod.27.1.goed Sittim: o bump cufydd ei hŷd, a phump cufydd ei llêd, yn bedair ongl, ac yn dri chufydd ei huchter.

2Gwnaeth hefyd ei chyrn hi ar ei phedair congl, ei chyrn hi oeddynt o honi ei hun: ac efe ai gwiscodd hi a phrês.

3 Exod.27.3. Efe a wnaeth hefyd holl lestri yr allor, y crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau, a’r cigweiniau a’r thusserau, ei holl lestri hi a wnaeth efe o brês.

4Ac efe a wnaeth i’r allor, alch prês ar waith rhwyd: dann ei chwmpas oddi tannodd hyd ei hanner hi.

5Ac efe a fwriodd bedair modrwy i bedwar cwrr yr alch prês: i fyned am drosolion.

6Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim: ac ai gwiscodd hwynt a phrês.

7Ac efe a dynnodd y trosolion drwy y modrwyau ar ystlysau yr allor iw dwyn hi arnynt: yn gau y gwnaeth efe hi ag ystyllod.

8Ac efe a wnaeth noe brês, ai throed o brês o ddrychau y lluoedd y rhai a ymgasclent ddrws pabell y cyfarfod.

9Ac efe a wnaeth y cynteddfa ar yr ystlys dehau, tu a’r dehau: llenni troelloc y cynteddfa sidan gwynn cyfrodedd o gan cufydd.

10A’u hugain colofn, ac ai hugain mortais o brês: a phennau y colofnau ai cylchau o arian.

11Ac ar du yr gogledd gant cufydd, eu hugain colofn, ai hugain mortais o brês: a phennau y colofnau ai cylchau o arian.

12Ac o du yr gorllewyn llenni troelloc o ddec cufydd a deugain: eu dec colofn, ai dec mortais, a phennau y colofnau, ai cylchau o arian.

13Ac o du yr dwyrain lle y cyfyd haul o ddec cufydd a deugain.

14Llenni troelloc o bymthec cufydd o’r du: eu tair colofn, ai tair mortais.

15Ac ar yr ail ystlys o ddeutu drws y porth lenni troelloc o bymthec cufydd, eu tair colofn, ai tair mortais.

16Holl lenni troelloc y cynteddfa o amgylch o sidan gwynn cyfrodedd.

17Ond morteisiau y colofnau o brês, pennau y colofnau, ai cylchau o arian: a gwisc eu pennau o arian, a holl golofnau y cynteddfa oeddynt wedi eu cylchu ag arian.

18A chaead-len drws y cynteddfa ar waith edef a nodwydd, o sidan glâs, a phorphor ac scarlat, a sidan gwynn cyfrodedd: ac yn vgain cufydd o hŷd, ai huchter, ai llêd yn bump cufydd ar gyfer llenni troelloc y cynteddfa.

19Eu pedair colofn hefyd, ai pedair mortais o brês: ai pennau o arian, gwisc eu pennau hefyd ai cylchau arian.

20A Exo.27.19.holl hoelion y tabernacl, a’r cynteddfa oddi amgylch brês.

21Dymma gyfrif y tabernacl, tabernacl y destiolaeth, y rhai a gyfrifwyd wrth orchymyn Moses: wasanaeth y Lefiaid drwy law Ithamar fab Aaron yr offeiriad.

22Besaleel mab Uri mab Hur o lwyth Iuda, a wnaeth yr hyn oll a orchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

23A chyd ag ef yr ydoedd Aholiab mab Achisamech o lwyth Dan saer cywraint, a gwniedydd mewn sidan glâs, ac mewn porphor, ac mewn scarlat, ac mewn sidan gwynn.

24Yr holl aur a weithiwyd yn y gwaith yn holl waith y cyssegr, ydoedd aur yr offrwm cwhwfan naw talent ar hugain, a saith gant sicl, a dec ar hugain yn ôl sicl y cyssegr.

25Ac arian y rhai a gyfrifwyd o’r gynnulleidfa gant talent, a mîl a seithgant a phymthec sicl a thrugain yn ôl y sicl sanctaidd.

26Hanner sicl am bôb pen, hanner sicl yn ôl y sicl sanctaidd am bôb vn a ele heibio dan rif o fab vgein-mlwydd ac vchod am chwe chant mil a thair mîl, a phum-cant, a dec a deugain.

27Ac yr oedd cant talent o arian i fwrw morteisiau y cyssegr a morteisiau y wahan-len: cant mortais o’r cant talent, talent i bôb mortais.

28Ac o’r mîl, a seith-gant, a phymthec a thrugain y gwnaeth efe bennau y colofnau: ac y gwiscodd eu pennau, ac y cylchodd hwynt.

29A phrês yr offrwm cwhwfan ddec talent a thrugain: a dwy fîl a phedwar cant o siclau.

30Ac efe a wnaeth o hynny forteisiau drws pabell y cyfarfod a’r allor brês, a’r alch pres yr hwn oedd ynddi: a Exod.27.19.holl lestri yr allor.

31A morteisiau y cynteddfa: a holl hoelion y tabernacl, a holl hoelion y cynteddfa o amgylch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help