Tobias 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Tobit yn galw y ffyddloniaid iw wleddau. 3 Yn gadel ei fwyd, ac yn myned i gladdu y meirw, ac er hynny yn colli ei olwg, 11 Er gywirdeb ef, 14 A’r modd yr edliwiodd, ac y dannododd ei wraig iddo ei dduwioldeb.

1Wedi i mi ddyfod adref i’m tŷ fy hun, a rhoddi i mi Anna fyng-wraig a Thobias fy mab: ar ŵyl y Pentecost, (yr hon yw vehel-wyl y saith wythnos) y gwnaethbwyd i mi ginio mawr.

2Eithr pan eisteddais i fwytta, a gweled amlder o fwyd, mi a ddywedais wrth fy mab: dôs a chyrch pa ddyn tlawd bynnac a gaffech o’n brodyr ni mewn eisieu, ac sydd yn meddwl am yr Arglwydd, ac wele mi a arhosaf am danat.

3Eithr efe pan ddaeth trachefn a ddywedodd wrthif, fy nhad, vn o’n cenedl ni sydd wedi ei dagu, ai fwrw allan i’r heol,

4Yna cyn profi dim bwyd mi a neidiais ar fy nrhaed, ac ai dugym ef i dŷ nes machlud o haul.

5Ac wedi dychwelyd o honof, mi a ymolchais, ac a fwytteis fy mara yn athrist:

6Gan feddwl am brophwydoliaeth Amos, y modd y dywedase efe: eich vchel wyliau a droir i alar, a’ch llawenydd oll i gwynfan:

7Ac mi a ŵylais, a phan fachludodd yr haul, mi a euthym, ac a wneuthym fedd, ac ai cleddais ef.

8A’m cymydogion a’m gwatwarent gan ddywedyd, onid ofna hwn etto ei angeu: am y peth ymma y ffôdd efe vn-waith, ac wele efe eil­chwael yn claddu ’r meirw.

9Ac ar y nôs honno mi a ddychwelais o gladdu, ac a gyscais ymhalogi wrth bared y neuadd yn wyneb-noeth,

10Heb ŵybod fod adar y to yn y fagwyr, y rhai a fwriasant dail twymyn yn fy llygaid fel yr oeddynt yn agored: ac felly y daeth yr huchen ar fy llygaid: ac er fy myned at feddygon, ni wnaethant i’m ddim lles. Ac Achiacarus a’m porthodd i hyd onid euthym i Elimais.

11Ac Anna fyng-wraig a weithie mewn nydd-dai gwragedd.

12A phan aeth hi â’r gwaith adref i’r perchennogion, hwyntwy a dalasant iddi ei chyflog gan roddi mynn yn ychwaneg:

13Yr hwn pan ddaeth i’m tŷ a ddechreuodd frefu, yna y gofynnais iddi, o ba le y mynnyn, ai lledrad yw efe? Dod ef eil­chwel iw berchennogion, canys nid cyfraithlon yw bwytta lledrat.

14A hithe a ddywedodd, ei roi ef a wnaethpwyd i mi gyd a’m cyflog, etto nid oeddwn i yn ei chredu, ond erchi ei roddi ef iw berchēnogion, ac yr oedd yn wradwydd genif drosti, eithr hi a’m hattebodd gan ddywedyd: mae dy elusenau a’th gyfiawnderau: wele y maent yn amlwg oll gyd â thi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help