1Pan lefarodd Ephraim, arswyd ymdderchafodd efe yn Israel: onid pechodd gyd â Baal, a bu farw.
2Ac yr awr hon chwanegasant bechu, ac oi harian y gwaethant iddynt eu hun yn ôl eu meddyliau eu hun, delwau tawdd yn eulynnod: a’r cwbl yn waith y celfydd, am y rhai y maent yn dywedyd, y rhai a aberthant ddyn, cusanant y lloi.
3Am hynny y byddant fel y boreu gwmmwl, megis y gwlith a ymedu yn foreu, fel man-us a chwaler o’r llawr dyrnu, ac fel mŵg o ffumer.
4Ac myfi’r Arglwydd dy Dduw, o dîr yr Aipht: ni chei gydnabod Duw onid myfi: ac nid iachawdur onid myfi.
5Mi a’th adnabum yn y diffaethwch, yn nhir y poethni.
6Fel eu porfa y cawsāt eu gwala, a phan gawsant eu gwala, codasant eu calonnau, ac anghofiasant fi.
7Onid mi a fyddaf fel llew iddynt, megis llewpard ar ffordd Assur.
8Cyfarfyddaf â hwynt fel arth wedi colli ei chenawon: rhwygaf linynnau eu calon hwynt yna fel llew y difâf hwynt, bwyst-fil maes ai llarpia hwynt.
9[Dy bechod] a’th ddinistriodd Israel: onid ynofi dy gymmorth.
10Dy Frenin ydwyf, pa le a’th waredo di yn dy holl ddinasoedd? mae dy frawd-wŷr, am y rhai y dywedaist, dyro i mi frenin, a thywysogion?
11Rhoddaf it frenin yn fy nîg: a dygaf ef ymmaith yn fy llid.
12Rhwymwyd anwiredd Ephraim, Ier.17.1.cuddiwyd ei bechod.
13Gofid vn yn escor a ddaw arno ef, mab anghall yw efe: canys ni ddylease efe sefyll yr amser yn escoreddfa plant.
14O law vffern yr achubaf hwynt, oddi wrth angen y gwaredaf hwynt, byddaf angeu i ti ô angeu, byddaf drangc i ti vffern: cuddiwyd edifeirwch o’m golwg.
15Canys efe a ffrwytha ym mysc brodyr, daw gwynt y dwyrain, gwynt yr Arglwydd o’r anialwch a dderchafa, ac a sycha ei withiennau, ai ffynnon a aiff yn hesp: efe a yspeilia bob llestr dymunol.
16Diffeithir Samaria am ei bod yn anufydd iw Duw, syrthiant ar y cleddyf, eu plant a ddryllîr wrth gelfi, ai beichiogion a rwygir i fynu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
