2Llawenychaf a gorfoleddaf ynot: canaf i’th enw di, y Goruchaf.
3Tra y ddychwelid fyng-elynnion yn eu hôl, y llithrant, ac y difethir hwynt o’th flaen di.
4Canys gwnaethost fy marn a’m matter yn dda: eisteddaist ar orsedd-faingc ô farnudd cyfiawn.
5Ceryddaist y cenhedloedd, destruwiaist yr annuwiol: eu henw hwynt a ddelêaist hefyd byth bythol.
6Hâ elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd, diwreiddiaist y dinasoedd, darfu eu coffadwriaeth hwynt.
7Yr Arglwydd a erys yn dragywydd: efe a baratôdd ei orsedd-faingc i farn.
8Canys efe a farn y bŷd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn iniondeb.
9Yr Arglwydd hefyd fydd amddeffyn i’r truan, nawddfa mewn prŷd, mewn cyfyngder.
10A’r rhai a adwaenant dy enw a ymddyriedant ynot: canys ni adewaist ô Arglwydd y rhai a’th geisient.
11Can-molwch yr Arglwydd yr hwn sydd yn presswylio yn Sion: a mynegwch i’r bobloedd ei weithredoedd ef.
12Canys pan ymofynno efe am waed, y cofia efe am danynt: ac nid anghofia waedd y tlodion.
13Trugarhâ wrthif Arglwydd, fy nerchafudd o byrth angeu: gwêl fy mlinder gan fyng-haseion,
14Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Sion: y llawenychwyf yn dy iechydwriaeth.
15Y cenhedloedd a soddasant yn y ffôs yr hon a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed hwynt.
16Adweinir yr Arglwydd, efe a wnaeth farn: yr annuwiol a faglwyd yng-weithredoedd ei ddwylo.Higaion.
Selah.17Y rhai drygionus a ymchwelant i vffern: yr holl genhedloedd a anghofiant Dduw.
18Canis nid anghofir y tlawd byth, gobaith y trueniaid chollir byth.
19Cyfot Arglwydd, na orfydded dŷn: barner y cenhedloedd ger dy fron di.
20Gosot Arglwydd ofn arnynt, gŵybydded y cenhedloedd dynnion ydynt hwy.Selah.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
