1.Thessaloniaid 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.1 Y mae efe yn eu hannog i sancteiddrwydd, 6 Gwiriondeb, 9 Cariad, 11 Llafur, 13 A chymmedrol alar am y meirw. 17 Gan ddosparthu diwedd yr adgyfodiad.

1 Ac heb law hynny yr ydym yn attolwg i chwi frodyr, ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu, ar i chwi gynnyddu fwy-fwy, megis y derbyniasoch gennym, pa fodd y dylech rodio, a bodloni Duw.

2Canys gwyddoch pa orchymynnion a roddasom i chwi trwy yr Arglwydd Iesu.

3 Ruf.12.2.|ROM 12:2. ephe.5.17. Canys hyn yw ewyllys Duw eich sancteiddiad chwi, ac ymgynnal o honoch oddi wrth odineb,

4[A] gwybod o bôb vn o honoch pa fodd y meddianna ei lestr mewn sancteiddrwydd, ac anrhydedd,

5Nid mewn gwŷn trachwant megis y cenhedloedd, y rhai nid adwaenant Dduw.

6 1.Cor.6.8. Na fydded i neb orthrymmu na thwyllo ei frawd mewn masnach: canys yr Arglwydd sydd ddialudd ym mhôb cyfryw beth, megis y rhag-ddywedasom i chwi, ac y tystiasom.

7 1.Cor.1.2. O blegit nas galwodd Duw nyni i aflendid, onid i sancteiddrwydd.

8Am hynny y neb a escaeluso nid dŷn y mae yn escaeluso, onid Duw yr hwn a roddes ei Yspryd glân ynom.

9A thu ag at am frawdgarwch nid rhaid i chwi scrifennu attoch: Ion.13.34.|JHN 13:34 & 15.12.|JHN 15:12. 1.ioan.2.8.|1JN 2:8 & 4.21.canys dyscwyd chwi gan Dduw i garu eu gilydd.

10Oblegit yr ydych yn gwneuthur hyn i bawb o’r brodyr, y rhai sy trwy hôll Macedonia ac yr ydym yn attolwg i chwi frodyr gynnyddu o honoch fwy-fwy,

11A rhoddi o honoch eich brŷd 2,Thess.3.7.ar fod yn llonydd, a gwneuthur y pethau sy eiddoch eich hunain, a gweithid â’ch dwylo eich hunain megis y gorchymynnasom i chwi:

12Fel yr ymddygoch yn weddaidd tu ag ac y rhai sydd oddi allan, ac na byddo arnoch eisieu dim.

13Nid ewyllysiwn frodyr eich bod yn anwybod am y rhai sy yn huno, fel na chymmeroch drymder, megis eraill y rhai nid oes ganddynt obaith.

14Canys os ydym yn credu farw Iesu, a’i adgyfodi, felly y rhai a hunasāt yn Iesu a ddwg Duw gyd ag ef.

15Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yng-air yr Arglwydd, 1.Cor.15.23.na bydd i ni y rhai fyddwn yn fyw, ac wedi ein gadel yn nyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu y rhai a hunasant.

16Canys yr Arglwydd ei hun a ddescyn o’r nef gyd â gawr, a llef yr Arch-angel, ac ag vdcorn Duw, Math.24.31. 1.cor.15.52.a’r meirw yng-Hrist a gyfodant yn gyntaf.

17Yna ninnau y rhai fyddwn byw, ac wedi ein gado a gymmerir yn y man gyd â hwynt yn yr wybrennau i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr: ac felly yn oestadol y byddwn gyd â’r Arglwydd.

18Am hynny diddenwch eu gilydd â’r ymadroddion hyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help