1Wedi y pethau hyn pan oedd Artaxerxes brenin y Persiaid yn teyrnasu y daeth Esdras Saraias, Ezerias, Hêlciah, Salum.
2[Fâb] Sadoc, Achitob, Amarias, Ezias, Menuerath, Saraias. Sanias, Boccas, Abisun, Phinees, Eleazar, Aaron yr ofleiriaid cyntaf,
3Yr Esdras hwn a ddaeth allan o Babilon, ac yr oedd efe yn scrifennydd dyscedic yng-hyfraith Moses, yr hon a roddasid drwy Arglwydd Dduw Israel.
4Y brenin hefyd a roddodd iddo ef anrhydedd efe a gafodd ffafor ger ei fron ef yn ei holl ddymuniadau.
5Gyd ag ef hefyd yr aeth rhai o feibion Israel, ac o’r offeiriaid, a’r Lefiaid, ac o’r cantorion sanctaidd, ac o’r porthorion, ac o wenidogion y Deml i Ierusalem,
6Yn y eithfed flwyddyn o deyrnasiad Artaxerxes ar y pummed mis: hon ydoedd y seithfed flwyddyn i’r brenin (canys hwy a aethant o Babilon y dydd cyntaf, o’r mîs cyntaf,
7Ac a ddaethant i Ierusalem, fel y rhoddodd yr Arglwydd rwydd-deb iddynt yn eu taith)
8O herwydd Esdras a gawse ŵybodaeth mawr, fel na adawe efe i ddim fyned heibio a’r a ydoedd yng-hyfraith yr Arglwydd, ac yn y orchymynnion, ac efe a ddyscodd i holl Israel yr holl ddeddfau a’r barnedigaethau.
9Felly awdurdod yn scrifennedic drwy Artaxerxes a roddwydi Esdras yr offeiriad a darllenydd cyfraith yr Arglwydd: choppi o honi sydd yn canlyn.
10BRENIN ARTAXERXES at Esdras yr offeiriad, a darllenydd cyfraith yr Arglwydd annerch.
11Yn gymmeint am bodi yn ystyried pethau drwy dosturiaeth, myfi a orchymynnais i’r neb a fynnēt ac a ewyllysient o genedl yr Iddewō, ac o’r offeiraid, ac o’r Lefiaid y rhai ydynt yn ein brenhiniaeth ni, gael myned gyd â thi i Israel.
12Am hynny cyd-ymadawed y sawl a fynnant, fel y gwelais i yn ddâ mi a’m saith garedigion fyng-hynghoriaid,
13Fel yr ymwelant a’r pethau y rhai ydynt yn Iuda, ac Ierusalem yn ddyfal, megis y mae gennit ti yng-hyfraith yr Arglwydd:
14Ac y dygant y rhoddion i Arglwydd Israel, y rhai a addunais i, mi a’m caredigion i Iesualem: a’r holl aur, a’r arian ar a gefir yngwlad Babilon i’r Arglwydd yn Ierusalem.
15Gyd a’r hyn a roddodd y bobl i Deml yr Arglwydd eu Duw yn Ierusalem: fel y cesclyd hynny yn arian, ac yn aur, tu ag at deirw, a hyrddod, ac ŵyn, a phethau eraill yn perthynu at hynny.
16Fel yr offrymmant ebyrth i’r Arglwydd ar allor yr Arglwydd eu Duw, yr hon sydd yn Ierusalem.
17A pha beth bynnac a’r y wnelech di ti a’th frodyr o’r arian ac o’r aur, gwna di hynny yn ôl ewyllys dy Dduw.
18A’r llestri sanctaidd y rhai a roddwyd i ti tu ag at wasanaeth teml dy Dduw, yr hon sydd yn Ierusalem, tydi ai gosodi hwynt ger bron dy Dduw yn Ierusalem.
19A pha beth bynnac arall a’r a feddyliech di tu ag at gyfraid Teml dy Dduw, ti ai rhoddi ef allan o dryssor y brenin.
20Ac myfi brenin Artaxerxes a orchymynnais i dryssor-wŷr Syria a Phenice, am iddynt hwy roddi yn rhwydd i Esdras yr offeiriad, a darllenydd cyfraith y Duw goruchaf beth bynnac a’r a anfone efe am dano, hyd gan talent o arian.
21Ac hefyd hyd gant mesur o ŷd, a chan tunnell o wîn, a phethau eraill yn ddiandlawd.
22Gwneler pôb peth i’r goruchaf Dduw yn ddyfal yn ôl cyfraith Dduw, fel na ddelo digofaint ar frenhiniaeth y brenin ai feibion.
23Hefyd yr ydys yn gorchymyn i chwi na cheisier na theyrnged, na thrêth gan yr offeiriaid, na’r Lefiaid, na’r cantorion sanctaidd, na’r porthorion, na gwenidogion y Deml, nac oddi ar weith-wŷr y Deml, ac na byddo awdurdod i neb drethu dim arnynt hwy.
24A thithe ô Esdras yn ôl doethineb Duw gosot farn-wŷr, a llywawd-wŷr y rhai a farnant drwy holl Syria a Phenice y rhai ôll ydynt ddyscedic yng-hyfraith dy Dduw, a dysc di y rhai annyscedic.
25A chosper yn ddyfal y rhai oll a’r a drosheddant gyfraith Duw a’r brenin, y naill ai trwy farwolaeth neu ryw gospedigaeth arall, ai ynte trwy ddirwy o arian, neu herwriaeth.
26Yna Esdras yr scrifennydd a ddywedodd, bendigedic fyddo Arglwydd Dduw fy nhadau, yr hwn a roddodd y meddwl ymma ynghalon y brenin i ogoneddu ei dŷ ef, yr hwn sydd yn Ierusalem,
27Ac a’m hanrhydeddodd fi ger bron y brenin, a’r cynghoriaid, ai holl garedigion ef ai bendefigion ef.
28Am hynny yr oeddwn i yn gyssurus drwy gynnorthwy yr Arglwydd fy Nuw: ac mi a gesclais wŷr o Israel i fyned i fynu gyd â mi.
29Dymma y blaenoriaid yn ôl eu teuluoedd ai rhagor-fraint, y rhai a ddaethant gyd â mi allan o Babilon yn nheyrnasiad brenin Artaxerxes.
30o feibion Phinees, Gersom: o feibion Ithamar, Gamaliel: o feibion Dafydd Hattus mab Cechemah:
31O feibion Pharez Zacharias, a chyd ag ef y cyfrifwyd cannŵr a dêc a deugain.
32O feibion Pahath Moab, Elioenai mâb Zacharias: a chyd ag ef ddeucant o wŷr.
33O feibion Zathoe, Sechenias, mab Iezolus, a chyd ag ef dry-chant o wŷr: o feibion Adin, Obed mab Ionathā, a chyd ag ef ddeu-cant a dêc a deugain o wŷr.
34O feibion Elam, Iosias mab Gotholias: a chyd ag ef ddeng-ŵr a thrugain.
35O feibion Saphatias, Zarias mab Machael: a chyd ag ef ddeng-ŵr a thrugain.
36O feibion Ioab, Badias mab Iezelus: a chyd ag ef ddeuddeng-ŵr a dau cant.
37O feibion Banid, Assalimoth mab Iosaphias: a chyd ag ef drugein-ŵr a chant.
38O feibion Babi, Zacharias mab Bebai: a chyd ag ef wyth-wŷr ar hugain,
39O feibion Astath, Iohannes mab Actan: a chyd ag ef ddeng-ŵr a chant.
40O feibion Adonicam y diwethaf: ac dymma eu henwau hwynt, Eliphalet, Ieonel, a Maias, a chyd â hwynt ddeng-ŵr a thrugain: o feibion Bagouthi Iscacourus, a chyd ag ef ddeng-ŵr a thrugain.
41Ac mi ai cesclais hwynt yng-hyd wrth yr afon yr hon a elwir Thia, ac yno y gwerssyllasom dri diwrnod, ac y byddinais i hwynt.
42ond ni chefais yno yr vn o feibion yr offeiriaid na’r Lefiaid.
43Yna mi a anfones at Eleasar, ac wele fe a ddaeth Maasman, ac Alnathan, a Samaian, ac Ioribon, Nathan, Ennatan, Zacharian, a Mosolamon y pennaf, ’ar cyfarwyddaf.
44Ac mi a erchais iddynt fyned at Dadeus y pennaeth, yr hwn oedd yn y dryssorfa:
45Ac mi a orchymynnais iddynt erchi i Dadeus ac iw frodyr, a’r tryssor-wŷr y rhai oeddynt yno, anfon i ni rai i offeiriadu yn nhŷ ein Harglwydd.
46A hwynt a ddugasant i ni drwy law nerthol yr Arglwydd wŷr dyscedic o feibion Moli Lefi fâb Israel Seredia, ai feibion, ai frodyr y rhai oeddynt dri ar bymthec.
47Ac Asebia, ac Amon, ac Osaian ei frodyr ef o feibion Eanaineus, ai meibion hwythau yr oedd vgain-ŵr.
48Ac o wenidogion y Deml y rhai a ordeiniase Dafydd, a’r rhai oeddynt oruchwil-wŷr ar waith y Lefiaid gwenidogion y Deml, vgain, a dau cant, enwau y rhai a osodwyd i fynu mewn scrifen.
49Ac yna mi a gyhoeddais ympryd i’r gwŷr ieuaingc ger bron yr Arglwydd, fel y gellid ceisio ganddo ef daith lwyddiannus i ni, ac i’r rhai oeddynt gyd â ni, i’n plant ac i’n hanifeiliaid.
50Canys mi a arswydais ofyn i’r brenin wŷr traed, na gwŷr meirch i’n tywys ni yn ddiogel yn erbyn ein gelynnion,
51O herwydd nyni a ddywedasem wrth y brenin y bydde nerth ein Harglwydd ni gyd a’r neb ai ceisient ef, iw cyfarwyddo hwynt ym mhob peth.
52Am hynny nyni a weddiasom ar ein Harglwydd eil-waith o herwydd y pethau hyn: ac ni ai cawsom ef yn ras-lawn i ni.
53Yna myfi a ddetholes o blith pennaethiaid y llwythau a’r offeiriaid ddeuddeng-ŵr: Esebrias, ac Assanias, a dêc oi brodyr gyd â hwynt.
54Ac mi a bwysais iddynt hwy yr arian, a’r aur, a’r llestri sanctaidd o dŷ ein Harglwydd, y rhai a roddase y brenin, ai gynghoriaid, ai dywysogion, a holl Israel hefyd.
55Ac mi a bwysais iddynt chwe chant, a dêc a deugain o dalentau arian, a llestri arian o gant talent, a chant talent o aur,
56Ac vgain o gawgiau aur, a deuddec o lestri prês, o brês gloiw yn discleirio fel aur.
57Ac mi a ddywedais wrthynt, yr ydych chwi yn sanctaidd i’r Arglwydd, a’r llestri hefyd ydynt sanctaidd, a’r aur, a’r arian a addunwyd i Arglwydd eich tadau.
58Gwiliwch, a chedwch chwi hyd ynni roddoch chwi hwynt i bennaethiaid y teuluoedd, yr offeiriaid, a’r Lefiaid, a thywysogion teuluoedd Israel yn Ierusalem, o fewn stafelloedd ein Duw ni.
59Felly yr offeiriaid a’r Lefiaid a gymmerasant yr arian, ar aur, a’r llestri, ac ai dugasant hwynt i Ierusalem i Deml yr Arglwydd.
60Ac nyni a ymadawsom oddi wrth afon Thia ar y deuddecfed o’r mîs cyntaf, ac a ddaethom i Ierusalem drwy nerthol law ein Harglwydd yr hon oedd gyd â ni: a’r Arglwydd a’n gwaredodd ni o ddechreu ein taith rhag ein gelynnion fel y daethom ni i Ierusalem.
61Ac wedi myned tri-diau heibio, ar y pedwerydd dydd y rhoddwyd yr arian pwysedic, a’r aur yn nhŷ ein Harglwydd ni i Marimoth yr offeiriad mab Iori,
62A chyd ag ef i Eleazer Phinees: a chyd â hwynt yr oedd Iosabdus Iesus, a Moeth mâb Sabbanus y Lefiaid: y cwbl tann rifedi, a phwys.
63Ai holl bwys hwynt a scrifennwyd yr awr honno.
64Wedi hynny y rhai a ddaethent or’ gaeth-glud a offrymmasant ebyrth i Arglwydd Dduw Israel, deuddec o deirw tros holl Israel, vn ar bymthec a phedwar vgain o hyrddod.
65Deuddec a thrugain o ŵyn, deuddec o eifr am iechydwriaeth, y cwbl yn aberth i’r Arglwydd.
66A hwynt a roddasant orchymyn y brenin i ddistain y brenin, ac i lywawdwŷr Coelosyria a Phenice, y rhai a anhydeddasant y bobl, a Theml Dduw.
67Wedi gwneuthur y pethau hyn y llywawdwŷr a ddaethant attafi gan ddywedyd: pobl Israel, y tywysogion a’r offeiriaid, a’r Lefiaid ni fwriasant ymmaith y bobl ddieithr o’r wlâd.
68Nac aflendid y cenhedloedd, y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Pheresiaid, y Iebusiaid, a’r Moabiaid, yr Aiphtiaid hefyd a’r Edomiaid.
69Canys hwynt a drigasant gyd ai merched hwy, hwynt hwy ai meibion, a’r hâd sanctaidd a gymmyscwyd â phobl ddieithr y wlâd, a’r llywawd-wŷr ar pennaethiaid a fuant gyfrannogion o’r anwiredd ymma er dechreuad y peth.
70A phan glywais y pethau hyn, yna mi a rwygais fy nillad, a’r wisc sanctaidd, ac a dynnais flew fy mhenn, a’m barf, ac a eisteddais i lawr yn drwm, ac yn drîst.
71Yna y rhai oll a’r a oeddynt wedi eu cynhyrfu drwy air Arglwydd Dduw Israel a ddaethāt attafi tra ’r oeddwn i yn ŵylo am yr anwiredd, ond myfi a eisteddais yn drist iawn hyd y prynhawnol aberth.
72Yna myfi a gyfodais o ymprydio, a’m dillad yn rhwygedic, a’r wisc sanctaidd, ac a benlinais i lawr, ac a estynnais nwylo tua ’r Arglwydd,
73Ac a ddywedais, ô Arglwydd gwradwyddus a chywilyddus ydwyf ger dy fron di.
74Canys ein pechodau ni a amlhausant tros ein pennau ni, a’m amryfusedd ni a dderchafwyd i’r nefoedd.
75Ie er amser ein tadau ni, yr ydym ni mewn pechod mawr hyd y dydd hwn.
76Am ein pechodau ni, a’m tadau, nyni a’n brodyr, a’n brēhinoedd, a’n hoffeiriaid a roddwyd i fynu i frenhinoedd y ddaiar, i’r cleddyf, ac i gaethiwed, ac yn sclyfaeth drwy bôb gwarth hyd y dydd hwn.
77Ac yn awr ô Arglwydd morr fawr yw dy drugaredd di, pan adewit i ni wreidin, ac enw yn llê dy sancteiddrwydd,
78A phan dadcuddit ti oleuni i ni yn nhŷ yr Arglwydd ein Duw, a rhoddi i ni fwyd yn amser ein caethiwed:
79Canys pan oeddem ni mewn caethiwed, ni wrthododd ein Duw mo honom ni, eithr efe a’n gwnaeth ni yn gymmeradwy ger bron brenhinoedd Persia, fel y rhoddasant hwy fwyd i ni.
80Ac yr anrhydeddasant Deml ein Harglwydd ni, ac y cyweiriasant anrheithiol leoedd Sion, ac y rhoddasant i ni siccrwydd yn Iuda, ac yn Ierusalem.
81Ac yn awr ô Arglwydd beth a ddywedwn ni sy yn cael y pethau hyn: canys nyni a drosseddasom dy orchymynnion di y rhai a roddaist ti drwy law dy weision y prophwydi gan ddywedyd:
82O herwydd bod y wlâd yr hon yr ydych chwi yn myned iw hetifeddu yn halogedic drwy aflendid dieithriaid y wlad, y rhai ai llanwasant hi ai brynti,
83Am hynny na chyssylltwch chwi merched a’ch meibion chwi, ac na roddwch eich merched chwi iw meibion hwythau,
84Ac na cheisiwch chwi heddychu â hwynt byth, fel i’ch gwneler yn gryfion, ac y caffoch chwi fwyta daioni y wlâd, ai gadel hi i’ch meibion ar eich ôl chwi.
85Am hynny yr hyn oll a’r a ddaeth i benn a wnaed, o blegit ein drwg weithredoedd ni, a’n pechodau mawrion: er hynny ô Arglwydd tydi a yscafnheaist ein pechodau ni,
86Ac a roddaist i ni wreiddin: nyni a droesom yn ein hôl, gan dorri dy gyfraith di, a ymgymmyscasom ag aflendid pobl y wlâd.
87Oni ddylit ti fod yn ddigllon wrthym ni, i’n dinistrio ni, fel na adewit ti i ni, na gwreiddin, na hâd, nac enw:
88[Ond] tydi ô Arglwydd Israel ydwyt eir-wîr: canys gadawyd gwreiddin hyd y dydd hwn.
89Ac yn awr wele ni ger dy fron di yn ein pechodau, ac ni allwn ni sefyll o’th flaen di ganddynt hwy.
90A phan oedd Esdras yn gweddio, ac yn cyffessu, ac yn ŵylo, ac y gorwedd ar y llawr o flaen y Deml, yna tyrfa fawr a ymgasclasant atto ef o Ierusalem, o wŷr a gwragedd, a phlant: canys yr oedd galar mawr ym mysc y dyrfa.
91Yna Iechonias mab Ieheli vn o feibion Israel a waeddodd, ac a ddywedodd: ô Esdras, nyni a bechasom yn erbyn yr Arglwydd Dduwi ni briodi gwragedd dieithr o genhedloedd y wlâd.
92Ac yn awr holl Israel sy yn petrusso: gan hynny tyngwn ni lw i’r Arglwydd ar yrru ymmaith ein holl wragedd ni y rhai ydynt estronesau gyd âi plant.
93Os ty di, a’r holl rai ydynt yn vfyddhau cyfraith yr Arglwydd a wêl yn dda hynny, cyfot i fynu chadarnhâ hynn.
94Canys i ti y perthyn hyn, ac yr ydym ni gyd â thi i’th gryfhau di.
95Yna Esdras a gyfododd ac a wnaeth i holl bennaethiaid teuluoedd yr offeiriaid, a’r Lefiaid a holl Israel dyngu y gwnaent hwy felly: a hwynt a dyngasant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.