1Dymma y barnedigaethau y rhai a osodi ger eu bron hwynt.
2Os prynni wâs o Hebræad, gwasanaethed chwe blynedd: a’r seithfed y caiff yn rhâd fyned ymmaith yn rhydd.
3Os ar ei benn ei hun y daeth, ar ei benn ei hun y caiff fyned allan: os perchen gwraig fydd efe, aed ei wraig allan gyd ag ef.
4Os ei feistr a rydd wraig iddo, a hi yn planta iddo feibion, neu ferched: bydded y wraig ai phlant iw meistr, ac aed efe allan ar ei benn ei hun.
5Ac os gwâs gan ddywedyd a ddywed, hoff gennifi fy meistr, fyng-wraig a’m plant: nid afi allan yn rhydd.
6Yna dyged ei feistr ef at y swyddogion a dyged ef at y ddôr, neu at yr orsyn: a thylled ei feistr ei glust ef a mynawyd, a gwasanaethed ef byth.
7Ac os gwerth gŵr ei ferch yn forwyn gaeth: ni chaiff hi fyned allan fel yr el y gweision allan.
8Os heb ryglyddu bodd yng-olwg ei meistr y bydd fel na chymmero efe hi yn ddyweddi, yna gadawed ei hadbrynnu hi: ni bydd rhydd iddo ei gwerthu hi i bobl ddieithr, wedi iddo ef ei thwyllo hi.
9Ond os iw fab y dyweddia efe hi: gwnaed iddi yn ol deddf y merched.
10Ac os arall a brioda efe: na wnaed yn llai ei hymborth, ei dillad, na’i hiawn.
11Ac os y trî hynn nis gwna efe iddi: yna aed hi allan yn rhad heb arian.
12Rhodder i farwolaeth y Lefit.24.17.neb a darawo wr fel y byddo marw.
13Ond yr hwn ni chynllwynodd onid rhoddi o Dduw achlysur iw law, mi a ossodaf it fann lle y caffo ffoi.
14A phan wnelo vn yn drahaus ai gymydog gan ei ladd ef trwy dwyll: cymmer ef i farwolaeth oddi wrth fy allor.
15Rhodder i farwolaeth yr hwn a darawo ei dad, neu ei fam.
16Rhodder i farwolaeth yr hwn a ledradhao ddŷn, ac ai gwertho, os ceir arno.
17Rhodder i farwolaeth yr hwn a felldithio ei dad neu ei fam.
18A phan ymryssono dynion a tharo o’r naill y llall a charrec, neu a dwrn: ac efe heb farw, onid gorfod iddo orwedd,
19Os cyfyd efe a rhodio allan wrth ei ffonn yna y tarawydd a fydd ddihawl: yn unic rhodded ei golled am ei waith, a chan feddiginiaethu meddiginiaethed ef.
20Ac os teru vn ei wasanaeth-wr, neu ei wasanaeth-ferch, a gwialen fel y byddo farw tann ei law ef: gan ddial dialer arno.
21Ond os erys ddiwrnod neu ddau ddiwrnod, na ddialer arno, canys ei arian ei hun ydoedd efe.
22Ac os ymrafaelia dynion, a tharo o honynt wraig feichiog fel yr el ei beichiogi oddi wrthi, ac heb fod marwolaeth: gan ddirwyo dirwyer ef fel y gosodo perchen y wraig arno, a rhodded trwy farn-wŷr.
23Ac os marwolaeth fydd: rhodder enioes am enioes.
24Llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.
25Llosc am losc, archoll am archoll, a chlais am glais.
26Os teru vn lygad ei wasanaeth-wr, neu ei wasanaeth-ferch fel y llygro ef: gollynged ef yn rhydd am ei lygad.
27Ac os tyrr efe ddant ei wasanaeth-wr, neu ddant ei wasanaeth-ferch: gollynged ef yn rhydd am ei ddant.
28Ac os ŷch a gornia ŵr, neu wraig fel y byddo farw: gan labyddio llabyddier yr ŷch, ac na fwytaer ei gîg ef, ac aed perchen yr ŷch yn rhydd.
29Ond os yr ŷch oedd yn cornio o’r blaen, a yn hyspys iw berchennog, ac efe heb ei gadw, ond lladd o honaw ŵr neu wraig: yr ŷch a labyddir, ai berchennog a roddir i farwolaeth.
30Os iawn a roddir arnaw, rhodded werth am ei enioes, yn ol yr hyn oll a ossodir arno.
31Os mab neu ferch a gornia efe: gwneler iddo yn ol y gyfraith hon.
32Ond os gwasanaeth-wr neu wasanaethferch a gornia’r ŷch: rhodder iw berchennog Genes.23.15.ddec sicl ar hugain o arian, a llabyddier yr ŷch.
33Ac os egyr gŵr bydew, neu os cloddia vn bydew, ac heb gaeu arno: a syrthio yno ŷch neu assyn,
34Perchen y pydew a dâl arian a dâl efe iw berchennog, a’r marw a fydd iddo yntef.
35Ac os ŷch gwr a deru ŷch ei gymydog fel y byddo efe farw: yna gwerthant yr ŷch byw, a rhannant ei werth ef, a’r marw a rannant hefyd.
36Neu os dangoswyd mai ŷch hwylioc ydoedd efe o’r blaen, ai berchennog heb ei gadw ef: gan dalu taled ŷch am ŷch, a bydded y marw eiddo ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.