1Yn y bummed flwyddyn ar hugain o’n caeth-gludiad ni, yn nechreu y flwyddyn, ar y decfed o’r mîs, yn y bedwaredd flwyddyn ar ddêc wedi taro y ddinas: o fewn corph y dydd hwnnw y daeth llaw’r Arglwydd arnaf, ac efe a’m dûg fi yno.
2Yng-weledigaethau Duw y dûg efe fi i dir Israel, ac efe a’m gosodod ar fynydd vchel iawn, ac arno o’r tu dehau megis adailadaeth dinas.
3A phan ddûg efe fi yno, wele ŵr ai welediad fel gwelediad prês, ac yn ei law linin llîn, a chorsen fessur, ac yr ydoedd efe yn sefyll o fewn y porth.
4A dywedodd y gŵr wrthif, ha fab dŷn gwel a’th lygaid, gwrando hefyd a’th glustiau, a gosot dy feddwl ar yr hyn oll a ddangoswyf it: o herwydd er mwyn dangosi ti i’th ddugwyd ymma: dangos dithe i dŷ Israel yr hyn oll a weli di.
5Ac wele fûr o’r tu allan i’r ty o amgylch ogylch, a chorsen fessur yn llaw’r gŵr yn chwe chufydd, o gufydd a dyrnfedd ac efe a fesurodd lêd yr adailadaeth ag vn gorsen, a’r vchter â chorsen arall.
6Ac efe a ddaeth i’r porth yr hwn ai wyneb tu a’r dwyrain, ac a ddringodd ar hyd ei rissiau ef, ac efe a fesurodd orsing y porth yn vn gorsen o lêd, a’r gorsing arall yn gorsen arall o lêd.
7Stafell hefyd vn gorsen o hyd, a chorsen arall o lêd, a phump cufydd rhwng y stafelloedd: a gorsing y porth wrth gyntedd y porth o’r tu mewn vn gorsen.
8Efe a fesurodd hefyd gyntedd y porth oddi fewn yn vn gorsen.
9Ac a fesurodd gyntedd y porth yn wrth gufydd, ai ractaloedd yn ddau gufydd, sef cyntedd y porth oddi fewn.
10Stafelloedd hefyd y porth tu a’r dwyrain dair o’r tu ymma, a thair o’r tu accw, vn fessur iddynt ill tair, vn fessur i’r rhactaloedd o’r ddeu-tu.
11Ac efe a fesurodd lêd drŵs y porth yn ddêc cufydd, vchter y porth yn dri chufydd ar ddêc.
12A’r terfyn o flaen y stafelloedd vu cufydd, a’r terfyn o’r tu arall yn vn cufydd, stafell hefyd chwe chufydd o bob tu.
13Ac efe a fesurodd y porth o nenn y stafell hyd ei nenn yntef, yn bum cufydd ar hugain o lêd ddrws yn ddrws.
14Ac efe a wnaeth y rhactaloedd yn dri vgain cufydd, a hyd ractal cyntedd y porth oddi amgylch.
15Ac o wyneb porth y dyfodiad i mewn hyd du wyneb cyntedd y porth oddi mewn dec cufydd a deugain.
16A ffenestri caeedic yn y stafelloedd, ac yn eu rhactaloedd, o fewn y porth o amgylch ogylch, ac felly yn y bwâu meini, a’r ffenestri o amgylch ogylch o fewn, ac palm-wŷdd ar rhactal.
17Ac efe am dug i i’r cyntedd nesaf allan, ac wele stafelloedd, a phalmant wedi ei wneuthur o amgylch ogylch i’r cyntedd: dêc stafell ar hugain ar y palmant.
18A’r palmant gan ystlys y pyrth ar gyfer hŷd y pyrth: a’r palmant oddi tanodd.
19Ac efe a fesurodd y llêd o du wyneb y porth issaf hyd du wyneb y cyntedd oddi fewn, yn gant cufydd oddi allan, tua dwyrain a gogledd.
20A’r porth yr hwn ai wyneb tua’r gogledd, ar y cyntedd nesaf allan a fesurodd efe ei hyd, ai lêd.
21Ei stafelloedd ef dair o bobtu, ac yr ydoedd ei ractaloedd, ai fwâu meini wrth fessur y porth cyntaf yn ddêc cufydd a deugain ei hyd, a’r llêd yn bump cufydd ar hugain.
22Eu ffenestri hefyd ai bwâu meini, ai palm-wŷdd wrth fessur y porth yr hwn ai wyneb tua’r dwyrain: ar hyd saith o rissiau hefyd y dringent iddo: ai fwâu meini oi blaen hwynt.
23A phorth y cyntedd nesaf i mewn ar gyfer porth y gogledd, a’r dwyrain: ac efe a fesurodd o borth i borth gant cufydd.
24Ac efe a’m dûg i tua’r deau, ac wele borth tua’r deau, ac efe a fesurodd ei ractaloedd, ai fwâu meini wrth y messurau hyn.
25Ffenestri hefyd iddo, ac iw fwâu meini o amgylch ogylch fel y ffenestri hyn yn ddêc cufydd a deugain o hyd, ac yn bump cufydd ar hugain o lêd.
26Saith o rissiau hefyd ei ddringfa ef, ai fwâu meini oi blaen hwynt: hefyd iddo balm-wŷdd vn o bob tu ar ei ractaloedd?
27Ac porth ar y cyntedd nessaf i mewn tua’r deau, ac efe a fesurodd o borth i borth tua’r deau gant cufydd.
28Ac efe a’m dug i’r cyntedd nessaf i mewn trwy borth y deau, ac a fesurodd borth y deau wrth y messurau hyn.
29Ie ei stafelloedd, ai ractaloedd, ai fwâu meini wrth y messurau hyn: yr oedd hefyd ffenestri arno, ac ar ei fwâu meini o amgylch ogylch, dêc cufydd a deugain yr hyd, a phum cufydd ar hugain y llêd.
30A’r bwâu meini o amgylch ogylch yn bump cufydd ar hugain o hyd, ac yn bump cufydd o lêd.
31Ai fwâu meini tua’r cyntedd nessaf allan, a phalm-wydd ar ei ractaloedd, ac ŵyth o rissiau ei ddringfa ef.
32Ac efe a’m dûg i i’r cyntedd nesaf i mewn tua’r dwyrain, ac a fesurodd y porth wrth y messurau hyn:
33Sef ei stafelloedd ai ractaloedd, ai fwau meini wrth y messurau hyn: hefyd ffenestri iddo ef, ac iw fwau meini o amgylch ogylch: yr hŷd ddêc cufydd a deugain, a’r lled yn bump cufydd ar hugain.
34Ai fwau meini tua’r cyntedd nesaf allan, a phalm-wydd ar ei ractaloedd o bob tu, ai ddringfa wyth o rissiau.
35Ac efe am dûg fi i borth y gogloedd, ac ai mesurodd wrth y messurau hyn,
36Ei stafelloedd, ei ractaloedd, ei fwâu meini: ac ffenestri iddo o amgylch ogylch, yr hŷd ddêc cufydd a deugain, a’r llêd bump cufydd ar hugain.
37Ai ractaloedd tua’r porth nesaf allan, a phalm-wŷdd ar ei ractaloedd o bob tu, ai ddringfa wyth o rissiau.
38Ac celloedd a drysau o fewn rhactaloedd y pyrth, yno y golchent y poeth offrwm.
39Ac yng-hyntedd y porth dau fwrdd o’r tu ymma, a dau fwrdd o’r tu accw, i ladd y poeth offrwm, a’r pech-aberth, a’r aberth tros gamwedd arnynt.
40Ac ar yr ystlys oddi allan lle y dringir i ddrws porth y gogledd dau fwrdd, a dau fwrdd ar yr ystlys arall yr hwn wrth gyntedd y porth.
41Pedwar bwrdd o’r tu ymma, a phedwar bwrdd o’r tu accw ar ystlys y porth: ar yr wyth bwrdd hyn y laddent
42A phedwar bwrdd y poeth offrwm o gerric nadd, yn vn cufydd a hanner o hyd, ac yn vn cufydd a hanner o lêd, ac yn vn cufydd o vchter: arnynt hwy hefyd y gosodent yr offer, y rhai y lladdent yr offrwm poeth, a’r aberth â hwynt.
43Hefyd bachau o vn ddyrnfedd wedi eu paratoi o fewn o amgylch ogylch, a chig yr offrwm ar y byrddau.
44Ac o’r tu allan i’r porth nesaf i mewn stafelloedd y cantorion o fewn y cyntedd nesaf i mewn, yr hwn ar ystlys porth y gogledd, ai hwynebau tua’r deau: vn ar ystlys porth y dwyrain tua ffordd y gogledd.
45Ac efe a ddywedodd wrthif, yr stafell hon yr hon ai hwyneb tua’r deau i’r offeiriaid y rhai a oruchwyliant y Deml.
46A’r stafell yr hon ai hwyneb tua’r gogledd eiddo yr offeiriaid y rhai a orchwyliant yr allor: y rhai hynny feibion Zadoc, y rhai ydynt o feibion Lefi yn nessau at yr Arglwydd i weini iddo ef.
47Ac efe a fesurodd y cyntedd yn scwâr, sef yn gant cufydd o hŷd, ac yn gant cufydd o lêd, a’r allor o flaen y Deml.
48Ac efe a’m dûg fi i borth y Deml, ac a fesurodd ractal y porth yn bump cufydd o’r naill du, ac yn bump cufydd o’r tu arall, a llêd y porth dri chufydd o’r naill du, a thri chufydd o’r tu arall.
49Y cyntedd oedd vgain cufydd o hŷd, ac vn cufydd ar ddêc o lêd, a grissiau ar hyd y rhai y dringent iddo: hefyd colofnau wrth y rhactaloedd, vn o’r naill du, ac vn o’r tu arall.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.