1Od oes gan hynny ddim diddanwch yng-Hrist, od oes cyssur cariad, od dim cymdeithas a’r Yspryd, od dim tosturi a thrugaredd,
2Cyflawnwch fy llawenydd, ar i chwi fôd yn vn fryd, a chennych yr vn rhyw gariad, ac yn vn galon, ac yn meddwl yr vn peth.
3Fel na wneler dim drwy gynneu, neu wâg ogoniant, eithr yng-ostyngeiddrwydd gan Bydded yr vn meddwl ynoch ag oedd yng-Hrist Iesu.
6Yr hwn pan oedd yn ffurf Duw ni thybiodd drais fôd yn ogyfiuwch â Duw:
7Eithr efe a’r Math.20.28.diddymmodd ei hun, gan gymmeryd arno agwedd gwâs, a’i wneuthur yn gyffelyb i ddynion.
8 Heb.2.9. Efe a ymostyngodd yn vfydd i angeu sef angeu y groes.
9O herwydd pa ham Duw a’i tra-derchafodd yntef, ac a roddes iddo enw, vwch pen pôb enw.
10 Esai 45.33.(sic.)|ISA 45:23. Rufei.14.11. Fel y bydde yn enw yr Iesu i bôb glin blygu, i’r nefolion â daiarolion, a’r pethau tan y ddaiar.
11 Ioan.13.13. 1.Cor.8.6. Ac i bob tafod gyffesu mai Iesu Grist yw’r Arglwydd, er gogoniant Duw Tâd.
12Am hynny fy annwylyd, megis pôb amser yr vfyddhaesoch, nid megis yn fyng-ŵydd yn vnic, eithr yr awr hon yn fwy o lawer yn fy absen, felly gorphennwch eich iechydwriaeth eich hunain drwy ofn a dychryn.
13Canys Duw yw’r hwn sydd yn gweithio ynoch, ewyllysio a gweithredu o’i ewyllys da.
14Gwnewch bôb dim yn 1.Pet.4.9.ddifurmur, ac heb ymddadle:
15 Math.5.16. 1.Pet.4.9. Fel y byddoch yn ddiargyoedd, ac yn bur, ac yn ddifeius feibion i Dduw ym mysc cenhedlaeth ddrygionus drofaus, ym mhlith y rhai yr ydych yn disclaerio megis goleuadau yn y byd.
16Yn cynnal gair y bywyd, er gorfoledd i mi yn-nydd Crist, na redais i yn ofer, ac na chymmerais boen yn ofer.
17Ie pe i’m offrymmid ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawen yw gennif, a chydlawen a chwi ôll ydwyfi.
18O blegit hyn hefyd byddwch chwithau lawen, a chyd-lawenhewch â minne.
19Ac yr ydwyf yn gobeitho yn yr Arglwydd Iesu y danfonaf Act.16.1.Timotheus ar fyrder attoch, megis i’m cyssurer inne hefyd wrth ŵybod oddi wrthych.
20Canys nid oes i mi nêb o gyffelyb feddwl, yr hwn a wir ofala am eich cyflwr chwi.
21Canys 1.Cor.10.24.pawb sydd yn ceisio yr eiddynt eu hunain, ac nid yr hyn sydd eiddo Crist Iesu.
22Eithr chwi a adwaenoch y profiad sydd am dano ef, canys fel mâb gyd a thâd y gwasanaethodd efe gyd â myfi yn yr Efengyl.
23Hwn gan hynny yr ydwyf yn gobeithio ei ddanfon cyn gynted ag y gwelwyf yr hyn fydd i mi.
24Ac yr ydwyf yn gobeithio yn yr Arglwydd y deuaf fi fy hun hefyd ar fyrder.
25Eithr tybiais fôd yn anghenrheidiol ddanfon Epaphroditus fy-mrawd, fyng-hyd weithwr am cydfilwr, sef eich Apostol chwi, a’r hwn fu yn fyng-wasanaethu o gyfryw bethau, ag oedd arnafi eisieu.
26Canys yr oedd arno hiraeth am danoch chwi oll, ac athrist iawn ydoedd am i chwi glywed ei fôd ef yn glaf.
27A diau ei fôd ef yn glaf, ym-mron marw, ond bôd i Dduw drugarhau wrtho, ac nid wrtho ef yn vnic, ond wrthifi hefyd, rhag i mi gael tristit ar dristit.
28Mi a’i danfonais ef gan hynny yn ddiescaelusach, fel pan welech ef drachefn y llawenhaech, ac y byddwn yn ddi-dristach.
29Derbynniswch ef gan hynny yn yr Arglwydd â phob llawenydd, a mawrhewch y cyfryw
30Canys er mwyn gwaith Crist y bu efe yn agos i angeu, ac ni ddarbododd am ei enioes, i gwplau deffig eich gwasanaeth i mi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.