1Yna wedi pedair blynedd ar ddêc, yr aethym i fynu eil-waith i Ierusalem, gyd â Barnabas, gan gymmeryd Titus hefyd.
2A thrwy weledigaeth yr euthym i fynu, ac mi a eglurais iddynt yr Efengyl yr hon yr wyf yn ei phregethu ym mhlith y cenhedloedd: * ond yn ddirgel i’r rhai cymmeradwy, rhag mewn vn modd y rhedwn neu y rhedaswn yn ofer.
3Eithr Titus yr hwn oedd gyd â mi, er ei fod yn Roeg-wr, ni yrrwyd iw enwaedu:
4A ô herwydd y gau frodyr, y rhai a ymsangasent i mewn, y rhai a ddaethent i spio ein rhydd-did ni, yr hon sydd gennym yng-Hrist Iesu, fel ein harweinient i gaethiwed:
5I ba rai nid ymroesom trwy ddarostyngiad awr, fel yr arhoe gwirionedd yr Efengyl gyd â chwi:
6A chan y rhai a dybid eu bod yn rhyw beth (beth bynnag oeddynt nid gwaeth gennif, Deut.10.17.|DEU 10:17. 2.Chron.19.7.|2CH 19:7. Iob.34.19. Doeth.6.8. Act.10.34.|ACT 10:34. Ruf.2.11.|ROM 2:11. Ephes.6.9.|EPH 6:9. Colos.3.25.|COL 3:25. 1.Pet.1.17.nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn) canys y rhai a’u gwelent ni chwanegasant ddim i mi.
7Eithr yng-wrthwyneb, pan welsant ymddyried i mi am Efengyl y dienwaediad, megis yr enwaediad i Petr:
8(Canys yr hwn oedd rymmus trwy Petr yn apstoliaeth yr enwaediad, oedd rymmus hefyd drwof fi yng-hyfer y cenhedloedd)
9A phan ŵybu Iaco, a Chephas, ac Ioan y grâs a roddwyd i mi, y rhai yr ydys yn eu cymmeryd yn golofnau, hwy a roesant i mi, ac i Barnabas ddehau ddwylo cymdeithas, i o honom ni i’r cenhedloedd, a hwythau i’r enwaediad:
10 Act.11.30. 2.Cor.9.3. Ac i ni feddwl am y tlodion yn vnic, yr hyn yr ymroddais iw wneuthur.
11A phan ddaeth Petr i Antiochia, mi a’i gwrthwynebais yn ei wyneb, am ei fod iw feio.
12O blegit cyn dyfod rhai oddi wrth Iaco, efe a fwytâodd gyd â’r cenhedloedd, ond wedi iddynt ddyfod, efe a giliodd, ac a ymneillduodd oddi wrthynt, gan ofni y rhai oeddynt o’r enwaediad.
13A’r Iddewon eraill a gyd-ragrithiasant ag ef, hyd oni hudwyd Barnabas iw lledrith hwy hefyd.
14Eithr pan welais nad oeddynt hwy yn troedio yn iniawn at wirionedd yr Efengyl, mi a ddywedais wrth Petr yn eu gŵyd oll, os tydi, a thi yn Iddew wyt yn byw fel y cenhedloedd, ac nid fel yr Iddewon, pa ham yr wyt yn peri i’r cenhedloedd fyw yn Iddewaidd?
15Ny-ni yn Iddewon o naturiaeth, ac nid yn bechaduriaid o’r cenhedloedd, yn gŵybod na chyflawnheuir dŷn trwy weithredoedd y ddeddf, ond drwy ffydd yn Iesu Grist:
16Ie, nyni a gredasom yn Iesu Grist, fel i’n cyfiawnid trwy ffydd Grist, ac nid trwy weithreddedd y ddeddf, o blegit na chyfiawnheuir vn cnawd trwy weithredoedd y ddeddf.
17 Ruf.3.19.|ROM 3:19. Phil.3.9. Ac os wrth geisio ein cyfiawnhau trwy Grist ein cair ni yn bechaduriaid, a ydyw Crist am hynny yn weinidog pechod? nac ydyw.
18Canys os adailadaf eil-waith y pethau a ddestruwiais, yr wyf yn fyng-wneuthur fy hun yn drosedd-wr.
19O herwydd myfi trwy y ddeddf, wyf farw i’r ddeddf, i fyw o honof i Dduw.
20Mi a groes-hoeliwyd gyd â Christ: etto byw ydwyf, ac nid myfi haiach, ond Crist sydd fyw ynofi, a’r bywyd yr hwn yr wyf yn byw yr awr hon yn y cnawd, yr wyf yn fyw trwy ffydd ym Mab Duw, yr hwn a’m carodd, ac a’i doddes ei hun drosofi.
21Ni ddirymmaf râs Duw: canys os trwy y ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Crist farw yn ofer.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.