1Yn nechreu teyrnasiad Iehoacim fab Iosia brenin Iuda y daeth y gair hwn at Ieremi oddi wrth yr Arglwydd gan ddywedyd:
2Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthif: gwna i ti rwymau, a gefynnau, a dot hwynt am dy wddf.
3Ac anfon di hwynt at frenin Edom, ac at frenin Moab, ac at frenin meibion Ammon, ac at frenin Tyrus, ac at frenin Sidon yn llaw y cennadau a ddelont i Ierusalem at Sedecia frenin Iuda.
4A dot orchymyn gyd â hwynt at eu harglwyddi gan ddywedyd,: fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd Duw Israel, fel hyn y dywedwch wrth eich arglwyddi:
5Myfi a wneuthum y ddaiar, a’r dŷnnion, a’r anifeiliaid y rhai ar wyneb y ddaiar â grym mawr, ac â braich estynnedic, ac ai rhoddais hwynt i’r neb y gwelais yn dda.
6Ac yn awr mi a roddais yr holl diroedd hyn yn llaw Nabuchodonosor brenin Babilon fyng-wâs: rhoddaf hefyd anifeiliaid y maes iw wasanaethu ef.
7A’r holl genhedlaethau ai gwasanaethant ef, ai fab, a mab ei fab: nes dyfod amser ei wlâd ef, ai yntef, yna cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a wnant iddo ef eu gwasanaethu.
8Ond y genhedlaeth a’r deyrnas yr hon ni’s gwasanaetho ef sef Nabuchodonosor brenin Babilon, sef y rhai ni roddant eu gwddf tann iau brenin Babilon: â haint yr ymwelaf a’r genhedlaeth honno medd yr Arglwydd, nes i mi eu difetha hwynt trwy ei law ef.
9Am hynny na wrandewch chwi ar eich prophwydi, nac ar eich dewiniaid, nac ar eich astronomiwŷr, nac ar eich hudolion y rhai ydynt yn llefaru wrthych, gan ddywedyd: nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon:
10Canys celwydd y mae y rhai hyn yn ei brophwydo i chwi, i’ch gyrru chwi ym mhell o’ch gwlâd fel y bwriwyf chwi ymmaith, ac y methoch,
11Ond y genhedlaeth yr hon a roddo ei gwddf dann iau brenin Babilon, ac ai gwasanaetho ef, y rhai hynny a adawafi yn eu gwlâd eu hun medd yr Arglwydd, a hwynt ai coleddant hi, ac a arhosant ynddi.
12Ac mi a leferais wrth Sedecia frenin Iuda yr holl eiriau hyn gan ddywedyd: rhoddwch eich gwarrau dan iau brenin Babilon, a gwasanaethwch ef, ai bobl fel y byddoch byw.
13Pa ham y byddwch feirw, ti a’th bobl trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint? fel y dywedodd yr Arglwydd am y genhedlaeth yr hon ni wasanaethe frenin Babilon?
14Am hynny na wrandewch ar eiriau y prophwydi y rhai a lefarant wrthych, gan ddywedyd, nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon: canys y maent yn prophwydo celwydd i chwi.
15O herwydd nid myfi ai hanfonodd hwynt Ierem.14.14.|JER 14:14. ierem.23.21.|JER 23:21. ierem.29.9.medd yr Arglwydd, er hynny hwy a brophwydant yn fy enw ar gelwydd, i beri i mi eich bwrw chwi ymmaith fel y darfydde am danoch chwi, a’r prophwydi y rhai ydynt yn prophwydo i chwi.
16Myfi a leferais hefyd wrth yr offeiriaid, a’r holl bobl hynn gan ddywedyd: fel hynn y dywed yr Arglwydd, na wrandewch ar eiriau y prophwydi, y rhai ydynt yn prophwydo i chwi gan ddywedyd: wele llestri tŷ yr Arglwydd a ddygir yn eu hôl bellach ar frŷs, canys celwydd y maent yn ei brophwydo i chwi.
17Na wrandewch arnynt, gwasanaethwch chwi frenin Babilon, fel y byddoch byw: pa ham y bydd y ddinas hon yn ddiffaethwch?
18Ond os prophwydi ydynt hwy, ac od ydyw gair yr Arglwydd gyd â hwynt, Gene.20.6.eiriolant yr awr hon ar Arglwydd y lluoedd, nad elo y llestri y rhai a adawyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhŷ brenin Iuda, ac yn Ierusalem i Babilon.
19Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, am y 2. bren.25.13.colofnau, ac am y gerwyn, ac am yr stolion, ac am y rhann arall o’r llestri y rhai a adawyd yn y ddinas hon,
20Y rhai ni ddug brenin Babilon ymmaith 2. bren.24.12.pan gaeth-gludodd efe Iechonias fab Iehoacim frenin Iuda o Ierusalem i Babilon, yng-hyd â holl bendefigion Iuda, ac Ierusalem,
21Canys fel hynn y dywedodd Arglwydd y lluoedd Duw Israel am y llestri y rhai a adawyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhŷ brenin Iuda ac Ierusalem:
22Hwynt a ddygir i Babilon, ac yno y byddant hyd y dydd yr ymwelwyf â hwynt medd yr Arglwydd: yna y dygaf fi hwynt i fynu, ac y dychwelaf hwynt i’r lle hwn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.