1Fy mhlant bychain y pethau hyn yr wyf yn eu scrifennu attoch, fel na phechoch: ac o phecha neb y mae i ni eiriolwr gyd a’r Tâd, Iesu Grist y cyfiawn.
2Ac efe yw’r iawn tros ein pechodau: ac nid tros yr eiddom ni yn vnic, eithr tros bechodau yr holl fyd.
3Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef, os cadwn ni ei orchymynnion ef.
4Yr hwn a ddywed, mi ai hadwen ef, ac ni cheidw ei orchymynnion, celwyddog yw, a’r gwirionedd nid yw ynddo.
5Eithr yr hwn a geidw ei air ef, yn wîr yn hwnnw y mae cariad Duw yn berffaith: wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo ef.
6Yr hwn a ddywed ei fod yn aros ynddo ef, a ddŷle felly rodio megis y rhodiodd yntef.
7Frodyr nid wyf yn scrifennu gorchymyn newydd attoch, eithr gorchymyn hên yr hwn a fu i chwi o’r dechreuad: yr hên orchymyn yw’r gair, yr hwn a glywsoch o’r dechreuad.
8Trachefn gorchymyn newydd yr wyf yn ei scrifennu attoch, yr hwn sydd wir ynddo ef, ac ynoch chwithau canys y tywyllwch a aeth heibio, a’r gwir oleuni sydd yr awr hon yn tywynnu.
9Yr hwn a ddywed ei fôd yn y goleuni, ac yn casau ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hyn.
10 Pen.3.14. Yr hwn a gâr ei frawd sydd yn aros yn 546 y goleuni, ac nid oes rhwystr ynddo.
11Eithr hwn a gasâo ei frawd, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae yn rhodio, ac ni ŵyr i ba le y mae yn myned, am ddarfod i’r tywyllwch ddallu ei lygaid.
12Ha blant bychain, yr wyf yn scrifennu attoch o blegit maddeu i chwi eich pechodau er mwyn ei enw ef.
13Scrifennu yr wyf attoch dadau, am i chwi adnabod yr hwn sydd o’r dechreuad, scrifennu yr wyf atoch chwi wŷr ieuaingc, am ddarfod i chwi orchfygu y drwg.
14Scrifennu yr wyf attoch chwi y rhai bychain am i chwi adnabod y Tad, scrifennais attoch chwi dadau, gan i chwi adnabod yr hwn sydd o’r dechreuad: scrifennais attoch chwi wŷr ieuaingc am eich bod yn gedyrn, a bod gair Duw yn aros ynoch, a gorchfygu o honoch y drwg.
15Na cherwch y byd na’r pethau sy yn y byd, o châr neb y byd, nid yw cariad y Tad ynddo ef.
16Canys beth bynuag sydd yn y byd chwant y cnawd, a chwant y llygaid, a balchder y bywyd, nid yw o’r Tâd, eithr o’r byd y mae.
17A’r byd a’i chwant sydd yn myned heibio, a’r hwn a wna ewyllys Duw a erys yn dragywydd.
18Ha blant bychain yr amser diweddaf ydyw, a megis y clywsoch y deue anghrist, felly yr awr hon y mae anghristiau lawer: wrth yr hyn y gŵyddom mai’r amser diweddaf ydyw.
19Oddi wrthym ni yr aethant hwy allan, eithr nid oeddent o honom ni: canys pe buasent o honom ni, arhosasent gyd â ni, eithr fel yr eglurid nad ydynt oll o honom ni.
20Eithr y mae i chwi ennaint oddi wrth yr hwn sanctaidd, a a ŵyddoch bob peth.
21Nid scrifennais attoch, o blegit na ŵyddoch y gwirionedd: eithr am i chwi ei wybod, ac am nad oes dim celwydd o’r gwirionedd.
22Pwy yw’r celwyddog, onid yr hwn a wâdo, mai Iesu yw’r Crist? hwn yw’r anghrist y rhwn a wâd y Tad a’r Mab.
23Pwy bynnac a wâdo y Mab, nid yw y Tad gan hwnnw ychwaith.
24Arhosed gan hynny ynoch chwi yr hyn a glywsoch o’r dechreuad: od erys ynoch yr hyn a glywsoch o’r dechreuad, chwithau hefyd a arhoswch yn y Mab, ac yn y Tad.
25A hwn yw’r addewid, a addawedd efe i ni, bywyd tragywyddol.
26Y pethau hyn a scrifennais attoch o herwydd y rhai sy i’ch twyllo.
27Eithr yr ennaint a dderbyniasoch ganddo ef sydd yn aros ynoch, ac nid rhaid i chwi fod neb i’ch dyscu, ond fel eich dysco yr ennaint hwnnw am bob peth: ac y mae yn gywir, ac nid yw yn gelwyddog, ac megis eich dyscodd yr arhoswch ynddo.
28Ac yr awr hon blant bychain arhoswch ynddo, fel pan ymddangoso efe, y byddo hyder genym, ac na chywilyddiom ger ei fron ef, yn ei ddyfodiad.
29Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn, gwybyddwch mai pwy bynnag a wna gyfiawnder a aned o honaw ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.