1Na thaw di ô Dduw fy moliant.
2Canys genau’r annuwiol, a genau y twyllodrus a ymagorâsant arnaf: â thafod gau y llefarasant i’m herbyn.
3Cylchynasant fi hefyd â geiriau câs, ac ymladdasant â mi heb achos.
4Am fyng-hariadigrwydd i’m gwrthwynebasant: minne weddi.
5Gosodasant hefyd i’m herbyn ddrwg a’m dda: a châs am fyng-hariad.
6Gosot annuwiol arno ef, a safed Satan wrth ei ddeheu-law ef.
7Pan farner ef, eled yn euoc, a bydded ei weddi yn bechod.
8Ychydig fyddo ei ddyddiau: chymmered arall ei escobaeth ef.
9Bydded ei blant yn amddifaid: ai wraig yn weddw.
10Gan gyrwydro hefyd cyrwydred ei blant ef, a chardottant: ceisiant hefyd oi hang-hyfannedd leoedd.
11Rhwyded y ceisiad yr hyn oll ganddo: ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef.
12Na fydded a estynno drugaredd iddo: ac na fydded a drugarhâo wrth ei amddifaid ef.
13Bydded ei hiliogaeth ef yn ddinistr, delêer ei enw yn yr oes nessaf.
14Coffaer anwiredd ei dadau o flaen yr Arglwydd: ac na ddelêer pechod ei fam ef.
15Byddant bob amser ger bron yr Arglwydd: a thorred efe ddydd eu coffadwriaeth o’r tîr.
16Am na chofiodd wneuthur trugaredd, eithr erlyd o honaw y truan a’r tlawd, a’r cystuddiedic o galon iw ladd.
17Hoffodd felldith, a hi a ddaeth iddo ef: ni fynne fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho ef.
18Ie gwiscodd felldith fel dilledyn, a hi a ddaeth fel dwfr iw fewn, ac fel olew iw escyrn.
19Bydded iddo fel dilledyn wisco efe, ac fel gwregys a wregyso efe yn oestadol.
20Hyn tâl fyng-wrthwyneb-wŷr gan yr Arglwydd: a’r rhai a ddywedant niwed yn erbyn fy enaid.
21Tithe Arglwydd Dduw gwna â mi yn ôl dy enw, am fod yn dda dy drûgaredd, gwaret fi.
22Canys truan a thlawd a’m calon a archollwyd o’m mewn.
23Euthum fel cyscod pan gilio, fel celiog rhedyn i’m hescydwyd.
24Fyng-liniau a aethant yn egwan gan ympryd, a’m cnawd a guriodd o eisieu brasder.
25Gwarthrudd hefyd oeddwn iddynt: welent fi siglent eu pennau.
26Cynorthwya fi ô Arglwydd fy Nuw, achub fi yn ôl dy drugaredd.
27Fel y gwypant mai dy waith di hyn: ti Arglwydd ai gwnaethost.
28Melldithiant hwy, tithe a fendithi, cywilyddier y rhai a gyfodant a llawenycher dy wâs.
29Gwiscer fyng-wrthwyneb-wŷr â gwarth, ac ymwiscant yn eu cywilydd megis â chochl.
30Clodforaf yr Arglwydd yn ddirfawr a’m genau: a moliannaf ef ym mysc llawer.
31O herwydd efe a saif ar ddeheu-law’r tlawd: iw achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
