1Y Diog sydd gyffelyb i garrec fydr, a phawb a chwibana er ammarch iddo ef.
2I fiswail tommennau y cyffelybir y diog, pob vn ai cymmero i fynu a escwyd ei law.
3Gwradwydd y tâd sydd yng-anedigaeth ni chymmer addysc: a merch sydd mewn ammarch.
4Merch gall fydd etifedd ei gŵr, a’r wradwyddus yn dristwch iw thâd.
5Yr hyf a wradwydda dâd a gŵr, ac a amherchir gan y ddau.
6[Megis] cerdd mewn tristwch yw ymadrodd allan o amser: ac mewn pryd ffrewyllau, ac addysc doethineb.
7Plant yn cael cynhaliaeth mewn buchedd dda ydynt yn cuddio difonedd eu rhieni, a phlant yn ymffrostio mewn dirwyg ac anoethineb ydynt yn halogi bonedd eu carennydd.
8[Megis] assio llestr pridd y mae yr hwn sydd yn dyscu y ffol, a chodi y mae efe y chai a ydynt yn cyscu o ddyfnder cwsc:
9Mynegu i vn yn cyscu y mae yr hwn sydd yn mynegu ivn ffôl: a phan ddarffo, efe a addywed: beth yw
10Wyla am y marw canys y mae diffig goleuni, ac wyla am y ffôl, canys y mae diffig synnŵyr.
11 Pen.38.16. Wyla yn felusach am y marw am iddo ef orphywys: canys na marwolaeth yw bywyd y ffôl.
12Saith niwrnod o alar am y marw, ac am y ffôl holl ddyddiau ei enioes ef.
13Na amlha eiriau gyd a’r angall, ac Pen.12.12.na thyret at yr annoeth, o herwydd efe o eisieu deall a ddiystyra bob dim.
14Ymgadw oddi wrtho ef rhag cael blinder, ac na’th haloger di gan ei frynti ef.
15Cilia oddi wrtho ef, a thi a gei orphywysdra, ac na ddifrawa yn ei ynfydrwydd ef.
16Beth sydd drymmach na phlwm: a pha enw sydd iddo ef ond plwm:
17 Pen.27.3. Haws yw dwyn tywod, a halen, a darn o haiarn na dŷn ansynhwyrol.
18Cysswlt coed wedi ei rwymo yn adailadaeth ni ddettyd er ei escwyt: felly calon wedi ei siccrhau trwy feddylfryd cyngor nid arswyda bob amser gan ofn.
19Calon wedi ei chadarnhau â ddeall synhwyrol sydd fel gwchter o dywod ar bared llyfn.
20Ni pheru cloddiau wedi eu gosod yn vchel yn erbyn y gwynt.
21Felly calon ofnus gyd â meddwl vn ffôl ni pheru yn erbyn pob ofn.
22Yr hwn a bigo lygad a ddwg ddagrau allan, a’r hwn a bigo galon a ddwg allan ddioddefaint.
23Yr hwn a deifl garreg at adar ai tarfa hwynt, a’r hwn sydd yn gwradwyddo ei gyfaill sydd yn dattod cefeillach.
24Pe tynnit gleddyf ar gyfaill na anobeitha: o herwydd y mae cymmod.
25Pe agorit dy safn yn erbyn gyfaill, nag ofna: oblegit y mae iawn: ond am wradwydd, a balchder, a dadcuddiad cyfrinach, a dyrnod trwy dwyll: am y pethau hyn y ffŷ pob cyfaill ymmaith.
26Cadw ffyddlondeb a’th gymydog yn dlodi, fel y gallech lawenychu yn ei wynfyd ef.
27Aros wrtho ef yn amser cystudd, fel y byddech gyd etifedd yn ei etifeddiaeth ef: nid yw tlodi bob amser iw diystyru, na’r cyfoethog angall iw fawr berchi.
28O flaen tân y mae tarth ffumer a mwg: felly y mae difenwi o flaen celanedd.
29Nid cywilydd fydd gēnif amddeffin fynghyfaill, ac nid ymguddiaf rhagddo ef.
30Os digwydd i mi ddrwg oiblegit ef, pob vn a glywo a ochel rhagddo ef.
31Pwy a rydd i mi gadwriaeth ar fyng-enau, a sêl gyfrwys ar fyng-wefusau: fel na syrthiwn yn ddisymmwth oddi wrthi hi, ac na’m difethe fy nhafod fi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.