1Pan Deut.12.29.dorro’r Arglwydd dy Dduw y cenhedloedd ymmaith y rhai y mae’r Arglwydd dy Dduw yn rhoddi eu tir i ti: ai gorescyn o honot ti, a phresswylio yn eu dinasoedd, ac yn eu tai,
2 Exod.21.13. Num.35.9. Ios.20.2. Nailldua it dair dinas yng-hanol dy dir, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it iw orescyn.
3Paratoa y ffordd i ti, a thraiâna derfyn dy dîr yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw yn etifeddiaeth it: fel y byddo i bob llofrudd ffoi yno.
4Dymma gyfraith y llofrudd yr hwn a ffŷ yno i fyw: yr hwn a darawo ei gymydog heb wybod, ac yntef heb ei gasau ef or blaen,
5Yr hwn a êlo gyd ai gymydog i’r coed, i gymmynu prennau, ac a estynno ei law ar fwyall i dorri y pren, a syrthio yr haiarn o’r menubr, a chyrhauddyd eî gymydog fel y byddo farw: efe a gaiff ffoi i vn o’r dinasoedd hyn, fel y byddo byw.
6 Num.35.12. Rhac i ddialudd y gwaed ddilyn ar ôl y llofrudd pan ddigio ei galon, ai oddiweddyd am fod y ffordd yn hir, ai daro ef yn farw, er na bydde ynddo ef haeddedigaeth marwolaeth, am nad oedd efe yn llidiog wrtho ef o’r blaen.
7Am hynny’r ydwyf yn gorchymyn i ti gan ddywedyd: tair dinas a nailldûi di i ti.
8A phan helaetho’r Arglwydd dy Dduw dy derfyn, fel y tyngodd wrth dy dadau, a rhoddi i ti yr holl dîr yr hwn a addawodd ei roddi wrth dy dadau,
9Pan gedwech y gorchymyn hwn oll gan wneuthur yr hyn yr ydwyfi yn ei orchymyn it heddyw: gan garu yr Arglwydd dy Dduw a rhodio yn ei ffyrdd ef yr holl ddyddiau: Iosu.20.7.yna y chwanegi i ti dair dinas hefyd at y tair hyn.
10Fel na ollynger gwaed gwirion o fewn dy dir, yr hwn y mae’r Arglwydd dy Dduw yn ei roddi it yn etifeddiaeth: ac na byddo gwaed i’th erbyn.
11Ond pan fyddo gŵr yn câsau ei gymydog, ac yn cynllwyn iddo a chodi yn ei erbyn, ai ddieneidio fel y byddo farw, a ffoi i vn o’r dinasoedd hyn:
12Yna anfoned henuriaid ei ddinas ef, a chymmerant ef oddi yno, a rhoddant ef yn llaw dialudd y gwaed, fel y byddo farw.
13Nac arbeded dy lygaid ef, ond tynn ymmaith gwaed gwirion o Israel, fel y byddo daioni it.
14Na symmut derfyn dy gymydog, yr hwn a derfynodd y rhai a fuant o’r blaen: o fewn dy etifeddiaeth yr hon a feddienni yn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti iw orescyn.
15Na choded Deut.17.6. Math.18.16. Ioan.8.17. 2.Cor.13.1. Hebr.10.28.vn tyst yn erbyn neb, am ddim anwiredd, neu ddim pechod, o’r holl bechodau y rhai a becho efe: wrth destiolaeth dau o dystion, neu wrth destiolaeth tri o dyftiō y bydd safadwy gair.
16Pan godo gau-dyst yn erbyn neb, gan destiolaethu bai yn ei erbyn ef,
17Yna safed y ddau ddyn y rhai amrafael rhyngddynt ger bron yr Arglwydd, o flaen yr offeiriaid a’r barn-wŷr y rhai a fyddant yn y dyddiau hynny.
18Ac ymofynned y barn-wŷr yn dda, ac os y tyst tŷst ffals, a destiolaetha ffalster yn erbyn ei frawd.
19 Diarh.19.5. Yna gwnewch iddo fel yr amcanodd wneuthur iw frawd, a thynn ymmaith y drygionus o’th fysc.
20A’r lleill a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur mwy yn ôl y peth drygionus hyn yn dy blith.
21Ac nac arbeded dy lygad: Exod.21.23. Lefit.24.20. Math.5.38.[bydded] enioes am enioes, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.