Genesis 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Duw yn peidio oddi wrth ei waith ar y seithfed dydd yr hwn a gyssegrir. 15 Duw yn gosod dyn yn yr ardd. 22 Creadwriaeth gwraig 24 ordinhad priodas.

1Felly y Exod.20.11.|EXO 20:11. Exod.31.17.|EXO 31:17. Hebre.4.4gorphennwyd y nefoedd a’r ddaiar, ai holl lu hwynt.

2Ac ar y seithfed dydd y gorphennodd Duw ei waith yr hwn a wnaethe efe, ac a orphwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethe efe.

3A Duw a fendîgodd y seithfed dydd, ac ai sancteiddiodd ef: o blegit ynddo y gorphywysase oddi wrth ei holl waith, yr hwn a grease Duw iw wneuthur.

4Dymma genedlaethau y nefoedd, a’r ddaiar, pan greuwyd hwynt, yn y dydd gwnaeth yr Arglwydd Dduw ddaiar, a nefoedd:

5A phôb planhigin y maes cyn ei fôd yn y ddaiar, a phôb llyssieun y maes cyn tarddu allan: o blegit ni pharase yr Arglwydd Dduw lawio ar y ddaiar, ac nid dŷn i lafurio y ddaiar.

6Onid tarth a escynnodd o’r ddaiar, ac a ddyfrhaodd holl wyneb y ddaiar.

7A’r Arglwydd Dduw a luniase y dŷn o bridd y daiar, ac a anadlase yn ei ffroenau ef anadl enioes, felly yr aeth y dŷn yn enaid byw.

8Hefyd yr Arglwydd Dduw a blannod ardd yn Eden o’ du y dwyrain, ac a ossododd yno y dŷn, yr hwn a luniase efe.

9A gwnaeth yr Arglwydd Dduw, i bôb prenn dymunol i’r golwg, a daionus yn fwyd, ac i brenn y bywyd yng-hanol yr ardd, ac i brenn gwybodaeth dâ a drwg, dyfu allan o’r ddaiar.

10Ac afon a aeth allan o Eden i ddyfrhâu yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen.

11Henw y cyntaf Pison, yr hon sydd yn amgylchu holl wlâd Hafila lle yr aur.

12Ac aur y wlâd honno sydd dda: yno Bdeliwm, a’r maen onix.

13A henw yr ail afon Gihon, honno sydd yn amgylchu holl wlâd Ethiop.

14A henw y drydedd afon Hidecel, honno sydd yn myned o du yr dwyrain i Assyria: a’r bedwaredd afon yw Euphrates.

15A’r Arglwydd Dduw a gymmerodd y dŷn, ac ai gossododd ef yng-ardd Eden, iw llafurio, ac iw chadw hi.

16A’r Arglwydd Dduw a orchymynnodd i’r dŷn, gan ddywedyd: o holl brennau yr ardd gan fwytta y bwyttei.

17Ond o brenn gwybodaeth dâ a drŵg, na fwytta o honaw: o blegit yn y dydd y bwytteich ti o honaw, gan farw y byddi farw.

18Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedase, nit dâ bod y dŷn ei hunan, gwnaf ymgeledd cymmwys iddo.

19A’r Arglwydd Dduw a luniodd o’r ddaiar holl fwyst-filod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac ai dygodd at y dyn i weled pa henw a rodde efe iddynt hwy: a pha fodd bynnac yr henwodd y dŷn bôb peth byw, hynny ei henw ef.

20Y dŷn yntef a henwodd henwau ar yr holl anifeiliaid ac ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwyst-filod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymmwys iddo.

21Yr Arglwydd Dduw am hynny a wnaeth i drym-gwsc syrthio ar y dŷn, fel y cyscodd, ac efe a gymmerodd vn oi assennau ef, ac a gaeodd gîg yn ei lle hi.

22A’r Arglwydd Dduw a wnaeth yr assen yr hon a gymmerase efe o’r dŷn, yn wraig, ac ai dûg at y dŷn.

23A’r dŷn a ddywedodd, hon weithian ascwrn o’m hescyrn i, a chnawd o’m cnawd i: hon a elwir gwraig, o blegit o ŵr y cymmerwyd hi.

24O herwydd hyn yr Mat.19.5.|MAT 19:5. Mar.10.7.|MRK 10:7. 2.Cor.6.10. Ephes.5.31ymedu gŵr ai dâd, ac ai fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant yn vn cnawd.

25Ac yr oeddynt ill dau yn noethion, Adda ai wraig: nid oedd arnynt gywilydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help