Ioan 15 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XV.Parabl Crist am y win-wydden a’i changhenhau. 9 Am gariad perffaith. 17 Am y byd hwn. 24 Am weithredoedd Crist.

1 Myfi yw’r wîr win-wydden, a’m Tad yw’r llafurwr.

2Pob Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu o honoch eu gilydd.

18Os y bŷd a’ch casâ, gŵybyddwch gashau o honaw fy fi o’ch blaen chwi.

19Pe buasech o’r byd, y byd a garase yr eiddo, eithr am nad ydych o’r byd, ond i mi eich dewis o’r byd, am hynny y mae y byd yn eich casau chwi.

20Cofiwch yr Ioan.13.16. Math.24. & 24.9. Luc.6.40.ymadrodd a ddywedais i wrthych, nad yw gwâs yn fwy nâi arglwydd, os erlidiâsant fi, hwy a’ch erlidiant chwithau: os cadwâsant fyng-orchymyn i, hwy a gadwant yr eiddoch chwithau.

21Eithr Ioan.16.4.hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a’m hanfonodd i.

22Oni bai ddarfod i mi ddyfod ac ymddiddan â hwynt, ni bydde arnynt bechod: ond yr awr hon nid oes ganddynt ddim i escusodi eu pechod.

23Y sawl sydd yn fyng-hasau i, sydd yn casau fy Nhâd hefyd.

24Pe buaswn heb wneuthur gweithredoedd yn eu plith hwy, y rhai ni wnaeth neb arall, ni buase arnynt bechod, ond yr awr hon, hwy a welsant, ac a’m casâsant i, a’m Tâd.

25Eithr fel y cyflawnid yr gair yr hwn sydd scrifennedic yn eu cyfraith hwynt: Psal.35.19.hwy a’m casâsant yn ddi-achos.

26Ond pan ddêl Luc.24.49. Ioan.14.26.y diddanwr yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tâd, Yspryd y gwirionedd yr hwn a ddeillia oddi wrth y Tâd, hwnnw a destiolaetha o honofi.

27A chwithau hefyd a destiolaethwch, a’m eich bod o’r dechreuad gyd â mi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help