Pregeth-wr 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Gorthrymder y diniwed. 4 Ofered llafur dyn. 9 Mor anghenrhaid yw cyfeillach. 13 A bod yr ieuangc call yn well na’r hên angall.

1Ond drachefn wrth edrych ar yr hôll rai gorthrymmedig tann yr haul, yna wele ddagrau y rhai gorthrymmedig heb nêb iw cyssuro, ac heb nerth ynddynt allan o law eu treis-wŷr, ac heb ganddynt neb iw cyssuro.

2Mi a ganmolais y meirw y rhai sydd yn barod wedi marw, yn fwy na’r byw y rhai ydynt yn fyw etto.

3Gwell na’r ddau yw’r neb ni bu yr ioed, canys ni welodd efe y blinder mawr sydd tann haul.

4A mi a welais fôd pob llafur, a phob iniondeb gwaith dŷn yn peri iddo genfigen gan ei gymmydog, hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder yspryd.

5Y ffôl a wasc ei ddwylo yng-hŷd, ac a fwyty ei gnawd ei hun

6Gwell yw lloned llaw trwy lonyddwch, na lloned dwy law trwy flinder a gorthrymder yspryd.

7Ond mi a drois, ac a welais yn wagedd tann yr haul.

8Y mae vn heb hiliogaeth iddo: i’r hwn nid oes na mâb na brawd, ac etto nid oes diwedd ar ei lafur ef oll: ie ni chaiff ei lygaid ddigon o gyfoeth, i bwy yr ydwyf yn llafurio, gan ddiddyfnu fy enaid oddi wrth hyfrydwch? hyn hefyd sydd wagedd, ac dymma drueni blin.

9Gwell yw dau nag vn, o achos bod iddynt obr da am eu llafur.

10Canys os syrthiant, y naill a gyfŷd y llall ond gwae yr unic: canys pan syrthio efe nid oes ail iw gyfodi.

11Hefyd os dau a gŷd orweddant hwy a ymgynhesant, ond yr unic pa fodd y cynnesa efe?

12Os cryfach fydd rhyw vn nar naill o honynt hwy, hwythau ill dau ai gorchfygant yntef, ond rhaff deircaingc ni thorrir ar frys.

13Gwell yw bachgen tlawd a doeth, na brenin hên ac ynfyd, yr hwn ni feidr gymmeryd rhybudd mwyach.

14Canys y sydd yn dyfod allan o’r carchar-dŷ i deyrnasu, a’r llall a anwyd yn y frenhiniaeth yn dlawd.

15Mi a welais y rhai byw oll y rhai ydynt yn rhodio dann yr haul, yn nesau at yr ail mâb yr hwn sydd i deyrnasu yn ei ôl ef.

16Nid oes diben ar yr holl bobl ar bawb a fu oi blaen hwynt, a’r rhai olaf ni lawenychant ynddo yntef: gwagedd yn ddiau a blinder yspryd hyn hefyd.

17Gwylia ar dy droed pan fyddech yn myned i dŷ Dduw, a bydd barottach i wrando nag i roi aberth ffoliaid, canys ni wyddant hwy eu bôd yn gwneuthur drwg.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help