2.Samuel 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.

1A 1.Cron.17.1.Phan eisteddodd y brenin yn ei dŷ: a rhoddi o’r Arglwydd lonydd iddo ef rhac ei holl elynion oddiamgylch:

2Yna y dywedodd y brenin wrth Nathan y prophwyd, wele yn awr fi yn preswylo mewn tŷ o cedr-wŷdd: ac Arch Dduw yn aros o fewn y cortinau.

3Yna Nathan a ddywedodd wrth y brenin, dos, gwna’r hyn oll yn dy galon, canys yr Arglwydd gyd a thi.

4A bu y nosson honno i air yr Arglwydd ddyfod at Nathan gan ddywedyd:

5Dos, a dywet wrth fyng-wâs Dafydd, fel hyn y dywed yr Arglwydd: ai ty di a adailedi i mi dŷ lle y cyfanneddwyfi?

6Canys nid arhosais mewn tŷ er y dydd yr arweiniais blant Israel o’r Aipht hyd y dydd hwn: eithr bum yn rhodio mewn pabell ac mewn tabernacl.

7Ym mha bynnac y rhodiais gyd a holl feibion Israel, a yngenais i air wrth vn o lywodraethwŷr Israel i’r rhai y gorchymynnais borthi fy mhobl Israel, gan ddywedyd pa ham nad adailadasoch i mi dŷ o cedr-wŷdd?

8Ac yn awr fel hyn y dywedi di wrth fyngwâs Dafydd, fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd, 2.Sam.61.12.(sic.)|1SA 16:12. Psal.78.70.myfi a’th gymmerais di o’r gorlan oddiar ôl y praidd: i fod yn flaenor ar fy mhobl Israel.

9A bum gyd a thi ym mha bynnac y rhodiaist, torrais ymmaith hefyd dy holl elynnion di o’th flaen: a gwneuthum enw mawr i ti megis enw’r rhai mwyaf yn y tîr.

10(Gosodaf hefyd i’m pobl Israel lê, a phlānaf ef, fel y trigo efe yn ei le ei hun, ac na symmuder ef mwyach: a meibion anwiredd ni chwanegant ei gystuddio ef megis gynt.

11Sef er y dydd yr hwn yr ordeiniais i farnwŷr ar fy mhobl Israel) a rhoddaf hefyd lonyddwch i ti oddi wrth dy holl elynnion: 1.Cron.17.10.yr Arglwydd hefyd sydd yn mynegu i ti, y gwnaiff yr Arglwydd dŷ i ti.

12Pan 1.Bren.8.20.gyflawnir dy ddyddiau di, a huno o honot gyd a’th dadau, yna y gosodaf dy hâd ti ar dy ôl di, yr hwn a ddaw allan o’th emyscaroedd di: a mi a gadarnhaf ei frenhiniaeth ef.

13Efe 1.Bren.5.5. 1.Cron.22.10.a adailada dŷ i’m enw i: minne a gadarnhaf orseddfaingc ei frenhiniaeth ef byth.

14 Heb.1.5.|HEB 1:5. Psal.8.9.31.(sic.) Myfi a fyddaf iddo ef yn dâd, ac yntef fydd i mi yn fab: pan droseddo efe, yna y ceryddaf ef a gwialen ddynawl, sef a phlagau meibion Dynion.

15Ond fy nhrugaredd ni ymedu ag ef: megis ac y tynnais ymmaith oddi wrth Saul yr hwn a dynnais ymmaith o’th flaen di.

16A’th dŷ di a siccrheuir a’th frenhiniaeth yn dragywydd o’th flaen di: dy orsedd-faingc a fydd gadarn byth.

17Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon: felly y llefarodd Nathā wrth Ddafydd.

18Yna y daeth y brenin Dafydd, ac a eisteddodd ger bron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, pwy ô Arglwydd Dduw, a phwy fy nhylwyth, pan ddygit ti fi hyd ymma?

19Ac etto bychan oedd hyn yn dy olwg di ô Arglwydd Dduw, 1.Cron.17.17.am hynny y lleferaist am dŷ dy wâs dros hîr amser: fel dymma arfer dŷn ô Arglwydd Dduw.

20Pa beth mwyach a ddywed Dafydd yn chwaneg wrthit? canys ti a adwaenost dy wâs ô Arglwydd Dduw.

21Er mwyn dy air di, ac yn ôl dy feddwl dy hun y gwnaethofi yr holl fawredd hyn, iw hyspyssu i’th wâs.

22Am hynny i’th fawrhauwyd ô Arglwydd Dduw: canys nid feltydi, ac nid Duw onid ti, yn ôl yr hyn oll a glywsom ni a’n clustiau.

23A Deut.4.7.pha vn genedl yn y tir megis dy bobl Israel yr hon yr aeth Duw iw gwaredu yn bobl iddo ef ei hun, ac i osod iddo enw; ac i wneuthur eroch chwi fawrhydri, a ofnadwy yn dy dir di, genhedloedd, ai duwiau o flaen dy bobl y rhai a waredaist ti o’r Aipht?

24Canys ti a siccrheaist i ti dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi Arglwydd ydwyt iddynt hwy yn Dduw.

25Ac yn awr ô Arglwydd Dduw cwplâ byth y gair yr hwn a leferaist am dy wâs, ac am ei dŷ ef: a gwna megis y dywedaist.

26Fel y mawrhaer dy enw yn dragywydd gan ddywedyd, Arglwydd y lluoedd Dduw ar Israel, a bydded tŷ dy wâs Dafydd yn gadarn ger dy fron di.

27Canys ti ô Arglwydd y lluoedd Duw Israel a fynegaist i’th wâs gan ddywedyd, adailadaf dŷ i ti: am hynny dy wâs a gafodd ei galon i weddio attati y weddi hon.

28Ac yn awr ô Arglwydd Dduw, ti ydwyt Dduw, a’th eiriau di fyddant mirionedd, a thi a leferaist am dy wâs y daioni hwn.

29Yn awr gan hynny rhynged bodd it fendigo tŷ dy wâs i fod ger dy fron di yn dragywydd: canys ti ô Arglwydd Dduw a leferaist, ac a’th fendith di y bendithier tŷ dy wâs yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help