1Yna Ahab a fynegodd i Iezabel yr hyn oll a wnaethe Elias: a chwbl oll a’r a laddase efe (sef yr holl brophwydi) a’r cleddyf.
2Yna Iezabel a anfonodd gennad at Elias gan ddywedyd, fel hyn y gwnelo y duwiau, ac fel hyn y chwanegant oni osodaf erbyn y pryd y foru dy enioes di fel enioes vn o honynt hwy.
3Pan welodd efe yna y cyfododd efe, ac efe a aeth am ei enioes, ac a ddaeth i Beerseba yr hon yn Iuda: ac efe a adawodd ei langc yno.
4Ac efe aeth i’r anialwch daith diwrnod, ac a ddaeth, ac a eisteddodd tann ryw fêrywen: ac a ddeisyfiodd gael marw, dywedodd hefyd, digō yw, yn awr Arglwydd cymer fy enaid, canys nid ydwyf fi well na’m tadau.
5Ac efe a orweddodd, ac a gyscodd tann ryw fêrywen: ac wele ryw angel yn cyffwrdd ag ef, yr hwn a ddywedodd wrtho ef, cyfot, bwytta.
6Ac efe a edrychodd, ac wele deisen wedi ei chrasu ar farwor, a pioled o ddwfr wrth ei ben ef: felly efe a fwytâodd, ac a yfodd, ac a ddychwelodd, ac a gyscodd.
7Ac angel yr Arglwydd a ddaeth trachefn yr ail waith, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd, cyfot bwytta: canys i ti lawer o ffordd.
8Yna efe a gyfododd, ac a fwyttaodd, ac a yfodd: a thrwy rym y bwyd hwnnw y cerddodd efe ddeugain nhiwrnod, a deugain nhôs hyd Horeb mynydd Duw.
9Ac yno yr aeth efe i fewn ogof, ac a letteuodd yno: ac wele air yr Arglwydd atto ef, ac efe a ddywedodd wrtho ef, beth di ymma Elias?
10Ac efe a ddywedodd, dygais fawr zêl dros Arglwydd Dduw y lluoedd, o herwydd i feibion Israel wrthod dy gyfammod ti, a destruwio dy allorau di, a ladd dy brophwydi di a’r cleddyf: a Rhuf.11.3.mi fy hunan a adawyd, a cheisio y maent hwy ddwyn fy enioes inne.
11Ac efe a ddywedodd, tyret allan, a saf yn y mynydd ger bron yr Arglwydd, ac wele yr Arglwydd yn myned heibio, a gwynt mawr a chryf yn rhwygo yr mynyddoedd, ac yn dryllio yr creigiau o flaen yr Arglwydd, nid yr Arglwydd yn y gwynt: ac ar ôl y gwynt daiar-gryn, ac nid yr Arglwydd yn y ddaiar-gryn.
12Ac ar ôl y ddaiar-gryn tân nid yr Arglwydd yn y tân: ac ar ôl y tân llef ddistaw fain.
13A phan glybu Elias yna efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell, ac a ddaeth allan, ac a safodd ddrŵs yr ogof: ac wele lef atto ef, yr hon a ddywedodd, beth di ymma Elias?
14Dywedodd yntef dygais zêl dros Arglwydd Dduw yr lluoedd, o herwydd i feibion Israel wrthod dy gyfammod ti a destruwio dy allorau, a lladd dy brophwydi a’r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd, a cheisio y maent fy enioes inne fel y dygent hi ymmaith.
15A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, dôs, dychwel i’th ffordd anialwch Damascus: pan ddelech eneinia Hazael yn frenin ar Syria.
16Iehu fab Nimsi a eneini di yn frenin ar Israel: ac Elisêus fab Saphat o Abel Meholah a eneini di yn brophwyd yn dy lê dy hun.
17A’r 2.Bren.9.1. eccle.48.8.hwn a ddiango rhac cleddyf Hazael, Iehu ai lladd ef: ac Elisêus a ladd yr hwn a ddiango rhac cleddyf Iehu.
18Ac Rhuf.11.4.mi a adewais yn Israel saith o filoedd: glinniau y rhai oll nid ymgrymmasant i Baal, a genau y rhai oll nis cussanasant ef.
19Felly efe aeth oddi yno, ac a gafodd Elisêus fab Saphat yn aredic a deuddec cwpl oi flaen, ac efe gyd a’r deuddec: ac a fwriodd ei fantell am dano ef.
20Ac efe a adawodd yr ŷchen, ac a redodd ar ôl Elias, ac a ddywedodd, attolwg gad i mi gussanu fy nhâd, a’m mam, ac mi a ddeuaf ar dy ôl: ac yntef a ddywedodd wrtho ef, dôs, dychwel, canys beth a wneuthum i ti?
21Ac efe a ddychwelodd oddi ar ei ôl ef, ac a gymmerth gwpl o ychen, ac ai lladdodd, ac ag offer yr ŷchen efe ai berwodd hwynt, ac a roddodd y cîg i’r bobl, ac hwy a fwyttawsant: yna efe a gyfododd, ac a aeth ar ôl Elias, ac ai gwasanaethodd ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.